Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  • Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf

  • Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  • Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"

  • Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro

  • Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

  • Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd

  • Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd

  • 16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

  1. 'Angen bod yn ofalus efo peth o'r darogan cynnar'wedi ei gyhoeddi 12:20 GMT+1 8 Mai

    Yn dilyn sylwadau Helen Jenner ar S4C, dywedodd yr arbenigwr gwleidyddol Richard Wyn Jones ar S4C ei fod yn teimlo bod rhaid cymryd unrhyw ddarogan cynnar gyda phinsiad o halen.

    "Un o'r pethau mae'n rhaid i ni fod yn ofalus ohono fo yn ystod yr oriau nesaf, ydy fod gwleidyddion dibrofiad yn aml iawn yn gweld y gwydr yn hanner llawn.

    "Mae hen bennau weithiau yn fwy pwyllog.

    "Felly dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod 'chydig yn ofalus efo peth o'r darogan cynnar yma.

    "Un o nodweddion Reform ydy - oes mae nifer o Geidwadwyr profiadol o gwmpas y lle - ond mae 'na lot o bobl sy'n cael eu profiad cyntaf go iawn yma."

    Richard Wyn Jones
  2. Y Gwyrddion am greu 'newid go iawn' yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 12:19 GMT+1 8 Mai

    Mae Tessa Marshall o'r Blaid Werdd yn dweud ei bod hi wedi cael profiad 'hynod o dda' yn siarad gyda etholwyr yn ystod yr ymgyrchu.

    Yn siarad ar raglen Etholiad S4C, mae hi'n dweud bydd yr etholiad yn un hanesyddol i'r blaid gyda disgwyl iddynt ennill seddi yn y Senedd am y tro cyntaf.

    Disgrifiad,

    Mae disgwyl i'r gwyrddion ennill seddi yn Senedd Cymru am y tro gyntaf, medd Tessa Marshall

  3. Nifer o ASau yn gadael - ond un ffigwr amlwg arall hefyd ...wedi ei gyhoeddi 12:16 GMT+1 8 Mai

    Dewi Llwyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Etholiad Cyffredinol 1983 oedd darllediad cyntaf Dewi Llwyd

    Mae nifer o gyn-aelodau eisoes wedi dweud eu bod yn gadael yn wirfoddol ac erbyn diwedd y cyfrif mae arolygon yn darogan y bydd eraill yn cael eu gorfodi i adael.

    Ond erbyn yr etholiad nesaf fe fydd un conglfaen amlwg iawn ar goll wrth i'r cyflwynydd Dewi Llwyd gyhoeddi ei fod yn ymddeol o'r BBC wedi'r etholiad yma.

    Mae e wedi bod â rhan flaenllaw iawn yn narlledu 10 etholiad cyffredinol, pedwar refferendwm a saith etholiad Cynulliad a Senedd.

    Be' tybed sy'n ei gynnal yn ystod yr oriau maith o ddarlledu? - wel bananas, coffi, siocled ac uwd.

    Disgrifiad,

    'Pethau wedi newid yn arw': Etholiad olaf Dewi Llwyd

  4. Cyfweliad ar ôl cyfweliad - ac ambell gamgymeriad...wedi ei gyhoeddi 12:12 GMT+1 8 Mai

    Ers wythnosau mae'r arweinwyr, ymgeiswyr a chefnogwyr wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru yn gofyn am gefnogaeth.

    I'r arweinwyr a'u cynrychiolwyr mae wedi bod yn un cyfweliad ar ôl y llall a do bu ambell gamgymeriad.

    Disgrifiad,

    Fe wnaeth y prif weinidog annog etholwyr i bleidleisio dros Blaid Cymru mewn camgymeriad

    Cyfweliad ddigon anodd oedd hwn i Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru, wrth iddi wneud tro pedol mewn cyfweliad a oedd yn gofyn a ddylai Arron Banks ymddiheuro.

    Disgrifiad,

    Fe wnaeth Helen Jenner newid ei meddwl yn ystod y cyfweliad ar ôl clywed bod Nigel Farage wedi galw ar Aaron Banks i ymddiheuro

  5. Golwg ar etholaeth Caerdydd Penarthwedi ei gyhoeddi 12:10 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae Caerdydd Penarth yn etholaeth Senedd newydd, yn cyfuno rhannau o hen seddi Canol Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Bro Morgannwg, a Phontypridd.

    Ffeithiau allweddol

    • Poblogaeth: 220,137
    • Amcangyfrif siaradwyr Cymraeg: 13%
    • Economi: Cyllid (Admiral), manwerthu, sector cyhoeddus, twristiaeth (Stadiwm Principality), BBC Cymru, Prifysgol Caerdydd
    cdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

    Pwysau ar y GIG a gofal cymdeithasol, traffig, a thai yw'r prif faterion o bwys.

    Mae'r sedd yn cyfuno Gorllewin Caerdydd a De Caerdydd a Phenarth - hen seddi'r cyn-brif weinidogion Mark Drakeford a Vaughan Gething.

    Yma mae Mark Reckless yn sefyll ar ran Reform - mae e'n ail ar y rhestr y tu ôl i Joe Martin. Cafodd ei ethol yn AS rhanbarthol yn 2016. Mae wedi bod yn aelod annibynnol a hefyd wedi bod yn aelod o'r Ceidwadwyr, y Brexit Party, UKIP ac Abolish the Welsh Assembly.

    Yma hefyd mae Rhys ab Owen, a gafodd ei ddiarddel o Blaid Cymru yn 2024 yn sefyll fel aelod Annibynnol a mae Neil McEvoy yn sefyll ar ran ran plaid Propel. Cyn ffurfio Propel roedd yn aelod o Blaid Cymru a bu'n cynrychioli Canol De Cymru rhwng 2016 a 2021.

    Mae canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd i'w weld yma.

  6. Cyfri etholaeth fwyaf Cymru i ddechrau ar ôl ciniowedi ei gyhoeddi 12:08 GMT+1 8 Mai

    Carwyn Jones
    Gohebydd BBC Cymru

    Gwynedd Maldwyn yw'r etholaeth fwyaf yng Nghymru ac mae'r gwaith gwirhau (verify) y pleidleisiau dal i fynd rhagddo.

    Carwyn Jones sydd yng Nghaernarfon ar ran Cymru Fyw.

    Disgrifiad,

    Carwyn Jones sydd yng Nghaernarfon ar gyfer cyfri pleidleisiau Gwynedd Maldwyn

  7. Reform mewn 'ras gyda Phlaid Cymru' yn Gŵyr Abertawewedi ei gyhoeddi 12:08 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Francesca O'Brien

    Dywedodd Francesca O'Brien, ymgeisydd Reform UK yn Gŵyr Abertawe, fod ei phlaid mewn "ras gyda Phlaid Cymru" yn yr etholaeth.

    "Mae'n edrych yn dda ar hyn o bryd ac mae'n adlewyrchu be glywson ni ar y stepen ddrws," meddai.

    "Mae gan y blaid gefnogaeth gan bob math o bobl, llawer ohonyn nhw wedi pleidleisio dros Lafur yn y gorffennol ac eraill yn pleidleisio am y tro cyntaf."

    Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn "rhy gynnar i ddweud" os fydd Reform yn ennill digon o bleidleisiau i allu ffurfio llywodraeth.

    Cytunodd fod tebygrwydd rhwng maniffesto ei phlaid a chynnig y Ceidwadwyr Cymreig ond dywedodd na fydden nhw'n barod i gyfaddawdu ar unrhyw bolisi.

  8. Lleoliad isetholiad 2025 yn ganolbwynt unwaith eto yng Nghaerffiliwedi ei gyhoeddi 12:06 GMT+1 8 Mai

    Craig Duggan
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae Craig Duggan yng Nghaerffili, ble roedd isetholiad ar 23 Hydref y llynedd, gyda Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn fuddugol.

    "Mae'r etholaeth wedi tyfu ers hynny, gyda llefydd fel Brynmawr, Tredegar a Glyn Ebwy wedi eu hychwanegu - llefydd gyda hanes diwydiannol cryf a chysylltiadau agos gyda rhai o enwau mawr y Blaid Lafur; Aneurin Bevan a Michael Foot. Ond er hynny, mae'n ymddangos yn frwydr agos, rhwng Plaid Cymru a Reform UK."

  9. Cyfrif Pontypridd Cynon Merthyr: 'Rhy gynnar i ddatganiadau pendant'wedi ei gyhoeddi 12:04 GMT+1 8 Mai

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae hi dal ychydig yn gynnar i ymgeiswyr a chefnogwyr y pleidiau fan hyn yng nghyfrif Pontypridd Cynon Merthyr wneud unrhyw ddatganiadau pendant wrth i ni sgwrsio.

    Ond teg dweud bod Heledd Fychan yn edrych yn hapus – hi sydd ar frig rhestr Plaid Cymru, ac yn swnio’n ddigon hyderus o gael ei hailethol i’r Senedd.

    Hi a Vikki Howells, sydd ar frig rhestr Llafur, yw’r unig ddwy AS presennol sy’n ymgeisio eto yn yr etholaeth yma.

    Ond doedd un ffynhonnell Llafur 'naethon ni siarad efo ddim yn swnio’n rhy ffyddiog – mae’n bosib iawn y bydd rhaid iddyn nhw fodloni gydag un o’r chwech sedd.

    Mae Reform, ar y llaw arall, dal yn bositif am eu gobeithion nhw. Fe ddywedodd un ffynhonnell fod eu cefnogaeth gryfaf nhw wedi dod o’r ardaloedd mwyaf cefnog, yn ogystal â’r rhai tlotaf.

    Mae’r prif ymgeisydd Ceidwadol, Adam Robinson, wedi dweud wrthon ni eu bod nhw’n credu y byddan nhw’n “agos iawn” at y chweched sedd.

    Fe allai hi ddod lawr i lond dwrn o bleidleisiau, meddai – gan ychwanegu bod llawer o etholwyr ar y stepen drws wedi eu dadrithio a dweud nad oedden nhw’n gwybod dros bwy i bleidleisio.

  10. Beth fydd tynged y Prif Weinidog? Adroddiad ein gohebydd yn y cyfri yn Llandysulwedi ei gyhoeddi 11:58 GMT+1 8 Mai

    Aled Scourfield
    BBC Cymru Fyw

    Gyda tua 44 ymgeiswyr yn ymrafael am chwe sedd yn etholaeth Ceredigion Penfro, y cwestiwn mawr ar wefusau pawb yw a fydd Eluned Morgan wedi gwneud digon i gadw'i sedd?

    Aled Scourfield sydd yn Llandysul yn un o ganolfannau cyfri etholaeth Ceredigion Penfro.

    Disgrifiad,

    Aled Scourfield yn gohebu o Landysul

  11. Reform yn obeithiol o gymryd tair sedd ym Mangor Conwy Mônwedi ei gyhoeddi 11:57 GMT+1 8 Mai

    Yn siarad ar S4C mae dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner, yn dweud ei bod yn credu bod ei phlaid yn gwneud yn "hynod o dda" yn etholaeth Bangor Conwy Môn.

    "'Da ni'n eitha' agos efo Plaid Cymru mewn rhai llefydd, a mewn rhai 'da ni'n amlwg yn gryf iawn, felly mae hi'n gyffrous iawn yma.

    "'Da ni'n gobeithio cymryd tair sedd yma, ond mae'n anodd dweud ar y funud."

    Pan gafodd ei holi am awgrym diweddar yr arweinydd yng Nghymru, Dan Thomas, y byddai modd i Reform sicrhau mwyafrif yn y Senedd, dywedodd Ms Jenner: "'Di o ddim yn mathematical impossibility."

    Ychwanegodd, pe bai Reform y blaid fwyaf yn y Senedd, ond y byddai clymblaid o bleidiau ar y chwith yn ffurfio llywodraeth, y byddai Reform yn "parchu democratiaeth" ac yn derbyn hynny.

    Helen Jenner
  12. Helen Mary Jones yn dweud bod pobl Cymru “wir isio newid”wedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1 8 Mai

    Mae cyn-AS Plaid Cymru, Helen Mary Jones, wedi dweud bod y newid yn ymddygiad pleidleiswyr yn “hanesyddol” gan awgrymu bod pobl Cymru wedi’u dadrithio gyda Llafur ac yn chwilio am gyfeiriad newydd.

    Ar raglen Etholiad 2026 ar BBC Radio Cymru dywedodd: “Mae hyn yn hanesyddol. Mae’n dangos bod pobl wir isio newid.”

    “Mae nhw wedi siomi yn beth mae Llafur wedi'i wneud ar lefel Brydeinig.

    “Os mae pobl isio newid, mae’n rhaid i chi wedyn gyflwyno rhywbeth iddyn nhw sy’n mynd i’w darbwyllo nhw bod nhw’n gallu cael newid a beth sydd yn bwysig i ni yw bod hyn yn newid positif, newid radical, sydd yn mynd i ddelifro dros bobl Cymru."

    Yn ddiweddarach yn y drafodaeth dywedodd fod arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth wedi bod yn ffactor allweddol yn ymgyrch Plaid Cymru.

    “Mae ymgyrch y blaid wedi bod yn hynod o bositif. Mae Rhun ap Iorwerth yn berson carismatig, ond mae hefyd yn berson sy’n ennyn ffydd.

    "Mae pobl yn cael yr argraff eu bod nhw’n medru trystio fe. Mae teimlad mai dyma’r amser i’r blaid gymryd yr awenau a gweithredu dros bobl heb orfod edrych dros y ffin.”

    Helen Mary
  13. Huw Thomas: 'Eluned Morgan wedi bod yn arwrol'wedi ei gyhoeddi 11:48 GMT+1 8 Mai

    Yn siarad ar raglen Etholiad Senedd Cymru S4C, dywed Huw Thomas, sydd ar frig rhestr Llafur yn etholaeth Caerdydd Penarth, bod Eluned Morgan wedi bod yn "arwrol" yn y ffordd y mae wedi arwain ymgyrch y Blaid Lafur yng Nghymru, a byddai'n 'drist iawn' os byddai'r Prif Weinidog yn colli ei sedd.

    Disgrifiad,

    Huw Thomas sydd ar frig rhestr Llafur yn etholaeth Caerdydd Penarth

  14. Guto Harri: Dau ffactor amlwg wedi cael effaith ar y bleidlaiswedi ei gyhoeddi 11:46 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Yn ôl Guto Harri mae dau ffactor amlwg wedi cael effaith ar y bleidlais: dadrithiad etholwyr gyda’r blaid Lafur a phersonoliaethau arweinwyr.

    Ar raglen Etholiad 2026 ar BBC Radio Cymru ac S4C dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, fu’n gyfarwyddwr cyfathrebu i Boris Johnson pan oedd o’n Brif Weinidog: “I bobl oedd wedi dadrithio mae arweiniad carismatig, cryf, huawdl Rhun ap Iorwerth wedi bod yn allweddol.

    "Ac mae’r ffaith bod Reform yn cael ei arwain gan ddyn tu allan i Gymru, Nigel Farage, sydd yn un o’r cymeriadau mwya’ carismatig - dadleuol ond carismatig - yn dangos yr hen beth hen ffasiwn yma bod carisma mewn gwleidydd fel stage presence i actor.

    “Ma’r syniad bod ni’n gallu ethol aelodau sydd â dim carisma, sydd â dim presenoldeb, sydd ddim yn gallu mynegi eu hunain yn huawdl - mae ‘na wers go sylfaenol yn y fan yna.”

    Guto HarriFfynhonnell y llun, Reuters
  15. Golwg ar etholaeth Gwynedd Maldwynwedi ei gyhoeddi 11:37 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Ffeithiau allweddol

    • Poblogaeth: 195,838
    • Amcangyfrif siaradwyr Cymraeg: 42%
    • Economi: Amaeth, twristiaeth (Parc Cenedlaethol Eryri), byrddau iechyd Betsi Cadwaladr a Phowys, clystyrau busnesau bach

    Portmeirion

    Mae hon yn etholaeth lle mae cryn gefnogaeth i fyd amaeth ac ymhlith y pryderon mae diboblogi, ail gartrefi, niferoedd disgyblion yn gostwng ac ysgolion yn cau.

    Mae tri sydd wedi bod yn ASau yn sefyll yn yr etholaeth hon sef Siân Gwenllian, Mabon ap Gwynfor a Russell George.

    Cafodd Siân Gwenllian ei hethol yn AS Arfon yn 2016 ac mae Mabon ap Gwynfor wedi bod yn cynrychioli Dwyfor Meirionnydd ers 2021.

    Mae Russell George yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol y tro hwn wedi iddo gael ei ddiarddel o'r blaid Geidwadol yn sgil cyhuddiadau cysylltiedig â betio. Cyn hynny roedd yn cynrychioli Sir Drefaldwyn a hynny ers 2011.

    Mae canllaw i'r 16 etholaeth newydd ar gyfer etholiad y Senedd i'w weld yma.

  16. Richard Wyn Jones: Canlyniadau heddiw yn 'gosod y cywair i ddod'wedi ei gyhoeddi 11:36 GMT+1 8 Mai

    Gan ddisgrifio'r ymgyrch fel ras gyffrous ar raglen Etholiad Senedd Cymru ar S4C, mae'r Athro Richard Wyn Jones yn dweud y bydd canlyniadau heddiw yn 'gosod y cywair' i Gymru am flynyddoedd i ddod.

    Disgrifiad,

    Richard Wyn Jones ar raglen Etholiad Senedd Cymru S4C

  17. Alun Michael yn dweud bod hi’n “siom mawr” gweld Llafur yn colli tirwedi ei gyhoeddi 11:32 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Alun Michael, wedi dweud ei bod hi’n “siom mawr” gweld cefnogaeth i Lafur yn gostwng, ond ychwanegodd fod y system newydd yn golygu y bydd cydweithio yn rhan bwysig o wleidyddiaeth y Senedd yn y dyfodol.

    “Mae’n siom mawr wrth gwrs i bobl fel fi. Mae pobl yn teimlo fod yna amser am newid.”

    “Mae lot o bobl yn mynd i Blaid Cymru i feddwl bod hyn yn cadw Reform allan. Mae yna system newydd sy’n gwneud hi’n angenrheidiol na fedr neb ennill yn gyfan gwbl ar ben ei hun. Rhaid i gydweithio i fod yn rhan o’r ffordd dan ni’n delio gyda gwleidyddiaeth yn y dyfodol.”

  18. Eluned Morgan wedi cyrraedd y cyfrif yn Hwlffordd - mewn siwt werddwedi ei gyhoeddi 11:23 GMT+1 8 Mai

    Bydd cryn graffu ar sedd Ceredigion Penfro gan mai yn yr etholaeth honno y mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan yn sefyll.

    Dyw'r arolygon barn ddim wedi bod yn hynod o ffafriol i'r Blaid Lafur.

    Pe bai Eluned Morgan yn colli ei sedd mi fyddai hi dal yn Brif Weinidog hyd nes bod un newydd yn cael ei benodi.

    Mae hi bellach wedi cyrraedd y cyfrif yn Hwlffordd ac mewn hwyliau da - yn gwisgo siwt werdd, nid coch.

    Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty
  19. Sefyllfa'r Ceidwadwyr 'wedi newid yn llwyr' ers 2021wedi ei gyhoeddi 11:19 GMT+1 8 Mai

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    Pan gynhaliwyd etholiad diwethaf y Senedd yn 2021, doedd dim arwydd o ba mor gyflym y byddai’r farn gyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig yn troi yn erbyn y Ceidwadwyr – hwn oedd cyfnod vaccine bounce Boris Johnson a doedd neb eto wedi yngan y geiriau partygate!

    Yng Nghymru, llwyddodd y blaid i sicrhau ei chanlyniad gorau erioed mewn etholiad datganoledig, gan orffen yn ail gyda 16 sedd a 25% o’r bleidlais.

    Mae’r sefyllfa wedi newid yn llwyr ers hynny.

    Yn y Senedd, mae angen i blaid ennill o leiaf bum sedd er mwyn cael ei chydnabod yn grŵp gwleidyddol ffurfiol. Mae’r statws hwnnw’n bwysig oherwydd ei fod yn arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer staffio a datblygu trefniadaeth y blaid.

    O ystyried patrwm yr arolygon barn dros y misoedd diwethaf, byddai llwyddo i groesi’r trothwy hwnnw yn cael ei ystyried yn ganlyniad cymharol dda i’r Ceidwadwyr.

    Ond mae hynny yn tanlinellu cymaint y mae’r gefnogaeth i’r blaid wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf.

  20. Ffynhonnell o Blaid Cymru yn dweud ei bod hi'n 'edrych yn dda' i'r blaidwedi ei gyhoeddi 11:17 GMT+1 8 Mai

    Plaid Cymru

    Mae sawl neges yn dod gan y pleidiau i'n newyddiadurwyr.

    Mae ffynhonnell o Blaid Cymru wedi dweud bod hi yn "edrych yn dda" i'r blaid o'r wybodaeth sydd ganddyn nhw hyd yma.

    Ychwanegwyd bod hyn yn "gadarnhaol" a bod "pobl yn dod aton ni" wrth i bleidlais Llafur chwalu.

    "Ond mae hi yn rhy gynnar i ddweud gormod."