Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  • Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf

  • Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  • Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"

  • Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro

  • Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

  • Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd

  • Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd

  • 16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

  1. Golwg ar etholaeth Casnewydd Islwynwedi ei gyhoeddi 07:49 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae Casnewydd Islwyn yn etholaeth Senedd newydd, yn cyfuno rhannau o hen seddi Islwyn, Dwyrain Casnewydd, a Gorllewin Casnewydd.

    Ffeithiau allweddol

    • Poblogaeth: 220,058
    • Amcangyfrif siaradwyr Cymraeg: 8%
    • Economi: Porthladdoedd/logisteg (Dociau Casnewydd), Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, diwydiannau ysgafn, manwerthu/lletygarwch (Friars Walk), Coleg Gwent

    islwynFfynhonnell y llun, Getty Images

    Pwysau ar y GIG, traffig ar yr M4, ac adfywio'r stryd fawr yw'r prif faterion o bwys.

    Mae lefel uchel o amddifadedd a thlodi plant yn yr etholaeth ac mae iddi hanes diwydiannol o ran glo, haearn a dur.

    Mae dau a oedd yn ASau Llafur yn sefyll yn yr etholaeth hon sef Jayne Bryant a gafodd ei hethol yn AS Gorllewin Casnewydd yn 2016 a Rhianon Passmore a gafodd hefyd ei hethol yn AS Islwyn yn 2016.

    Yma mae Peredur Owen Griffiths yn sefyll ar ran Plaid Cymru. Ef sydd ar frig y rhestr ac yn nhymor diwethaf y Senedd roedd yn cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru.

    Ar frig rhestr Reform yn yr etholaeth hon mae Dan Thomas - mae e wedi bod yn arweinydd Reform Cymru ers Chwefror 2026.

    Ar frig rhestr y Ceidwadwyr mae Natasha Ashgar - cafodd ei hethol i gynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn 2021 gan olynu ei thad a fu farw yn 2020.

    Mae canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd i'w weld yma.

  2. Nifer o bleidleiswyr yn 'gadarnhaol'wedi ei gyhoeddi 07:42 GMT+1 8 Mai

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Gyda’r cyfrif yn digwydd yn ystod y dydd heddiw yn hytrach na dros nos, ychydig o wybodaeth gadarn sydd ar gael ar hyn o bryd.

    Ond mae dwy etholaeth wedi cyhoeddi'r canran o'u hetholwyr wnaeth bleidleisio - 47.8% yng Nghasnewydd Islwyn a 47.7% ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni.

    Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Dr Elin Royles bod llai o bobl fel arfer yn troi allan i etholiadau Senedd Cymru na San Steffan. Ychwanegodd bod y ffigwr fel arfer hefyd yn llai ym Mlaenau Gwent na mewn nifer o ardaloedd o Gymru.

    Meddai: “Er bod o ddim yn swnio mor bositif â hynny... at ei gilydd mae hynny’n eitha’ cadarnhaol - mae’r tuedd yn awgrymu gallwn ni weld canran uwch yn pleidleisio mewn ardaloedd eraill.”

    Disgrifiad,

    Roedd degau o bobl yn felodrôm Casnewydd dros nos yn gwirhau'r pleidleisiau

  3. Rhai yn debygol o fod wedi methu â phleidleisio gan na chafon nhw bleidlais bostwedi ei gyhoeddi 07:32 GMT+1 8 Mai

    Gruff RhysFfynhonnell y llun, Getty Images

    Mae'n debygol bod rhai wedi methu â phleidleisio am na chafon nhw bleidlais bost.

    Ddydd Mercher fe wnaeth Cyngor Caerdydd gadarnhau bod dros 1,300 o bobl heb dderbyn eu pecynnau pleidleisio post mewn da bryd ar gyfer yr etholiad.

    Mae'r Post Brenhinol yn dweud na chafodd y pleidleisiau post coll eu hargraffu, ac nad oedden nhw wedi eu derbyn er mwyn eu dosbarthu.

    Ddiwrnod cyn yr etholiad disgrifiodd Gruff Rhys, prif leisydd Super Furry Animals, y sefyllfa fel "ffiasgo", gan ddweud ei fod yn "siomedig" na fyddai'n debygol o dderbyn ei bleidlais bost mewn pryd cyn mynd ar daith gyda'r band.

    blwch postioFfynhonnell y llun, Getty Images

    Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor ar ôl trafodaethau pellach gyda'u hargraffwyr, eu bod "wedi cael cadarnhad nad oedd y pecynnau pleidleisio gafodd eu trefnu ar gyfer yr wythnos diwethaf wedi cael eu hargraffu, er bod y cyngor wedi darparu'r wybodaeth".

    "Yn wreiddiol, fe wnaeth hyn arwain at 1,388 o becynnau ddim yn cael eu danfon i etholwyr yng Nghaerdydd, yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth."

  4. Y wên ddoe wrth bleidleisio ond pwy fydd yn gwenu heddiw?wedi ei gyhoeddi 07:22 GMT+1 8 Mai

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Os yw'r dyfalu'n gywir, bydd yr etholiad yn dod â rhediad Eluned Morgan fel prif weinidog i ben

    Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn pleidleisio gyda'i deulu yn Llangristiolus ddydd Iau

    Dan Thomas
    Disgrifiad o’r llun,

    Dan Thomas yw arweinydd Reform UK yng Nghymru

    Darren MillarFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn pleidleisio gyda'i ferch ym Mae Cinmel

    Anthony SlaughterFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Anthony Slaughter

    Jane Dodds
    Disgrifiad o’r llun,

    Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru

  5. 16 etholaeth y tro hwn - y rhestr yn llawnwedi ei gyhoeddi 07:17 GMT+1 8 Mai

    map

    Dyma'r rhestr o'r etholaethau newydd yn llawn:

    • Bangor Conwy Môn
    • Clwyd
    • Fflint Wrecsam
    • Gwynedd Maldwyn
    • Ceredigion Penfro
    • Sir Gaerfyrddin
    • Gŵyr Abertawe
    • Brycheiniog Tawe Nedd
    • Afan Ogwr Rhondda
    • Pontypridd Cynon Merthyr
    • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
    • Sir Fynwy Torfaen
    • Casnewydd Islwyn
    • Caerdydd Penarth
    • Caerdydd Ffynnon Taf
    • Pen-y-bont Bro Morgannwg
    Disgrifiad,

    Beth oedd y newidiadau mawr i etholiad y Senedd 2026?

  6. Gwirhau pleidleisiau tair etholaeth dros noswedi ei gyhoeddi 07:14 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae pleidleisiau etholaethau Casnewydd Islwyn, Sir Fynwy Torfaen a Blaenau Gwent Caerffili Rhymni wedi cael eu gwirhau ( y term y mae'r Senedd yn ei ddefnyddio am verify) dros nos.

    Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad, wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd.

    Mae'r broses hon yn digwydd heddiw mewn etholaethau eraill.

    Casnewydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Y pleidleisiau'n cael eu gwirhau yng Nghasnewydd

  7. Pa mor bell all Llafur syrthio?wedi ei gyhoeddi 07:10 GMT+1 8 Mai

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    O ystyried goruchafiaeth hanesyddol Llafur yng Nghymru, mae’n anochel y bydd yr etholiad hwn yn cael ei weld fel un siomedig i’r blaid - beth bynnag fydd y canlyniad.

    Y cwestiwn mawr yw pa mor bell y gall y gefnogaeth iddi syrthio. Byddai gorffen yn drydydd y tu ôl i Blaid Cymru a Reform yn ergyd seicolegol sylweddol.

    Ond pe bai’r blaid yn dal i ennill tua 15 sedd neu fwy, byddai hynny’n sicrhau ei bod yn parhau’n bresenoldeb pwysig yn y Senedd ac yn rhoi sylfaen ar gyfer ailadeiladu.

    Pryder mwyaf Llafur, fodd bynnag, yw y gallai patrwm tebyg i’r hyn a welwyd yn isetholiad Caerffili ailadrodd ei hun ar draws Cymru, gyda phleidleiswyr y blaid yn symud at Blaid Cymru.

    Pe bai hynny’n digwydd ar raddfa eang, gallai pleidlais y blaid Llafur gael ei gwasgu’n sylweddol - gan ostwng cyfanswm seddi’r blaid i 10 neu lai.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Eluned Morgan, Arweinydd Llafur Cymru - ond am ba hyd?

    Cwestiwn mawr arall i Lafur yw pwy fydd yn arwain y blaid yn y Senedd ar ôl yr etholiad. Nid yw’r arwyddion yn edrych yn addawol i Eluned Morgan, sy’n sefyll yn etholaeth Ceredigion Penfro.

    Bydd nifer yn disgwyl i’w dirprwy presennol, Huw Irranca-Davies - sydd yn debygol o ennill un o’r seddi yn etholaeth Afan Ogwr Rhondda - gamu i’r adwy... ond mae enw Irranca-Davies hefyd wedi’i grybwyll fel ymgeisydd posib ar gyfer swydd Llywydd y Senedd nesaf.

    Ac os bydd canlyniad yr etholiad yn arbennig o wael i Lafur, efallai y bydd y rôl honno’n dechrau edrych yn opsiwn mwy deniadol.

  8. Disgwyl i Lafur golli wedi 27 mlynedd mewn grymwedi ei gyhoeddi 07:05 GMT+1 8 Mai

    Mae disgwyl i Lafur golli etholiad Senedd Cymru gan ddod â diwedd ar reolaeth 27 mlynedd yng Nghymru, meddai sawl ffynhonnell o fewn y blaid wrth BBC Cymru.

    Mae Llafur wedi ennill etholiadau San Steffan a Bae Caerdydd yng Nghymru ers dros ganrif, ond mae arolygon barn yn dweud bod y blaid bellach yn wynebu colli, wrth i Blaid Cymru a Reform gystadlu i fod y blaid fwyaf.

    Dywedodd Mick Antoniw, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, os byddai'r canlyniadau "cyn waethed â'r hyn sy'n cael ei ragweld", yna y dylai Syr Keir Starmer ymddiswyddo fel prif weinidog y DU.

    llafurFfynhonnell y llun, PA Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Os yw'r dyfalu'n gywir, bydd yr etholiad yn dod â rhediad Eluned Morgan fel prif weinidog i ben

    Dywedodd Mr Antoniw wrth BBC Cymru mai'r etholiad oedd yr un anoddaf i Lafur "ers cof".

    Wrth gael ei holi os oedd yn credu y gallai Syr Keir Starmer barhau fel prif weinidog, dywedodd: "Os yw'r canlyniadau cyn waethed â'r hyn sy'n cael ei ragweld, yna bydd yn rhaid newid arweinyddiaeth.

    "Nid ymadael ar unwaith ond trosglwyddiad wedi'i gynllunio, yn drefnus, yn agored â chystadleuaeth dryloyw."

  9. Etholiad Senedd Cymru 2026 yn 'argoeli i fod yn un o'r rhai mwyaf hanesyddol'wedi ei gyhoeddi 06:46 GMT+1 8 Mai

    Catrin Haf Jones
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Mae Etholiad Senedd Cymru 2026 yn argoeli i fod yn un o'r rhai mwyaf cystadleuol a hanesyddol i Gymru ei weld mewn degawdau.

    Y canlyniad i Lafur fydd un o benawdau mawr yr etholiad hwn os yw'r arolygon barn i'w credu.

    Mae'r Blaid Lafur wedi llywodraethu ym Mae Caerdydd ers dros chwarter canrif a thra-arglwyddiaethu ar wleidyddiaeth Cymru ers dros ganrif - ond heddiw mae hi mewn perygl o golli seddi ac efallai Prif Weinidog.

    Yn 1999 fe wnaeth llafur gipio 28 sedd, Plaid Cymru 17, y Ceidwadwyr 9 a'r Democratiaid Rhyddfrydol 6.

    Wedi etholiad 2003 roedd gan Lafur 30 o seddi.

    Y darlun wedi etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999Ffynhonnell y llun, Wicipedia
    Disgrifiad o’r llun,

    Y darlun wedi etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999

  10. Croeso i ddiwrnod cyfrif pleidleisiau etholiad Senedd Cymruwedi ei gyhoeddi 06:45 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae’n ddiwrnod cyfri pleidleisiau etholiad Senedd Cymru 2026.

    Mae’r pleidleisiau yn cael eu cyfrif o 08:00 ymlaen ac mae disgwyl i’r canlyniad cyntaf gael ei gyhoeddi ddechrau’r prynhawn.

    Bydd y diweddaraf ac ymateb i’r canlyniadau i’w gweld yma ond cyn hynny y darogan a'r cyffro wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif ar draws Cymru.

    Yn ôl sylwebyddion gwleidyddol mae heddiw a'r diwrnodau nesaf yn gwbl arwyddocaol yn hanes Cymru.

    Arhoswch gyda ni.

    Senedd