Ethol esgob newydd Bangor wedi deuddydd o drafod

Ar hyn o bryd Dr Manon Ceridwen James yw Deon Cadeirlan Bangor
- Cyhoeddwyd
Mae'r Tra Pharchedig Manon Ceridwen James wedi cael ei hethol yn esgob newydd Bangor.
Ar hyn o bryd mae hi'n Ddeon y Gadeirlan yn y ddinas.
Ers ddydd Mawrth mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi bod yn cyfarfod yn Llandudno - a'r esgob newydd yw'r 82ain i ymgymryd â'r rôl.
Mae'r swydd wedi bod yn wag ers 31 Awst 2025 ar ôl i'r cyn-Esgob Andy John ymddeol yn dilyn cyfnod cythryblus i'w esgobaeth ym Mangor.

Yn ystod ei chyfnod fel Deon mae Dr Manon Ceridwen James wedi bod yn mynd i'r afael â nifer o faterion llywodraethu a chyllid heriol dros y flwyddyn ddiwethaf, medd datganiad yr Eglwys yng Nghymru.
Cafodd Manon ei magu yn Nefyn, ym Mhen Llŷn, a chafodd ei hordeinio'n ddiacon yn 1994 yn Eglwys Gadeiriol Bangor cyn bod ymhlith y merched cyntaf i gael ei hordeinio'n offeiriad yn yr esgobaeth yn 1997.
Mae hi wedi gwasanaethu fel offeiriad plwyf yn esgobaethau Bangor a Llanelwy yn ogystal â dal amrywiaeth o rolau esgobaethol mewn hyfforddiant, addysg a galwedigaethau, yr olaf ohonynt oedd fel Cyfarwyddwraig Gweinidogaeth.
Rhwng 2018 a 2025 roedd Manon yn Ddeon Hyfforddiant Gweinidogol Cychwynnol yn Athrofa Padarn Sant yng Nghaerdydd.
Yn ei hamser rhydd, mae Manon yn mwynhau ysgrifennu barddoniaeth a mynd i gemau pêl-droed Cymru a Wrecsam yn ogystal â digwyddiadau comedi gyda'i gŵr, Dylan sy'n Rheolydd Cyllidol Grŵp Prifysgol Bangor.

Mae gan Manon radd mewn Diwinyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt a PhD mewn Diwinyddiaeth Ymarferol o Brifysgol Birmingham.
Ymhlith ei chyhoeddiadau mae llyfr yn seiliedig ar ei hymchwil PhD, Women, Identity and Religion in Wales a chasgliad o farddoniaeth - Notes from a Eucharistic Life. Mae sawl un o'i gwasanaethau ysgol hefyd wedi cael eu cyhoeddi gan SPCK.
Ar ôl i'r bleidlais gyrraedd mwyafrif o ddwy ran o dair o'r pleidleiswyr, gwnaed y cyhoeddiad wrth ddrws Eglwys y Drindod Sanctaidd, gan gadarnhau Manon Ceridwen James fel yr esgob-etholedig i arwain Esgobaeth Bangor—rhanbarth sydd â chysylltiad cyfoethog â phererindod a gweddi, yn ymestyn o Ynys Môn i Benrhyn Llŷn.
Dywedodd Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann: "Y mae Manon yn adnabyddus i bobl yr esgobaeth ac mi fydd yn gaffaeliad i'r esgobaeth, y Dalaith ac i Fainc yr Esgobion. Rydym wrth ein bodd ei bod wedi ei hethol a dymunwn bob bendith arni wrth iddi gamu i'r weinidogaeth newydd."
Yn dilyn yr etholiad hwn, mae gan yr esgob-etholedig hyd at 28 diwrnod i dderbyn y swydd yn ffurfiol.
Os byddant yn gwneud hynny, bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol yng nghyfarfod yr esgobion yn y synod sanctaidd, gyda'r cysegriad a'r gorseddu yn dilyn maes o law.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2025
