'Fy nhaid wnaeth ddarganfod trysorau o'r Oes Haearn o fawn Llyn Cerrig Bach'

Delyth Owen a Haf Roberts yn arddangosfa Llyn Cerrig Bach yn Oriel Môn
- Cyhoeddwyd
Roedd William Owen Roberts yn carthu mawn o gors ar lan ddeheuol Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn yn 1942 pan ddaeth ar draws trysorau o'r Oes Haearn gan gynnwys celc o arfau, cerbydau, offer ceffylau a gwrthrychau defodol.
Ar y pryd roedd William yn gwneud diwrnod arferol o waith fel prif dirmon i'r Llu Awyr Brenhinol yn Y Fali. Roedd yr Weinyddiaeth Awyr eisiau atal tywod rhag chwythu i beiriannau awyrennau yn y gwersyll awyr newydd a adeiladwyd ar dwyni tywod.
Syniad William oedd carthu mawn o gorsydd cyfagos a'i daenu ar y safle er mwyn hau hadau gwair arno. Dyna pryd y daeth ar draws cadwyn o'r Oes Haearn.
Darganfuwyd mwy o drysorau a daeth Llyn Cerrig Bach yn un o safleoedd archeolegol pwysicaf Prydain.

Y diweddar William Owen Roberts
'Oedd Taid yn gwybod fod rhywbeth pwysig am y tsiaen'
Mewn rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru, Trysorau o'r Mawn, mae Haf Roberts yn cyfarfod wyres William Owen Roberts, Delyth Owen.
Delyth fu'n egluro sut y daeth ei thaid ar draws hen gadwyn haearn wrth weithio ar y mawndir â thractor.
"Be' nath ddigwydd wrth garthu'r mawn oedd nath y tractor fynd yn styc, oedd y dynion wedi trio gymaint o wahanol betha' i dynnu'r tractor yma allan, dim byd yn gweithio, a wedyn oedd Taid yn cofio bod tsiaen ar un ochr o'r mwd, a ddeudodd o wrth y bois 'Triwch hwn de!'
"Ar ôl clymu'r gadwyn i'r tractor tynnwyd y tractor yn rhydd. Ond roedd gan William Owen Roberts deimlad fod yr hen gadwyn yma'n un go arbennig.
"Oedd Taid yn gwybod fod rhywbeth pwysig am y tsiaen.
"Yn syth ar ôl cael y tractor yn rhydd, aeth o ar ei feic i'r swyddfa gyda'r tsiaen ar ei handlebars. Dyma fo'n dweud wrth swyddogion RAF (yn Saesneg siŵr o fod), 'Dwi'n meddwl fod hwn yn rili pwysig'.
"Fe dynnodd lun efo pensel o'r gadwyn a gyrru fo lawr at Cyril Fox, curadur yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd."

Haf gyda'r gadwyn yn Oriel Môn
Celc Llyn Cerrig Bach
Maes o law daeth celc cyfan i'r golwg gan gynnwys 11 cleddyf, 8 pen picell, rhan o darian a darnau hyd at 10 i 22 o wahanol gerbydau rhyfel. Mae rhai o'r gwrthrychau yn lleol, er fod ychydig yn dod o Iwerddon a nifer o dde Lloegr.
Erbyn heddiw mae trysorau Llyn Cerrig Bach yn cael eu cadw yn Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, ac mae arddangosfa hefyd yn Oriel Môn, Llangefni.

Trysorau Llyn Cerrig Bach
A chyn i'r holl gelc gael eu rhoi i Amgueddfa Cymru er mwyn eu cadw'n ddiogel, mae Delyth yn cofio'r tin o drysorau oedd yn eu cartref tra'n tyfu i fyny.
"Oedd gan Mam din metel yn y tŷ. Oedd yna betha' yn y tin metal yma a toeddan ni fel plant ddim yn siŵr be oeddan nhw a dwi'n cael goosebumps rŵan yn deud beth oedd ynddo fo.
"Agor y tin metal 'ma, tynnu cotton wool a dyna lle oeddan nhw - dau gylch metal haearn a dau bit ceffyl.
"Dwi dal yn cofio gafael ynddyn nhw a chwarae efo nhw a Mam yn deud 'plis byddwch yn ofalus, mae'n iawn i chi chwarae efo nhw ond cofiwch gadw nhw a roi nhw nôl yn y tin. Rŵan dwi'n gweld nhw tu ôl i glass panel yn Oriel Ynys Môn."
Mawn Môn wedi gwarchod y celc
Ond sut wnaeth mawn Môn lwyddo i gadw celc Llyn Cerrig Bach mewn cyflwr mor dda?
Yr amgylcheddwraig Paula Roberts fu'n egluro wrth Haf Roberts:
"Mae corsydd Môn bach yn wahanol i'r corsydd sydd ar ucheldiroedd Cymru. Corsydd tir isel ydi rhain a be sy'n gyffredin ydi'r ffaith bod nhw yn ardaloedd gwlyb iawn, a maen nhw'n ardaloedd sydd efo bioamrywiaeth eitha' arbennig.
"Mae'r ddau beth yn cyfrannu at sut mae deunyddiau organig yn treulio a torri lawr dros amser.

Paula Roberts yn rhoi esboniad i Haf Roberts
"Os awn ni yn ôl i feddwl am bridd cyffredin a meddwl os ydi rhywun yn rhoi pren neu deiliach neu beth bynnag mewn pridd cyffredin, mae'r microbau a ffyngau sydd yn y pridd hwnnw'n torri'r meinweodd yna i lawr.
"Maen nhw'n defnyddio ocsigen, a defnyddio beth bynnag 'dan ni wedi gladdu fel swmp o ocsigen ac yn cynhyrchu carbon deuocsid, ond wrth gwrs, mewn mawndir mae'r gofodau bach yna o fewn y pridd sydd fel arfer yn cynnwys aer a mymryn o ddŵr yn llawn o ddŵr mewn mawndiroedd, ac mae ocsigen yn treiddio llawer iawn arafach mewn dŵr i gymharu ag aer.
"Felly be s'gynnon ni mewn cors neu fawndir ydi amgylchedd anaerobig. Arbenigol ydi y microbau a ffyngau sy'n medru goroesi yn yr amgylchedd felly dim ond niferoedd bychan iawn ohonyn nhw sydd ar gael, a dydyn nhw ddim yn rhai sydd yn arbenigo mewn torri lawr cemegau carbon cymhleth.
"Hefyd mewn cors mae'r amgylchedd reit asidig sydd hefyd yn egluro pam fod y creiriau wedi cael eu gwarchod."
Pam taflu trysorau i'r dŵr?
Er fod celc Llyn Cerrig Bach wedi eu darganfod yn y mawn, mae'n edrych yn debyg fod y celc wedi cael eu taflu i ddŵr yr afon ac na chawsant erioed eu defnyddio. Ond pam?
Dr Ffion Reynolds sy'n gweithio i Cadw a sy'n arbenigo'n hanes yr hen fyd fu'n egluro wrth Haf Roberts:
"Be' sy'n ddiddorol i fi ydi mae rhai o'r gwrthrychau yma wedi cael eu rhoi yn y dŵr a ddim wedi cael eu defnyddio. Felly beth yw'r rheswm tu ôl hynny a dros daflu gwrthrychau arbennig sydd wedi cymryd sgiliau mawr i'w creu ac yn wrthrychau ymarferol fel spearhead?

Llyn Cerrig Bach
"Wel i fi mae 'na ddau rewm - rheswm ymarferol ac ysbrydol.
"'Dan ni'n gorfod dychmygu fod y metelau yma'n bwysig ofnadwy i bobl yn yr Oes Haearn ac mae'r traddodiad yma o roi metelau yn y dŵr wedi bod yn mynd ymlaen ers yr Oes Mesolithig.
"Mae'n draddodiad hen ac yn draddodiad lle roedden nhw'n trio cadw gwerth y metel i fyny felly roedden am gadw rhai metelau yn ôl yn hytrach na'u defnyddio."
I glywed rhagor gwrandewch ar:
Trysorau o'r Mawn
- Adran y stori
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017

- Cyhoeddwyd26 Chwefror
