Carcharu dyn wnaeth gadw corff ei fam mewn rhewgell am dair blynedd

Roedd Christopher Phillips wedi pledio'n euog i gyhuddiad o atal claddedigaeth gyfreithlon a pharchus, a dau gyhuddiad o dwyll
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 60 oed wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis o garchar ar ôl cyfaddef cadw gweddillion ei fam mewn rhewgell am bron i dair blynedd, a pharhau i hawlio ei phensiwn a'i budd-daliadau.
Cafodd corff Sylvia Phillips, 89, ei ddarganfod yn ei chartref ym Mhorthcawl ym mis Chwefror ar ôl i'w meddyg ofyn i'r heddlu wneud ymholiadau am ei lles.
Bu farw Ms Phillips ym mis Mawrth 2023, ac fe glywodd Llys y Goron Merthyr i'w mab ddweud "nad oedd yn gallu gadael iddi fynd".
Yn y llys ddydd Llun cafodd Christopher Phillips ei garcharu wedi iddo bledio'n euog i atal claddedigaeth gyfreithlon a pharchus, a dau gyhuddiad o dwyll.

Cafodd yr heddlu eu galw i gartref Sylvia Phillips ym Mhorthcawl ym mis Chwefror yn dilyn pryderon am ei lles
Clywodd y llys bod Christopher Phillips wedi dweud wrth seiciatrydd "na allai adael i'w fam fynd" a'i fod eisiau "rhagor o amser gyda hi."
Deuddydd wedi marwolaeth ei fam ar 8 Mawrth 2023 roedd Phillips wedi archebu cist rewgell ar gyfer y cartref ym Mhorthcawl.
Bu corff ei fam yno nes i'r heddlu fynd i'w chartref i wneud archwiliad lles ar gais ei meddyg ar 17 Chwefror 2026.
Cafodd y corff ei ddarganfod wedi ei lapio mewn blanced sidan gyda phatrwm llewpard arno, gyda rhosod melyn a phinc wedi eu gosod ar y corff, a cherdyn pen-blwydd "I Mam" gan Christopher a chi'r teulu, Tina.
Clywodd y llys bod y feddygfa leol wedi ceisio cysylltu â Ms Phillips nifer o weithiau, ond i'w mab atal mynediad.
Cafodd ei gweld ddiwethaf gan ei meddyg teulu yn ei chartref ar 26 Medi 2022, ac wedi hynny fe barhaodd Mr Phillips i gasglu ei meddyginiaethau, a'i phensiwn a'i budd-daliadau oedd werth cyfanswm o £78,190.92.
Corff menyw wedi'i ddarganfod mewn rhewgell wedi pryderon meddyg - cwest
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Arestio dyn ar ôl i fenyw gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
Dyn yn y llys ar ôl canfod corff menyw yn ei 80au mewn rhewgell
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
Cafodd cwest i farwolaeth Ms Phillips ei agor a'i ohirio ym mis Ebrill 2026, ac fe glywodd y gwrandawiad nad oedd hi'n glir sut y bu hi farw, ond y gred yw nad oedd unrhyw amgylchiadau amheus.
Wrth ddedfrydu Phillips dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd-Clarke ei fod wedi "celu marwolaeth ei fam yn fwriadol a chymryd camau i roi'r argraff ei bod hi'n dal yn fyw".
"Fe wnaethoch chi barhau i gasglu ei phresgripsiwn a dweud celwydd wrth swyddogion meddygol, ac yn y pendraw yr heddlu."
Dywedodd y barnwr y bydd amserlen yn cael ei gosod maes o law ar gyfer hawlio'r arian y gwnaeth ei gasglu drwy dwyll yn ôl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.