Ar eich marciau...wedi ei gyhoeddi 10:02 GMT+1 8 Mai
Sara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
Mae’r ras etholiadol ar fin dechrau yn Velodrome Cenedlaethol Geraint Thomas.
Mae’n dawel yma ar hyn o bryd ond dyma un o’r etholaethau prin oedd yn gwirhau pleidleisiau dros nos ac mae staff yn dechrau dychwelyd i ddechrau’r cyfri tua 10:00.

Ras wahanol heddiw yn Velodrome Cenedlaethol Geraint Thomas
Mae un ffynhonnell o’r gwirio nos wedi dweud bod pethau’n edrych “yn wael iawn” i’r Blaid Lafur yma, sydd o hyd wedi bod yn ardal gyfforddus iddyn nhw. Islwyn oedd sedd cyn-arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan Neil Kinnock.
Un posibiliad yw bod Plaid Cymru a Reform yn ennill tair sedd yr un, gan waredu y Blaid Lafur yn gyfangwbl neu mae yna adroddiadau y gall Jayne Bryant o’r Blaid Lafur ddal gafael ar ei sedd hi.
Gydag arweinydd Reform Dan Thomas yn sefyll yma, mae'n sicr yn sedd mae’r blaid yn llygadu. Does dim sôn o’r gŵr o’r Coed Duon eto yma yn y felodrom. Mae yna suon y bydd Nigel Farage yn gwneud ymddangosiad i ddangos ei gefnogaeth ond heb ei gadarnhau.
Mae Casnewydd Islwyn yn gyfuniad o hen etholaethau Islwyn, Dwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd. Dyma’r ail etholaeth fwyaf o ran poblogaeth a 47.8% wedi pleidleisio yn yr etholiad hon, ffigwr sylweddol uwch nag etholiadau’r gorffennol.























