Esgob newydd eisiau diwylliant 'agored a saff' wedi cyfnod cythryblus

Dywedodd Manon Ceridwen James bod y gwaith o wella'r sefyllfa yn yr esgobaeth "wedi cychwyn yn barod"
- Cyhoeddwyd
Mae esgob newydd Bangor wedi dweud ei bod eisiau "diwylliant agored a saff" yn dilyn cyfnod cythryblus i'r esgobaeth dros fisoedd diweddar.
Fe gafodd Manon Ceridwen James ei hethol yn esgob newydd Bangor ddydd Mercher.
Mae'r swydd wedi bod yn wag ers ymddeoliad y cyn-Esgob, Andy John, yn Awst 2025.
Cafodd pryderon eu codi am Gadeirlan Bangor llynedd, gan gynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu.
Dywedodd Manon Ceridwen James fod y tîm eisoes "wedi cychwyn" gyda'r gwaith o greu "diwylliant saff".
Ethol esgob newydd Bangor wedi deuddydd o drafod
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl
Dewis esgob newydd Bangor bron i flwyddyn ar ôl i Andy John ymddeol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd yr Esgob newydd fod ganddi "deimladau cymysg" wrth gychwyn yn y rôl.
Ers mis Medi mae wedi bod yn ddeon yn gadeirlan a dywedodd mai "mynd i'r afael â'r argymhellion" yn dilyn y cyfnod heriol oedd ei swyddogaeth.
Dywedodd ei bod wedi "rhoi prosesau mewn lle a sicrhau llywodraethiant dda, dyna 'di'r unig ffordd allwn ni sicrhau bod hwn ddim yn digwydd eto".
"Mae'r gwaith wedi cychwyn yn barod, dwi'n credu'n gryf mewn cael diwylliant agored fel bod pobl yn gallu dweud be' maen nhw eisiau ei ddweud a theimlo'n gyfforddus a bod yn saff yn seicolegol," meddai.
'Trio newid y stori'
Er y cyfnod heriol, dywedodd ei bod yn awyddus i arddangos y "newyddion da" sy'n digwydd o fewn yr esgobaeth.
"Dwi 'di cael llond bol ar y geiriau 'cyfnod cythryblus', dwi 'di clywed y geiriau yna gymaint o weithiau ond 'da ni wedi bod yn trio newid y stori," meddai.
James hefyd yw'r fenyw gyntaf i ymgymryd â'r rôl, a dywedodd bod sawl menyw bellach yn rhan o'r uwch dîm.
Ac er prysurdeb y swydd newydd, mae'n edrych ymlaen at barhau gyda'i diddordebau, gan gynnwys bod yn gefnogwr brwd o bêl-droed Cymru ac yn aelod o'r Wal Goch.
Dywedodd iddi "wylio pêl-droed neithiwr," ar ôl cael ei hethol.
"Ma' cael bywyd tu allan yn hollbwysig felly dwi dal yn aelod cryf o'r Wal Goch ac mi fydda i'n parhau i fod yn aelod cryf o'r Wal Goch."
Beth yw'r cyd-destun?

Mae Esgobaeth Bangor wedi bod yn y penawdau dros fisoedd diweddar
Fe wnaeth dau adroddiad amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor ym mis Mai'r llynedd.
Roedd yr adroddiadau'n datgelu cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu yng Nghadeirlan Bangor.
Doedd dim awgrym yn yr adroddiadau bod Andy John, a oedd hefyd yn Archesgob Cymru tan ddiwedd mis Mehefin, wedi ymddwyn yn amhriodol.
Ddiwedd Gorffennaf cafodd Esgob Mynwy, Cherry Vann ei hethol yn Archesgob Cymru yn ei le - y ddynes gyntaf i gael ei hethol i'r swydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.