Pêl-droediwr 15 oed yw'r ieuengaf erioed i gynrychioli Caerdydd

Noah AnyadikeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Noah Anyadike hefyd yw'r chwaraewr ieuengaf yn hanes Cwpan yr EFL

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr 15 oed o Sir Gaerfyrddin wedi torri record trwy ddod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae dros dîm cyntaf Caerdydd.

Gyda sawl amddiffynnwr canol wedi'u hanafu i'r Adar Gleision, cafodd Noah Anyadike ei ddewis i ddechrau'r gêm yn erbyn Norwich yn ail rownd Cwpan yr EFL nos Fawrth.

Ag yntau'n 15 mlwydd a 98 diwrnod oed, Anyadike hefyd yw'r chwaraewr ieuengaf yn hanes Cwpan yr EFL - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Cwpan Cynghrair Lloegr, neu Gwpan Carabao - gan dorri'r record a osodwyd gan Harvey Elliott i Fulham yn 2019 o 76 diwrnod.

Colli o 2-1 wnaeth Caerdydd nos Fawrth gyda Yousef Salech yn sgorio unig gôl yr Adar Gleision.

Dyw Anyadike ddim yn bell o fod y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae gêm gystadleuol ym mhrif gynghreiriau Lloegr - roedd Reuben Noble-Lazarus 53 diwrnod yn iau pan chwaraeodd i Rochdale yn 2008.

Anyadike yw'r trydydd chwaraewr yn y 12 mis diwethaf i dorri'r record o fod y chwaraewr ieuengaf i gynrychioli Caerdydd, yn dilyn Rob Tankiewicz (16 mlwydd a 117 diwrnod) ac Axel Donczew (15 mlwydd a 234 diwrnod).

Cyn hynny, Aaron Ramsey oedd â'r record am 18 mlynedd, wedi iddo chwarae i'r clwb yn 16 mlwydd a 123 diwrnod oed yn 2007.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.