1996: y flwyddyn mwyaf arwyddocaol yn hanes pop Cymraeg?

Cerys Matthews yn 1996Ffynhonnell y llun, Martyn Goodacre/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Prif ganwr Catatonia Cerys Matthews yn 1996

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae rhai blynyddoedd yn sefyll allan yn hanes pop Cymru a'r sin roc Gymraeg: 1965 – rhif 1 cyntaf Tom Jones; 1967 – blwyddyn Y Blew, y band roc trydanol cynta i ganu'n Gymraeg; agor stiwdios newydd Sain yn 1975; 1981 – dau rif un gan Shakin' Stevens; 1986 rhyddhau record gyntaf Llwybr Llaethog.

Ond mae 1996 yn flwyddyn nodedig am sawl rheswm a'r cyfnod yn cael ei weld fel croesffordd yn y sin Gymraeg wrth i fandiau ddechrau canu'n Saesneg.

Ar 20 Mai 1996 wnaeth y Manic Street Preachers ryddhau Everything Must Go, eu pedwerydd albwm a'r un arweiniodd at y band o'r Coed Duon yn dod yn fyd enwog. Dechrau taith debyg wnaeth y Stereophonics yn yr un flwyddyn gan arwyddo i label V2 a rhyddhau eu sengl gyntaf.

Super Furry Animals o flaen eu tanc ar Faes yr Eisteddfod yn Llandeilo 1996Ffynhonnell y llun, Mirrorpix via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Super Furry Animals o flaen eu tanc glas ar Faes yr Eisteddfod yn Llandeilo 1996

Yn y sin Gymraeg wnaeth y band dwy-ieithog Gorky's Zygotic Mynci, oedd ar recordiau Ankst, arwyddo i Fontana, is-label cwmni rhyngwladol Universal. Ac fe wnaeth Catatonia a'r Super Furry Animals rhyddhau eu halbymau cyntaf yn Saesneg gan ddod yn adnabyddus ymhell tu hwnt i Glawdd Offa.

Mwyaf sydyn, i'r wasg yn Llundain oedd wedi bod yn trafod Britpop ers sawl blwyddyn, roedd Cymru yn 'cŵl'.

Nawr mae cyfres newydd ar BBC Radio Cymru yn edrych ar y berthynas rhwng y sin roc a'r iaith o'r 60au i heddiw, gyda chyfnod 'Cŵl Cymru' yn ganolog.

Y Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith?

Y berthynas rhwng y sin roc Gymraeg a’r iaith - o’r 60au i Cŵl Cymru a thu hwnt

Un sy'n cofio'r cyfnod ydi'r cerddor Barry 'Archie' Jones.

"Dwi'n cofio gwrando ar Radio 1, a cân Gorky's Zygotic Mynci – Merched yn Neud Gwallt eu Gilydd - dwi'n cofio gwrando ar hwnna ar Radio 1 a meddwl 'wow, da'," meddai ar Y Gân Sy'n Mynd i Achub yr Iaith?

"A switchio drosodd i Radio Cymru ac oedd Billy Ocean ymlaen – ac o'n i'n meddwl bod hynna jyst yn dweud llwyth."

O fewn y sin Gymraeg, oedd wedi datblygu dros y degawdau law yn llaw gydag adfer yr iaith, ymysg dathlu'r llwyddiant roedd 'na bryder am yr effaith ar y sin.

Roedd nifer o aelodau Catatonia a'r Super Furry Animals wedi bod yn wynebau cyfarwydd yn y sîn Gymraeg ers blynyddoedd mewn bandiau fel Ffa Coffi Pawb, Y Cyrff, Crumblowers a U Thant.

CatatoniaFfynhonnell y llun, Mick Hutson/Redferns/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ail albwm Catatonia International Velvet gyrraedd rhif 1 yn siartiau Prydain yn 1998. Ar ddechrau eu gyrfa fe wnaethon nhw recordio caneuon Cymraeg a Saesneg

Ar y pryd roedd Iestyn George yn newyddiadurwr efo cylchgrawn cerddoriaeth yr NME yn Llundain.

Meddai: "Roedd e'n bwynt llosg y ffaith bod nhw'n canu'n ddwyieithog. Rwy'n credu bod pobl yn credu... bod e'n sinigaidd - bod pobl yn meddwl am eu gyrfaoedd nhw yn fwy nag yn meddwl am yr iaith.

"Achos yn hanesyddol, mae pobl wedi dadlau yn y gorffennol bod cerddoriaeth gyfoes Cymraeg [wedi] ei greu er mwyn hybu'r iaith.

"Ond dydi actorion sydd wedi gweithio yn Gymraeg a Saesneg ddim yn cael beirniadaeth."

Dafydd Iwan yn canu yn 1968
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y sin gerddoriaeth Gymraeg ddatblygu law yn llaw gyda mudiad adfer yr iaith, gan gynnwys canu protest yr 1960au gan artistiaid blaenllaw fel y cenedlaetholwr Dafydd Iwan, aeth yn ei flaen i sefydlu Recordiau Sain

Ar 20 Mai 1996, yr un diwrnod a'r Manics, wnaeth y Super Furry Animals ryddhau eu halbym cyntaf Fuzzy Logic.

Yn fuan wedyn roedden nhw'n y newyddion ac yn cael eu beirniadu am ganu caneuon Saesneg oddiar yr albwm yng Ngŵyl y Cnapan, Ffostrasol.

Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandelio, fe wnaeth Gruff Rhys chwibanu yn lle canu'r geiriau er mwyn parchu'r rheol iaith.

Gruff Rhys yn chwibanu
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Rhys ar Faes Eisteddfod Llandeilo 1996 yn chwibanu yn lle canu geiriau caneuon Saesneg y Super Furry Animals. Roedd y band hefyd wedi rhannu taflenni gyda geiriau'r caneuon, gan gynnwys cyfieithiad Japanaeg

Mewn gig gyda'r nos yng Nghlwb y Gwernllwyn fe gafodd eu ffans gopi am ddim o'u sengl newydd oedd yn ymateb i'r drafodaeth – (Nid) Hon yw'r Gân sy'n Mynd i Achub yr Iaith.

Mae Ian Morris, prif ganwr Tynal Tywyll, yn cofio'r sensitifrwydd o gwmpas y syniad o fandiau Cymraeg yn canu'n Saesneg ar ddiwedd yr '80au a dechrau'r '90au gyda rhai artistiaid yn nerfus o feirniadaeth.

Ian Morris, prif leisydd band o'r 1980au Tynal Tywyll
Disgrifiad o’r llun,

Ian Morris, prif leisydd band o'r 1980au Tynal Tywyll

"Roedd o'n wir efo rygbi, lle'r oedd pobl oedd yn newid côd (o rygbi undeb i rygbi'r gynghrair), oedd nhw'n cael lot gwaeth na unrhyw gerddor erioed wedi ei gael - isho stripio nhw o allu i ennill bywoliaeth a byth yn cael dod yn ôl i Gymru," meddai.

"Efallai bod o'n rywbeth am beth oedden ni'n licio am yr Olympics pan oedden nhw'n Corinthians ac yn ei wneud o am ddim, a'i wneud o dros the nature of the sport.

"Falla oeddan ni'n dipyn bach fel yna am y sîn roc Gymraeg."

Malan a Barry 'Archie' Jones
Disgrifiad o’r llun,

Barry Jones, sydd ond wedi cyfansoddi yn Gymraeg, a'i ferch Malan - sy'n rhyddhau caneuon Cymraeg a Saesneg

Mae Archie, sy'n aelod o'r band Celt, yn dweud bod 'Cŵl Cymru' yn ffin pendant yn agweddau artistiaid tuag at geisio gwneud bywoliaeth o gerddoriaeth pop, gyda'r bandiau wedi agor y drws i'r posibilrwydd o wneud gyrfa ohoni.

Ond mae'n dweud bod elfennau negyddol wedi dod i'r sin am gyfnod pan ddechreuodd bandiau Cymraeg oedd eisiau llwyddo tu hwnt i Glawdd Offa newid eu henwau.

Meddai: "Roedda ni'n sylwi ella wrth fynd i neud gigs ac roedd 'na support band efo un o'r enwau yma oedd yn gweithio'n Gymraeg ac yn Saesneg - nid gymaint efo un llygad ar y targed ond yn cymryd yn ganiataol mai mater o amser fydd hi ac roedd yr agwedd yna yn gallu bod yn niweidiol.

"Roedd lot o hynny'n digwydd. Diolch i'r drefn, mae hwnna i weld tu ôl i ni rŵan achos ella bod gymaint o'r bandiau yma wedi sylweddoli - doedd o ddim mor hawdd â hynna."

Dadansoddiad

GanGriff Lynch
Cyflwynydd Y Gân Sy'n Mynd i Achub yr Iaith?

Roedd hwn yn gyfnod lle wnaeth diwylliant Britpop a'r sin gerddoriaeth Gymraeg rywsut ddechrau asio. Cyn i'r Furries, Catatonia a Gorky's gael eu harwyddo a chael llwyddiant rhyngwladol, doedd neb o ddifri wedi pontio rhwng y sin Gymraeg oedd eisoes yn bodoli - wedi'i gwreiddio mewn gwleidyddiaeth, iaith a diwylliant Cymreig - a'r diwydiant cerddoriaeth fyd-eang.

Rhaid cofio'r cyd-destun ehangach hefyd. Roedd pres yn y diwydiant cerddoriaeth bryd hynny - mwy nag oedd erioed wedi bod o'r blaen. Roedd hi'n anochel, mewn ffordd, fod cerddorion oedd wedi'u magu mewn diwylliant Cymraeg yn mynd i groesi drosodd i'r brif ffrwd. Dim ond mater o amser oedd hi. O lle dwi'n gweld hi, mi oedd 'Cŵl Cymru' yn fwy o adain o Britpop nag oedd o'n wrthddiwylliant.

Beth bynnag oedd pobl yn ei feddwl am arwyddocâd hynny ar y pryd, does dim dwywaith, wrth edrych yn ôl nawr, fod y dirwedd wedi newid yn llwyr. Heddiw, mae'r rhesymau dros i artistiaid ganu drwy'r Gymraeg yn llawer mwy amrywiol. I rai, mae'n ffordd o fod yn rhan o sin. I eraill, mae'n dod yn gwbl naturiol. Ac i rai, dydy canu mewn mwy nag un iaith ddim yn rwbath i feddwl dwywaith amdano.

Mae gen i deimlad nad oedd neb, ar y pryd, yn ofnadwy o ymwybodol o'r shifft yna. Ond fel rhywun sy'n edrych yn ôl heddiw ar yr hanes a'r amserlen, dyna dwi'n ei weld.

Mae rhaglenni Y Gân Sy'n Mynd i Achub yr Iaith? yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru am 16:00 ar 5 a 12 Gorffennaf, ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.