Pardwn i'r Gymraes oedd y ddynes olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain

Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig yn 1955
- Cyhoeddwyd
Mae Ruth Ellis, y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig, wedi cael pardwn amodol ar ôl 70 mlynedd.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cyfiawnder llywodraeth y DU, David Lammy, fod y Brenin wedi derbyn cyngor y llywodraeth i roi'r pardwn, yn dilyn cais gan bedwar o wyrion ac wyresau Ruth Ellis.
Wrth roi'r pardwn dywedodd y llywodraeth ei fod yn cydnabod bod amgylchiadau eithriadol yr achos, gan gynnwys tystiolaeth o gam-drin domestig ac ymddygiad rheolaethol a gorfodol, yn debygol o gael eu hystyried yn wahanol heddiw.
Yn ôl y llywodraeth, roedd y cais yn dadlau bod cyfrifoldeb Ruth Ellis am y drosedd wedi'i lunio'n sylweddol gan flynyddoedd o gamdriniaeth, trawma ac amgylchiadau na chafodd eu cydnabod yn briodol yn ystod ei hachos yn 1955.
Mae pardwn amodol yn golygu bod ei dedfryd marwolaeth yn cael ei disodli gan ddedfryd o garchar am oes, ond nid yw'n diddymu'r euogfarn am lofruddiaeth.

Cafodd Ruth Ellis ei dienyddio ar ôl cael ei chanfod yn euog o lofruddio ei chariad, David Blakely
Cafodd Ruth Ellis ei geni yn y Rhyl ym 1926 cyn i'w theulu symud i Lundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ar 10 Ebrill 1955 saethodd ei chariad, David Blakely, yn farw y tu allan i dafarn Magdala yn Llundain.
Roedd Ruth Ellis wedi dweud ei bod wedi dioddef cam-drin gan Blakely cyn ei farwolaeth, ond ni chafodd tystiolaeth o effaith y gamdriniaeth honno ei hystyried yn y ffordd y byddai o dan gyfraith heddiw.
Cafodd ei chanfod yn euog o lofruddiaeth a'i chrogi ar 13 Gorffennaf 1955 yn 28 oed, gan ddod y fenyw olaf i gael y gosb eithaf yn y Deyrnas Unedig.
Ruth Ellis: Y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2025
Nic Parry: Stori Ruth Ellis yn 'ysgytwol'
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2025
Yn 1965 cafodd y gosb eithaf am lofruddiaeth ei diddymu ym Mhrydain.
Dywedodd y llywodraeth y byddai cyfreithiau heddiw wedi gallu caniatáu i amddiffyniadau fel colli rheolaeth neu gyfrifoldeb llai gael eu hystyried gan reithgor, ac a allai fod wedi lleihau ei heuogfarn o lofruddiaeth i ddynladdiad.
Dywedodd David Lammy: "Ni allwn newid yr hyn a ddigwyddodd 70 mlynedd yn ôl, ond gallwn gydnabod bod hwn yn achos eithriadol.
"Mae pardwn amodol heddiw yn weithred o drugaredd."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r pardwn yn dod â "rhywfaint o heddwch" i deulu Ruth Ellis.

Dywedodd Laura Enston fod y pardwn yn golygu bod "cyfiawnder wedi'i wneud o'r diwedd" i'w mam-gu
Dywedodd ei hwyres, Laura Enston, fod y penderfyniad yn golygu bod "cyfiawnder wedi'i wneud o'r diwedd" i'w mam-gu.
"Nid yw'r pardwn hwn yn dadwneud yr hyn a ddigwyddodd 71 mlynedd yn ôl.
"Nid yw'n adfer y bywydau a ddinistriwyd - y plant a adawyd ar ôl, y blynyddoedd a gollwyd.
"Ond mae'n cydnabod yn ffurfiol ac yn derfynol na ddylai Ruth fod wedi cael ei dienyddio a bod y system gyfiawnder wedi ei methu.
"Mae'r gydnabyddiaeth honno'n bwysig iawn i'n teulu.
Ychwanegodd fod Ruth Ellis wedi bod yn "ddioddefwr cam-drin parhaus a chreulon", a bod effaith ei dienyddio wedi cael ei theimlo gan ei theulu am ddwy genhedlaeth.
Dywedodd ei bod yn ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Cyfiawnder am "gael y dewrder i weithredu", gan ddweud ei bod yn gobeithio y byddai stori Ruth Ellis yn atgoffa'r system gyfiawnder o'r angen i gydnabod effaith cam-drin ar fenywod, ac i beidio ag ofni cyfaddef pan fo camgymeriadau wedi'u gwneud.
'Byddai sefyllfa Ruth Ellis yn wahanol heddiw'
Mae'r hanesydd Dr Mari Wiliam wedi ymchwilio i achos Ruth Ellis ar gyfer rhaglen ddogfen ar S4C.
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Mercher, dywedodd ei fod yn "ddiwrnod hanesyddol".
"Os 'di rywun yn edrych yn ôl ar y modd oedd y cyfryngau'n trafod Ruth Ellis yn ôl yng nghanol y 50au, mi oedd hi wrth gwrs yn ffigwr trawiadol iawn," meddai.
"Mi oedd hi'n ffigwr nodedigol o glamorous. Mi oedd ganddi elfennau Marilyn Monroe o'i chwmpas, y gwallt blond trawiadol.
"Mi oedd hi'n rheoli ac yn hostess mewn clybiau nos. Felly, mi oedd hi'n berson trawiadol i'r wasg ganolbwyntio arno."
Dywedodd bod Ruth Ellis yn "ffigwr eith trasig yn hanes Prydain" a oedd "eisiau byw" a sicrhau "dyfodol gwell" i'w hun a'i phlant.
Ychwanegodd "mi fysa rhywun yn gobeithio y bydd sefyllfa Ruth Ellis yn wahanol heddiw".
"Ond wedi dweud hynny, mi oedd hi'n wynebu lot o fysoginistiaeth nôl yn y 50au yn y ffordd roedd hi'n cael ei phortreadu. Mae'n gwestiwn os ydy hynny wedi diflannu heddiw wrth gwrs."