Athrawes mewn 'sioc lwyr' a'n gwaedu o'i phen ar ôl cael ei thrywanu

- Cyhoeddwyd
Roedd athrawes a gafodd ei thrywanu mewn ysgol uwchradd yn Sir Benfro yn gwaedu o'i phen ac mewn "cyflwr o sioc lwyr", clywodd achos llys.
Cafodd Vicki Williams, athrawes hanes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, ei thrywanu gan ddisgybl ar 5 Chwefror.
Clywodd y llys fod y bachgen, oedd yn 15 ar y pryd, wedi dilyn Vicki Williams i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn "hyrddio" ati gyda chyllell gegin fawr.
Dywedodd Vicki Williams iddi gael ei thrywanu yn ei phen a'i bod wedi cael anafiadau i'w dwylo a'i chefn wrth geisio amddiffyn ei hun.

Cafodd Vicki Williams, athrawes hanes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, ei thrywanu gan ddisgybl ar 5 Chwefror
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.
Ar drydydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, clywodd y llys dystiolaeth gan aelodau staff yr ysgol.
Yn ôl Mr Stephen Williams, rheolwr ymddygiad a chynhwysiant yn Ysgol Aberdaugleddau, roedd Ms Williams yn "ofnus, wedi'i syfrdanu ac yn ddryslyd" pan gyrhaeddodd yr ystafell dosbarth wedi'r digwyddiad.
"Roedd gwaed ar ei dwylo, ei phen a'i hwyneb," meddai.
"Roedd y gwaed yn rhedeg i lawr ei hwyneb.
"Roedd hi'n cadw dweud 'Pam fi?', 'Beth wnes i?', ac nid oedd hi'n gwybod beth oedd hi wedi'i wneud o'i le," meddai.
Ychwanegodd Mr Williams nad oedd unrhyw hanes o wrthdaro rhwng Vicki Williams a'r bachgen.

Dywedodd prif swyddog cymorth cyntaf yr ysgol, Laura Jones, wrth y llys fod Vicki Williams "mewn cyflwr o sioc" pan gafodd ei galw i'w helpu.
"Roedd hi wedi cael sioc, yn ofidus ac yn crio," meddai Mrs Jones.
"Dywedodd fod y bachgen wedi dod i mewn i'r dosbarth ac ymosod arni gyda chyllell.
"Roedd hi mewn cyflwr o sioc lwyr."
Dywedodd Mrs Jones fod y gyllell yn dal i fod ar y ddesg yn y dosbarth.
Disgrifiodd y gyllell fel un "fawr iawn, yn anarferol o fawr ar gyfer cyllell cartref; ac yn fwy tebyg i gyllell bwyty".
Cafodd y gyllell ei dangos i'r rheithgor.
Ychwanegodd Laura Jones fod Mrs Williams wedi dweud wrthi ei bod wedi gorfod "ymladd" gyda'r bachgen i gael y gyllell, a dyna sut y cafodd anafiadau i'w dwylo.
Yn ei datganiad i'r heddlu, clywodd y rheithgor fod Mrs Jones wedi disgrifio'r bachgen fel un "tawel", a'i grŵp o ffrindiau fel rhai oedd yn achosi "pryder".

Dywedodd aelod arall o staff, Gavin Charlesworth, sy'n gynorthwyydd cymorth dysgu yn yr ysgol, fod dwylo Vicki Williams yn "crynu" wrth iddo gyrraedd i helpu.
"Roedd ganddi anafiadau bach ar y ddwy law," meddai.
Dywedodd Vicki Williams wrth Mr Charlesworth ei bod hi wedi codi ei dwylo i geisio amddiffyn ei hun.
"Dywedodd iddi bwyso'n ôl yn y gadair a defnyddio ei thraed i geisio ei wthio i ffwrdd," meddai Mr Charlesworth.
Disgrifiwyd y bachgen yn y llys fel un "tawel" ac un nad oedd fel arfer yn achosi trafferth.
Clywodd y llys fod y gwasanaethau brys wedi cyrraedd yr ysgol "yn gyflym iawn", a dywedodd y dirprwy bennaeth, Sean Thomas, ei fod wedi cloi'r ysgol.
Mae'r erlyniad yn dadlau bod y weithred o drywanu yn un oedd â bwriad i ladd, tra bod yr amddiffyniad yn dweud ei bod yn ddamwain.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

