Dewis esgob newydd Bangor bron i flwyddyn ar ôl i Andy John ymddeol

Mae Esgobaeth Bangor wedi bod heb esgob ers i Andy John ymddeol yn dilyn dau adroddiad beirniadol
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i esgob nesaf Bangor gael ei ethol yr wythnos hon wrth i Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru gyfarfod yn Llandudno ddydd Mawrth.
Mae'r rôl wedi bod yn wag ers 31 Awst 2025 ar ôl i'r cyn-Esgob Andy John ymddeol yn dilyn cyfnod cythryblus i'w esgobaeth ym Mangor.
Fe wnaeth dau adroddiad beirniadol amlinellu pryderon am Gadeirlan Bangor ym mis Mai'r llynedd.
Roedd yr adroddiadau'n cynnwys cwynion am "ddiwylliant lle'r oedd ffiniau rhywiol yn ymddangos yn aneglur", yfed alcohol yn ormodol a gwendidau o ran llywodraethiant a diogelu yng Nghadeirlan Bangor.
Doedd dim awgrym yn yr adroddiadau bod Andy John, a oedd hefyd yn Archesgob Cymru tan ddiwedd mis Mehefin, wedi ymddwyn yn amhriodol.
Ddiwedd Gorffennaf cafodd Esgob Mynwy, Cherry Vann ei hethol yn Archesgob Cymru yn ei le - y ddynes gyntaf i gael ei hethol i'r swydd.
'Mae'r etholiad yma dan sawl cysgod'
Dyma fydd yr eildro i'r Coleg Etholiadol gyfarfod i ddewis esgob nesaf Bangor, ar ôl iddyn nhw fethu a dod o hyd i unrhyw un oedd yn addas i'r swydd yn yr hydref.
Mae'r methiant hynny wedi gadael y rôl yn wag ers bron i flwyddyn, gan wneud yr angen i ddewis y person iawn i gymryd drosodd "yn eithriadol o bwysig" yn ôl John Roberts, cyflwynydd 'Bwrw Golwg' Radio Cymru.
"Mae'r etholiad yma dan sawl cysgod," meddai Roberts.
"Y cysgod cyntaf ydy'r helynt flwyddyn yn ôl pan 'nath yr Archesgob orfod ymddeol o'i waith.
"Wedyn ym mis Hydref fe gynhaliwyd Coleg Etholiadol i ethol olynydd i Andy John a naethon nhw fethu penodi ac felly mi na'th yr Archesgob newydd benderfynu ei bod hi am benodi esgob profiadol i weinyddu am ryw flwyddyn neu ddwy.
"Mae hwnna di bod yn gysgod arall achos naethon nhw fethu penodi neb i wneud y gwaith hwnnw.
"Rwan mae'r Coleg Etholiadol yn cyfarfod eto, ac yng nghanol hyn i gyd mae angen rhywun eithriadol o ddewr, eithriadol o ddoeth ac eithriadol o gadarn er mwyn delio gyda sefyllfa sydd mor anodd... sefyllfa sydd wedi pydru mynd am flwyddyn bellach heb neb yn cymryd cyfrifoldeb go iawn, heb neb yn symud pethau yn eu blaen."
Y camau sydd wedi arwain at hyn
Ym mis Chwefror 2025 cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r hyn oedd wedi'i ddisgrifio gan Archesgob Cymru Andy John fel "mater hynod o ddifrifol a brys" yng Nghadeirlan Bangor.
Roedd y materion yn gysylltiedig â diogelu.
Fe orchmynnodd Andy John, oedd hefyd yn Esgob Bangor, "broses ymweld" - term yr eglwys am ymchwiliad gan ofyn i nifer o uwch swyddogion o'r Eglwys yng Nghymru i weithredu ar ei ran.
Fe wnaeth hefyd gomisiynu gwasanaethau proffesiynol y sefydliad annibynnol Thirtyone:eight sy'n arbenigo mewn materion diogelu mewn lleoliadau eglwysig.

Roedd Andrew John yn Esgob Bangor rhwng 2008-2025, ac yn Archesgob Cymru rhwng 2021-2025
Ym mis Mai o'r un flwyddyn cafodd adroddiadau beirniadol eu cyhoeddi yn amlinellu pryderon am ddiogelu ac ymddygiad gwael yng Nghadeirlan Bangor, gan gynnwys "diwylliant lle'r oedd hi'n ymddangos bod terfynau rhywiol wedi eu cymylu", y defnydd o iaith anweddus, a diffyg cod ymddygiad.
Wrth ymateb i'r adroddiadau dywedodd y Parchedicaf Andrew John fod y canfyddiadau "yn anodd eu clywed" ond bod rhaid delio â nhw "er mwyn symud ymlaen gyda didwylledd".
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi cydnabod gwendidau diogelu, arferion rheoli gwan heb dryloywder digonol a chamymddwyn mewn perthynas â defnydd alcohol ac ymddygiad rhywiol yn y Gadeirlan.
Fe gafodd grŵp gweithredu a bwrdd goruchwylio eu creu gan yr Eglwys yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r materion.
Diffyg hyder yn yr arweinyddiaeth
Yn fuan ar ôl i grynodeb o'r ddau adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru cynyddodd y pwysau ar Andy John gyda rhai yn anfodlon gyda'r diffyg manylion, gan feirniadu'r Eglwys am "ddiffyg tryloywder".
Dechreuodd rhai alw ar y cyn-Archesgob i ymddiswyddo, gan gynnwys aelod o'r Eglwys yng Nghymru ac aelod o Senedd San Steffan.
Mewn ymateb dywedodd y Parchedicaf Andrew John ei fod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i unrhyw aelodau'r Eglwys Gadeiriol sydd wedi eu brifo neu'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr" gan ddweud y bydd yn gweithio gydag eraill "i sicrhau bod newid parhaol yn digwydd".
Tua mis yn ddiweddarach, ar ôl cyfarfod hir yn trafod y sefyllfa o fewn Esgobaeth Bangor, roedd Corff y Cynrychiolwyr, sy'n ymddiriedolwyr yr Eglwys yng Nghymru, wedi drafftio a chytuno ar ddatganiad yn datgan nad oedd ganddynt hyder yn arweinyddiaeth Esgobaeth Bangor.
Lai nag wythnos ar ôl hynny cyhoeddodd Andy John ei fod yn ymddeol fel Archesgob Cymru ar unwaith ac y byddai hefyd yn ymddeol fel Esgob Bangor ar 31 Awst.
Ddydd Mawrth bydd y Coleg Etholiadol yn cyfarfod yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno i geisio llenwi'r rôl - yr esgob newydd fydd yr 82ain i ddwyn teitl Esgob Bangor.
Mae gan y coleg tan ddiwedd ddydd Iau i ddewis esgob nesaf Bangor.
Os na fydd cytundeb erbyn hynny, bydd yn rhaid trefnu dyddiad pellach i drafod y swydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.