'Roedd rhaid bwrw iddi', medd dyn a achubodd bachgen, 3, rhag boddi

Fe wnaeth Stefan Johnson achub bachgen tair oed o bwll ym Mharc Gwledig Bryngarw dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd
Mae tad i ddau wedi disgrifio sut yr achubodd blentyn ifanc rhag boddi mewn parc gwledig dros y penwythnos, a hynny dair wythnos ar ôl bod ar gwrs sgiliau achub bywyd.
Cafodd Heddlu'r De eu galw i Barc Gwledig Bryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr am 14:20 ddydd Sadwrn wedi i fachgen tair oed fynd i drafferth yn y dŵr.
Fe neidiodd Stefan Johnson i'r dŵr cyn i ddwy nyrs, Emma Brown a Kelsey Pirie, a oedd cerdded yn y parc ar y pryd, gynnal CPR ar y plentyn.
Cafodd y bachgen, o Gasnewydd, ei gludo i'r ysbyty, ble mae mewn cyflwr sefydlog.

Stefan gyda'i bartner Sophie a'i fab, George
Roedd Stefan yn y parc gyda'i ddau blentyn – George, sy'n dair oed, a Nora, sy'n dri mis oed – a'i bartner Sophie Thomas.
Pan welodd y bachgen yn y dŵr gyntaf, roedd yn meddwl ei fod yn nofio cyn synhwyro'n sydyn bod rhywbeth mawr o'i le - neidiodd i'r dŵr a'i dynnu allan.
Ni allai deimlo pỳls y plentyn ac fe ddechreuodd rhoi CPR iddo wrth i Sophie weiddi am gymorth.
"Ti'n meddwl 'mae hyn yn digwydd go iawn rŵan, rhaid bwrw iddi'," meddai'r gweithiwr cymorth 35 oed.
"Mae'n hollol wahanol i gael dummy o dy flaen di," ychwanegodd, gan gyfeirio at fod ar gwrs gloywi achub bywyd ychydig wythnosau ynghynt yn unig.

Roedd Emma a Kelsey ar eu ffordd i briodas ffrind pan glywson nhw Sophie yn gweiddi am gymorth
Roedd Emma Brown, 38, a Kelsey Pirie, 35, ar deras Tŷ Bryngarw ac ar fin mynd i briodas pan glywodd y ddwy ohonyn nhw Sophie'n gweiddi a rhedeg i gyfeiriad sŵn y llais.
Dywedodd Emma eu bod wedi taflu eu sodlau wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa ddod yn amlwg, a bod y bachgen "yn ddiymateb, heb unrhyw arwyddion o fywyd o gwbl".
Aethon nhw ati i barhau gyda rhoi CPR iddo, ond doedd dim newid yn ei gyflwr ar ôl rhyw bum munud.
Gyda thorf wedi ymgasglu o'u cwmpas yn gwylio, fe deimlodd y ddwy elfen o "banig" - fel nyrsys oedolion, doedd yr un ohonyn nhw wedi rhoi CPR i blentyn o'r blaen.
"Doedd 'na ddim tîm crash yna'n helpu ni na seiniwr brys i'w bwyso - dim ond greddf," meddai Kelsey.
"Yn llythrennol, fe adfywiodd [y bachgen] wrth i'r parafeddygon gyrraedd," dywedodd Emma. "Roedd yr amseriad yn rhyfeddol."

Y pwll ym Mharc Gwledig Bryngarw lle cafodd y bachgen ei achub
Dywedodd Stefan ei fod wedi teimlo "rhyddhad" pan welodd frest y bachgen yn symud o'r diwedd, ond mae'r sefyllfa'n ailchwarae'n gyson yn ei feddwl ers hynny.
Mae hefyd wedi cael hunllefau lle na allai achub y bachgen bach.
"Pan dwi'n gyrru yn y car ar ben fy hun, dwi'n gweld ei wyneb yn arnofio yn y dŵr, dwi'n gweld ei gorff ar y palmant," meddai.
Drwy rannu ei brofiad mae'n gobeithio bydd mwy o bobl yn cael eu hannog i wneud cyrsiau achub bywyd.
Yn ôl Emma, a welodd ei ffrind yn priodi'r prynhawn hwnnw ar ôl oedi byr i'r seremoni, fe fydd y profiad yn "aros gyda ni am byth".
Dywedodd Heddlu'r De fod y bachgen tair oed o Gasnewydd wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr sefydlog, a bod ymchwiliad i'r hyn a ddigwyddodd ar y gweill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.