Golwg ar etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 11:14 GMT+1 8 Mai
Etholiad 2026
Mae Pen-y-bont Bro Morgannwg yn etholaeth Senedd newydd, yn cyfuno rhannau o hen seddi Pen-y-bont, Ogwr, a Bro Morgannwg.
Ffeithiau allweddol
- Poblogaeth: 194,600
- Amcangyfrif siaradwyr Cymraeg: 11%
- Economi: Twristiaeth, amaeth, parciau busnes, byrddau iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro, manwerthu (McArthurGlen)

Costau byw, swyddi, tai a thrafnidiaeth yw'r pynciau pwysig - gyda nifer yn teithio i Gaerdydd i weithio
Mae ardaloedd arfordirol, gwledig a threfol yn yr etholaeth hon ac mae hefyd yn gartref i Faes Awyr Caerdydd.
Yn sefyll yma mae Luke Fletcher a gafodd ei ethol yn AS rhanbarthol yn 2021 - mae e'n drydydd ar restr Plaid Cymru.
Yn sefyll hefyd mae Andrew R T Davies sydd wedi bod yn AS rhanbarthol ers 2007 ac yn gyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, ac Altaf Hussain a fu'n AS rhanbarthol o 2015-16 ac yna ers 2021.
Hefyd yn sefyll mae Sarah Murphy a gafodd ei hethol yn AS Llafur Pen-y-bont ar Ogwr yn 2021 ac yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol mae Caroline Jones - bu hi'n Aelod dros UKIP tan 2018. Gwrthododd bod yn drydydd ar restr Reform ym Mhontypridd.
Mae canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd i'w weld yma.

















