Canlyniad cyntaf ar y fforddwedi ei gyhoeddi 14:55 GMT+1 8 Mai
Mae'r canlyniad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yng Nghasnewydd Islwyn.

Dim mwyafrif i’r un blaid
Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf
Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1
Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"
Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro
Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn
Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd
Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd
16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd
Mae'r canlyniad cyntaf yn cael ei gyhoeddi yng Nghasnewydd Islwyn.
Os mai Plaid Cymru fydd yn ffurfio llywodraeth a Rhun ap Iorwerth yn Brif Weinidog Cymru, mae Ieuan Wyn Jones ar gael i roi cyngor.
Y cyn-aelod dros Fôn oedd y Dirprwy Brif Weinidog rhwng 2007-2011 pan wnaeth ei blaid lywodraethu gyda Llafur.
Dywedodd ei fod eisoes wedi siarad gyda Rhun ap Iorwerth ac aelodau o’i dîm yn ystod yr ymgyrch, ond nad oedd eisiau “gwthio fy hun mewn unrhyw ffordd”.
Meddai: “Mae o’n beth mawr i fynd i mewn i’r swydd yna. Es i mewn fel Dirprwy Brif Weinidog - ac mae o’n gam arall wedyn i fynd i fyny yn Brif Weinidog ond mae’r profiad sydd gen innau ac Elin Jones - gobeithio fydd hefyd yn ôl - yn rhywbeth fydd [Rhun ap Iorwerth] yn dibynnu arno dwi’n credu ac yn gofyn am gyngor.
“Ac mae hynny wedi digwydd a dwi’n gobeithio os oes pobl yn teimlo bod nhw eisiau sgwrs fyddai wastad ar gael i wneud hynny yn naturiol.”
Cyn-arweinydd Plaid Cymru yn sôn am ymgyrch lwyddiannus Rhun ap Iorwerth
Yn ôl yr arbenigwr ar etholiadau, Syr John Curtice, mae disgwyl y bydd dros 50% o'r etholwyr cymwys wedi bwrw pleidlais eleni.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i unrhyw etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd groesi'r trothwy hwnnw.
Mae Syr John yn rhagweld y bydd y ffigwr tua 53%.
Mari Grug
Gohebydd BBC Cymru
Un wyneb allai fod yn gyfarwydd i wylwyr Gogglebocs Cymru yw ymgeisydd Llafur ym Mrycheiniog Tawe Nedd, Elliot Wigfall.
Mae'n bedwerydd ar restr ymgeiswyr y Blaid Lafur, yn sefyll am y tro cyntaf.

Iolo Cheung
Gohebydd BBC Cymru
Mae 'na dipyn o wynebau llwm sy’n gwisgo rosets Llafur yn y neuadd fan hyn yn Aberdâr.
Yn sicr does dim gobaith, ymhlith y ffynonellau ‘dan ni wedi siarad â nhw, bod mwy nag un sedd yn bosib.
Mae gormod o bleidleiswyr Llafur traddodiadol wedi dadrithio ac aros adref, meddan nhw.
Ac nid polisïau Llywodraeth Cymru oedd yn cael y bai mwyaf ar y stepen ddrws chwaith – ond Keir Starmer.
Mae ffynonellau o Reform a Plaid wedi dweud wrthon ni ei bod hi’n agos, ond ei bod hi'n edrych fel mai'r cenedlaetholwyr sydd am orffen ar y brig fel mae’n sefyll.
Byddai hynny’n ychydig o syndod, oherwydd hyd yn oed yn yr arolygon barn mwyaf hael i Plaid Cymru yn y dyddiau diwethaf, roedd y darogan o ran seddi dal yn rhoi Reform ar y blaen yn yr etholaeth hon.
Vaughan Roderick
Golygydd Materion Cymreig y BBC
Mae'r ail gyfrif yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni oherwydd bod Alun Davies, ymgeisydd y blaid Lafur wedi methu ag ennill un o'r chwe sedd yn y cyfrif cyntaf.
Mae Vaughan Roderick yn dweud bod "cewri Llafur oedd mwy neu lai yn cynrychioli'r byd Llafur" wedi sefyll yn yr ardal, gan gynnwys Neil Kinnock ac Aneurin Bevan.
Yn siarad ar raglen Etholiad S4C, dywedodd Golygydd Materion Cymreig y BBC yn credu bod y sefyllfa yn "brawf o ba mor drychinebus" yw'r canlyniad i Lafur.
Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Mae ail gyfrif ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni erbyn hyn.
Yn ôl y sôn roedd y cyfrif cyntaf wedi rhoi tair sedd yr un i Blaid Cymru a Reform a dim un i Lafur.
Os yw Llafur yn ei chael yn anodd i gasglu digon o bleidleisiau i ennill sedd yn yr etholaeth hon, mae angen gofyn o ddifrif o ble y daw seddi’r blaid?
Mae 10 sedd yn edrych yn obeithiol ar hyn o bryd. Amser a ddengys...
Sara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi cyrraedd y cyfrif yn y Felodrom Cenedlaethol yng Nghasnewydd - gwell hwyr na hwyrach!
Wrth ei holi ai fe fyddai Prif Weinidog nesaf Cymru dywedodd ei fod yn rhy gynnar i ddweud, ond mai prif stori’r dydd yw bod “Llafur ar ben” yng Nghymru.
Mae’r ymgeiswyr wedi ymgasglu i glywed y canlyniad a phenderfynu a ydyn nhw am ail-gyfrif ai peidio. Os nad ydyn nhw mae’n bosib mai Casnewydd Islwyn fydd canlyniad cynta’r dydd.
Ffynhonnell y llun, PA MediaMae cyn-aelod Plaid Cymru, Helen Mary Jones, yn dweud nad yw “wedi gweld cymaint o buzz tu fewn i’r Blaid [Cymru] ers 1999 i ddweud y gwir".
“Mae’r ymgyrch wedi bod yn hynod o bositif, mae syniadau mae’r Blaid yn cyflwyno i bobl yn cael ateb da iawn yn enwedig y cynnig o ran gofal plant sydd mor bwysig i deuluoedd a just arweinyddiaeth Rhun wedi codi calonnau pobl a ma’ nhw wedi bod yn gweithio’n galed iawn i roi syniad o newid positif yn hytrach na newid mwy negyddol.
“Mae’n mynd i fod yn etholiad hanesyddol achos am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd bydd ddim mwyafrif ‘da Llafur ac mae’n gyfle nawr i ni gael dechreuad newydd i Gymru.
“Dwi’n meddwl bod Plaid Cymru yn barod amdani ond mae’n mynd i fod yn heriol, pwy bynnag sy’n cymryd lle.”
Helen Mary Jones fu'n siarad â BBC Cymru Fyw
Etholiad 2026
Sara Dafydd sydd yn y cyfri' yng Nghasnewydd, ar gyfer etholaeth Casnewydd Islwyn, ac yn credu mai ras rhwng dau geffyl yw hi erbyn hyn.
Sara Dafydd
Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud bod gan Blaid Cymru y "syniadau a'r polisïau" i arwain ar ôl disgwyl 100 mlynedd am y cyfle.
Dywedodd y byddai rhestrau aros iechyd, safon addysg a mynediad at ofal plant yn gwella os ydynt yn cael y "fraint" o arwain Cymru.
Yn gynharach, dywedodd bod y "cyfri' go iawn" heb ddechrau yng Ngwynedd Maldwyn eto, ble mae'n ymgeisydd.
Plaid Cymru wedi bod yn disgwyl am 100 mlynedd i lywodraethu, yn ôl Mabon ap Gwynfor
Wrth ddisgwyl am ganlyniadau yn ei etholaeth ef, mae Llŷr Powell yn dweud bod Reform dal yn "gobeithio" am fwyafrif.
Mae ymgeisydd Reform ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni hefyd yn credu ein bod "wedi gweld diwedd" Llafur a'r Ceidwadwyr yng Nghymru.
"Mae pobl wedi pleidleisio bo' nhw mo'yn gweld change, a dyna ni'n mynd i weld ar ôl heddi."
Mae Llŷr Powell yn disgwyl am ganlyniadau etholaeth Blanau Gwent Caerffili Rhymni
Etholiad 2026
Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyrraedd lleoliad y cyfri' yn ei etholaeth Bangor Conwy Môn, Venue Cymru yn Llandudno.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Wrth i ni aros y canlyniad ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni mae’n werth cofio'n ôl i 2024 a nodi bod Llafur wedi ennill sedd Blaenau Gwent a Rhymni yn Senedd San Steffan gyda 53.6% o’r bleidlais a mwyafrif o dros 12,000.
Etholiad 2026
Roedden ni'n gobeithio am ganlyniad ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, ond bydd 'na ail gyfrif ar gais y blaid Lafur.
Enillodd Plaid Cymru a Reform dair sedd yr un ond dim ond 111 o bleidleisiau oedd rhwng trydedd sedd Reform a phrif ymgeisydd y blaid Lafur - sef cyn-weinidog Llywodraeth Cymru, Alun Davies.
BBC Radio Cymru
Mae cefnogwyr Llafur yn cydnabod yn agored bod canlyniadau’r blaid yn "drychinebus" ac o bosib yn waeth na’r arolygon barn, yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones.
Dywedodd yr arbenigwr gwleidyddol ar Radio Cymru: “Dwi’n meddwl mai’r brif stori hyd yma ydi’r ffaith bod Llafur rŵan yn dweud - dim jest sibrwd - maen nhw’n dweud yn blaen tu ôl i’r llenni ei bod yn edrych yn drychinebus iddyn nhw yng Nghymru.
"Mae’n edrych o bosib yn waeth hyd yn oed nag oedd yr arolygon barn - a fydd pobl yn cofio pa mor sobr oedd rhai o’r arolygon barn.
“Mae ‘na ddarogan llai na 10 sedd, llai na 10% o’r bleidlais ac mae rhai pobl yn darogan hyd yn oed yn waeth.”
Mae hyn yn "chwyldroadol", meddai, ond hefyd yn creu problemau i sut fydd Cymru’n cael ei llywodraethu.
“Cwestiwn amlwg - os ydi Eluned Morgan yn colli ei sedd ac mae ‘na ddarogan, yn y bôn mae hynny rŵan yn cael ei gydnabod, efo pwy fyddai Rhun ap Iorwerth yn codi’r ffôn?
"Wel da ni’n dweud Huw Irranca-Davies... ond ydi Huw Irranca-Davies yn ddiogel?
“Hynny yw mae’r cwestiynau hyn yn mynd yn ddyrys iawn, iawn ynglŷn â sut gall Cymru gael ei llywodraethu.”
Richard Wyn Jones ar BBC Radio Cymru
Etholiad 2026
Mae'r ymgeiswyr yn ymgasglu ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni, mae'n bosib bod y canlyniad cyntaf ar ei ffordd.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, golli ei sedd yng Ngheredigion Penfro.
Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yn 2016 a daeth yn Brif Weinidog yn 2024.

Mewn datganiad, dywedodd y blaid Lafur, "mae'n edrych fel y bydd Llafur Cymru yn dychwelyd grŵp o tua 10 AS - a fydd o leiaf yn caniatáu llais cryf i'r blaid Lafur, er ein bod yn siomedig iawn am beidio â gallu arwain llywodraeth".
Gwyn Loader
“Dwi’n credu bydd hi’n ddiwrnod da, cawn weld a fydd hi’n ddiwrnod gwych” meddai Dafydd Trystan wrtha’ i wrth basio prif ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf.
Fe wnaeth ffynhonnell Reform awgrymu eu bod nhw’n gobeithio ennill un sedd yn y ddwy etholaeth sydd yn cael eu cyfrif yma yng Nghaerdydd.
Os am gael noson lwyddiannus iawn, byddai’r ddwy blaid yna’n gobeithio am ail sedd yn y ddwy etholaeth yma.
Gwyn Loader