Dyn 68 oed wedi marw ar fynydd Pen-y-fan yn ystod digwyddiad gwytnwch

Llun o'r awyr o fynydd Pen-y-Fan, Corn Du a llyn Cwm Llwch yn y Bannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar fynydd uchaf Bannau Brycheiniog tra'n cymryd rhan mewn digwyddiad gwytnwch sy'n cael ei ddefnyddio i helpu hyfforddi aelodau o'r lluoedd arfog.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal mynydd Pen-y-fan am 11:00 ddydd Sadwrn.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod dyn 68 oed wedi marw wedi i bryderon godi ynghylch ei les.
Dywed trefnwyr y ras Fan Dance, dolen allanol, Avalanche Endurance Events (AEE), eu bod yn meddwl am deulu'r dyn, ac yn gweithio ar ddarparu amserlen lawn am yr hyn a ddigwyddodd.
Mae'r digwyddiad yn cael ei ddisgrifio fel "prawf dethol ar gyfer y lluoedd arbennig mwyaf profiadol ac enwocaf yn y byd" ac yn "rhan annatod" o lwybr dethol yr SAS ym Mhrydain.
Yn ôl y trefnwyr mae'r ras 15 milltir fel arfer yn cymryd rhwng tair a saith awr i'w chwblhau, yn ddibynnol ar amodau'r tywydd.
'Ymateb cyflym'
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd cyfarwyddwr ymdaith AEE, Ken Jones, eu bod "wedi cael marwolaeth yn ystod digwyddiad y Gyfres Rasys Fan Dance ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf".
Dywedodd bod "ein ffocws a meddyliau gyda'r teulu" a bod dim bwriad cyhoeddi unrhyw ddatganiadau pellach "nes fydd gan y teulu amserlen lawn" o'r hyn a ddigwyddodd ac yn "cymeradwyo unrhyw gyfathrebu pellach".
"Mae ein tîm yn gweithio ar hyn o bryd... hoffwn ni ddiolch i'r Gwasanaeth Ambiwlans Awyr, Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog, a Thîm Diogelwch Mynydd AEE am eu hymateb cyflym a'u proffesiynoldeb".
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod swyddogion wedi eu hanfon yn dilyn galwad frys yn nodi pryderon am les dyn, ond "yn anffodus, bu farw'r dyn 68 oed".
Dywedodd llefarydd fod teulu'r dyn wedi cael gwybod a bod y farwolaeth "ddim yn cael ei drin fel un amheus".
Ychwanegodd bod y Crwner wedi cael manylion yr achos a bydd yr heddlu'n parhau i roi cymorth i'r ymchwiliad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.