Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  • Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf

  • Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  • Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"

  • Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro

  • Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

  • Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd

  • Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd

  • 16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

  1. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni yn ail gyfrif yn rhannolwedi ei gyhoeddi 13:28 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae ail gyfrif rhannol ar y gweill yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni. Y gred yw bod rhai byrddau yn ail-gyfrif yn y ganolfan.

    Mae'n ymddangos y byddwn ni'n aros yn hirach am y canlyniad cyntaf am ychydig yn hirach...

  2. Y cyfri'n dechrau ym Mhontypridd Cynon Merthyrwedi ei gyhoeddi 13:23 GMT+1 8 Mai

    Iolo Cheung
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae 'na chydig o fwrlwm yn Aberdâr nawr wrth i’r cyfrif ddechrau go iawn – a phawb yn rhuthro o’r seddi lle roedden nhw’n gwylio’r darllediadau teledu, yn ôl at ganol y neuadd.

    Fe gawson ni’r canran pleidleisio'n gynharach - 47.36% - gyda bron i 73,000 o etholwyr wedi bwrw pleidlais.

    cyfri
  3. Ras rhwng Plaid Cymru a Reform i fod y blaid fwyafwedi ei gyhoeddi 13:20 GMT+1 8 Mai

    Cystadleuaeth yw hi rhwng plaid sydd dros 100 oed, a phlaid oedd ddim yn bodoli yn ystod Etholiad Senedd Cymru 2021.

    Mwy gan ohebydd gwleidyddol y BBC, Daniel Davies.

    Disgrifiad,

    Ras rhwng Plaid Cymru a Reform yw'r etholiad, yn ôl Daniel Davies

  4. Cyn-ymgeisydd yn dweud bod Llafur yn colli pleidleisiau 'i bob cyfeiriad'wedi ei gyhoeddi 13:14 GMT+1 8 Mai

    Mae cyn-ymgeisydd Llafur, Owain Williams, yn dweud bod y blaid yn colli cefnogaeth ar draws y sbectrwm gwleidyddol, gyda phleidleiswyr yn symud i sawl cyfeiriad gwahanol.

    Dywedodd bod hynny'n amlwg ar lawr gwlad yn ystod yr ymgyrch.

    Y "drafferth i Lafur yw colli pleidleisiau i bawb", meddai.

    "Colli pleidleisiau i Reform hefyd. Maen nhw’n colli pleidleisiau ym mhob cyfeiriad. Dwi’n meddwl bod hynny’n dweud rhywbeth.”

    Dywedodd fod y newid yn cael ei deimlo’n uniongyrchol wrth siarad â phleidleiswyr.

    “O’n i mas yn cnocio drysau a roedd pobl oedd yn aelodau Llafur yn amlwg ddim yn mynd i bleidleisio i Lafur.”

  5. Canlyniad cyntaf ar ei ffordd?wedi ei gyhoeddi 13:11 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Rydyn ni'n disgwyl canlyniad cyntaf yr etholiad yn fuan, mae adroddiadau bod y cyfri' ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni wedi dod i ben erbyn hyn.

    Arhoswch gyda ni.

  6. Gwleidyddiaeth Cymru 'bellach yn gystadleuol'wedi ei gyhoeddi 13:06 GMT+1 8 Mai

    Vaughan Roderick
    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae golygydd materion Cymreig BBC Cymru Vaughan Roderick yn dweud bod etholiad eleni yn nodi newid sylfaenol yn y drefn wleidyddol yng Nghymru, gan awgrymu bod cyfnod hir o oruchafiaeth Llafur yn dod i ben.

    Wrth siarad ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod y darlun yn newid yn strwythurol, nid dros dro: “Mae Llafur yn colli yng Nghymru.”

    “O hyn ymlaen, mae gwleidyddiaeth Cymru yn gystadleuol. Fe fydd yn rhaid i Lafur gystadlu am bleidleisiau, yn hytrach na’u pwyso nhw.”

    Dywedodd fod hyn, er yn heriol i’r blaid, yn gallu bod yn “iach” i ddemocratiaeth Cymru.

    “Mae angen i’r dŵr glirio’r pibelli o bryd i’w gilydd. Mae angen i bleidiau fod yn wrthbleidiau er mwyn ail-feddwl ac ail-lunio eu polisïau. Dyw e ddim yn beth da cael un blaid mewn grym am ganrif.”

    Wrth drafod newidiadau ym mhatrwm etholiadau lleol, ychwanegodd fod diffyg cystadleuaeth wedi bod yn broblem yng Nghymru: “Maen nhw’n ethol cynghorwyr yn ddi-wrthwynebydd yn aml iawn yng Nghymru. Mae hynny’n cyfyngu ar ddewis yr etholwyr.”

    Dywedodd y byddai etholiadau lleol yn y dyfodol yn debygol o weld mwy o ymgeiswyr gan bleidiau fel Plaid Cymru a Reform, a hynny’n rhan o “ddemocratiaeth iachach”.

    “Byddai hynny’n beth iach i ddemocratiaeth.”

    Wrth gloi, dywedodd fod y newid presennol yn ganlyniad i broses hirdymor:

    “Mae hwn yn benllanw ar broses sydd wedi bod yn digwydd ers degawdau.O hyn ymlaen, mae gwleidyddiaeth Cymru yn wahanol.”

  7. Y Gwyrddion yn hyderus y byddan nhw'n ethol aelodau am y tro cyntafwedi ei gyhoeddi 12:56 GMT+1 8 Mai

    Plaid Werdd Cymru

    Mae arolygon barn wedi awgrymu y gallai'r Blaid Werdd ethol aelodau i'r Senedd am y tro cyntaf.

    Ddechrau wythnos diwethaf dywedodd arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, y byddai'r "bumed a'r chweched sedd ym mhob etholaeth yn gystadleuaeth rhwng Reform a'r Blaid Werdd" yn sgil y drefn newydd o bleidleisio.

    Yn ôl sylwebyddion gwleidyddol dyw'r Blaid Werdd erioed wedi cymryd yr un etholiad Senedd gymaint o ddifri ag yr un yma.

    Maen nhw'n gobeithio y bydd eu seddi nhw yn rhai allweddol i unrhyw blaid sy'n ceisio sicrhau mwyafrif er mwyn ethol Prif Weinidog nesaf Cymru.

    Roedd y maniffesto yn rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu cartref clyd a fforddiadwy i bawb – ac un o'r mesurau y mae'r blaid eisiau ei gyflwyno er mwyn cyflawni hynny yw rheolau llymach ar y sector rhent preifat.

    Mae'r blaid yn cynnig rhewi cost rhenti am flwyddyn ac yn addo adeiladu 60,000 o dai cymdeithasol dros y ddegawd nesaf,

    Mae'r Blaid Werdd eisiau cyflwyno Treth Gwerth Tir yn lle'r dreth gyngor, fyddai'n golygu bod perchnogion yr eiddo mwyaf gwerthfawr yn talu rhagor.

    maniffesto

    Mae'r Gwyrddion yn galw hefyd am reoleiddio tynnach ar gwmnïau dŵr, ac eisiau rhagor o rymoedd gan San Steffan er mwyn rhoi Dŵr Cymru mewn mesurau arbennig.

    Byddai'r Gwyrddion yn gwneud teithiau bws cyhoeddus am ddim i bawb dan 22 oed ac yn cyfyngu'r gost i £1 ar gyfer pob taith i bawb arall – polisi fyddai'n costio £256m i Lywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl y blaid.

  8. 'Lot o sŵn gan fod pobl eisiau newid a phleidlais pobl ifanc yn allweddol'wedi ei gyhoeddi 12:54 GMT+1 8 Mai

    "Mae hwn wedi bod yn etholiad lle mae lot o sŵn gan fod pobl eisiau newid," medd Harri Samuel o Cavendish Cymru - cwmni sy'n dadansoddi gwleidyddiaeth Cymru.

    "Mae mwy o sylw wedi bod i bobl ifanc ym mholisïau'r pleidiau eleni ond efallai dim digon ar gadw pobl ifanc yng Nghymru.

    "Mae'r chweched sedd 'na yn frwydr go iawn - ac heb os mae pleidleisiau pobl ifanc yn gallu cyfrannu i lwyddiant pleidiau.

    "Cawn weld faint o bobl ifanc fydd wedi pleidleisio. Dwi'n credu y byddai llawer mwy wedi pleidleisio pe bai modd 'neud hynny ar-lein."

    Harri Samuel
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Harri Samuel yn gweithio i Cavendish Cymru - cwmni sy'n dadansoddi gwleidyddiaeth Cymru

  9. 'Amser pwysig ond bregus' yn wynebu y diwydiant amaethwedi ei gyhoeddi 12:51 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Dyma oedd gan Gareth Wyn Jones, sydd wedi bod yn lleisio ei farn yn gryf yn ystod yr etholiad, i'w ddweud am yr ymgyrchu:

    “Mae’n ddiddorol, ma' lot o bethau positif wedi dod ohono fo.

    "Dwi ‘di bod yn ffodus iawn i gael tipyn o ymgeiswyr i fyny ar y fferm a gofyn iddyn nhw wyneb yn wyneb ac mae hynny wedi bod yn agoriad llygad.

    “Dwi’n meddwl ma’ rhaid i ni sbïo ar eu maniffestos nhw, ma' gynno' ni amser pwysig ond bregus i’r diwydiant o’n blaenau ni, SFS, NVZ, TB, ma’ lot o broblemau yn y diwydiant, ma' rhaid i ni gael llywodraeth sy’n barod i fynd ar ei ôl o a sortio fo.

    "Dwi’n gobeithio pwy bynnag eith mewn mi fedra' ni fel diwydiant, y ffarmwrs weithio hefo nhw er mwyn cael dyfodol i’r to nesaf ar y tir yn cynhyrchu bwyd da i bawb yng Nghymru.”

    Disgrifiad,

    'Amser pwysig ond bregus' yn wynebu y diwydiant amaeth - Gareth Wyn Jones

  10. Llafur ddim yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru - y dirprwy Brif Weinidogwedi ei gyhoeddi 12:48 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Fydd Llafur ddim yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, medd y dirprwy Brif Weinidog.

    Wrth gael ei holi a fyddai Llafur mewn sefyllfa i ffurfio llywodraeth gydag Eluned Morgan fel Prif Weinidog, dywedodd Huw Irranca-Davies: "Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni yn y sefyllfa yna."

    "Rydym wedi ceisio cyflwyno maniffesto cadarnhaol," dywedodd wrth BBC Cymru.

    Ond fe gyfaddefodd nad oedd yn credu bod y maniffesto wedi cyrraedd pobl Cymru yn iawn.

    Dywedodd ei bod yn edrych yn ddiwrnod anodd i'r blaid yng Nghymru a bod hynny ddim yn annisgwyl, ond bod angen gweld sut mae pethau'n datblygu.

    Ychwanegodd y bydd angen i Lafur fyfyrio ar beth sydd wedi digwydd, ond fe roddodd deyrnged i Eluned Morgan am ei harweinyddiaeth.

  11. Guto Harri: 'Bydd dim esgus gwell 'na heddiw i gael gwared ar Keir Starmer'wedi ei gyhoeddi 12:48 GMT+1 8 Mai

    Mae cyn-bennaeth cyfathrebu Boris Johnson yn dweud bod penderfyniad mawr yn wynebu aelodau Llafur dros ddyfodol Keir Starmer fel eu harweinydd.

    Dywedodd Guto Harri mai ar y prif weinidog mae'r bai am 'golledion trychinebus' - yn Nghymru a thu hwnt.

  12. Beth fyddai'r canlyniad gorau i Reform UK?wedi ei gyhoeddi 12:44 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Yn ôl Betsan Powys y canlyniad gorau i Reform fyddai "Dod i'r brig ond peidio gorfod llywodraethu. Dim atebolrwydd a gallu bod yn wrthblaid lwyddiannus."

    Disgrifiad,

    Betsan Powys yn cyfrannu i drafodaeth am y canlyniadau ar Radio Cymru

  13. ‘Deinosor’ Llafur yn marw a gobaith i'r Blaid Werddwedi ei gyhoeddi 12:43 GMT+1 8 Mai

    BBC Radio Cymru

    Mae’r Gwyrddion yn gobeithio eu bod wedi ennill pum sedd yn yr etholiad gan osod sylfaen i ennill cefnogwyr traddodiadol Llafur yn y dyfodol.

    Dywedodd Gareth Hughes o’r Blaid Werdd ar raglen Etholiad 2026 S4C: “Mae tipyn o wasgiad wedi bod yn y tri diwrnod diwetha’ ond ‘da ni’n ffyddiog fydd cynrychiolydd yn y Senedd - un, o bosib neu ddau yng Nghaerdydd.

    "Dwi ddim yn sicr na fydd gynnon ni un neu ddau o’r hen sir Gwent ac o bosib un yn y gogledd ddwyrain o ardal Wrecsam - felly mae’n bosib gawn ni bump.”

    Ychwanegodd bod y blaid wedi tyfu ers iddo sefyll yn isetholiad Caerffili llynedd a’u bod yn elwa o’r cynnydd yn y sylw gan y cyfryngau.

    Meddai: “’Da ni’n ffyddiog gawn ni bleidlais Llafur yn y dyfodol am bod y deinosor yna yn marw ac maen nhw’n chwilio am blaid o’r chwith i fynd ato a dyna lle mae’r gobaith i’r Gwyrddion yn y dyfodol.”

    Gareth Hughes
    Disgrifiad o’r llun,

    Gareth Hughes o'r Blaid Werdd

  14. Caerdydd: 'Gallai'r 1,300 o bleidleisiau post na chafodd eu dosbarthu fod yn bwynt trafod'wedi ei gyhoeddi 12:40 GMT+1 8 Mai

    Gwyn Loader

    Yma yn ardal Lecwydd y brifddinas, mae dau gyfrif i ddwy etholaeth yn digwydd.

    Ry'n ni yng nghysgod stadiwm Dinas Caerdydd - lle mae'r Adar Gleision wedi ennill dyrchafiad eleni.

    Pwy fydd yn cael eu dyrchafu o'r cyfrifon yma i Senedd Cymru?

    Mae disgwyl canlyniad tua 15:00 - ond fe allai hynny lithro, yn enwedig os bydd ail gyfrif.

    Cofiwch bod rhyw 1,300 o bleidleisiau post heb gael eu dosbarthu mewn pryd yn y brifddinas, ac er bod ymdrechion wedi'u wneud i ddosbarthu pleidleisiau newydd ar frys dros y dydddiau diwethaf, os ydy pethau'n dynn, fe allai hynny fod yn bwynt trafod mawr yn yr etholaethau yma.

  15. 55.2% wedi bwrw eu pleidlais yng Ngheredigionwedi ei gyhoeddi 12:38 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Mae'r niferoedd o bobl wnaeth bledleisio ymhob etholaeth yn dod i law.

    Fe wnaeth 55.2% fwrw eu pleidlais yng Ngheredigion.

    Y nifer wnaeth bleidleisio yng Nghlwyd oedd 51.39%

    Fe wnaeth 47.36% bleidleisio yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr.

  16. Plaid a Reform yn gobeithio disodli Llafur yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 12:35 GMT+1 8 Mai

    Owain Evans
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae Plaid Cymru a Reform UK yn gobeithio disodli'r blaid Lafur yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg.

    Owain Evans sydd yn Y Barri ar ran Cymru Fyw.

    Disgrifiad,

    O'r cyfri yn Y Barri Owain Evans

  17. Y person mwyaf bodlon yw Wyn y babiwedi ei gyhoeddi 12:33 GMT+1 8 Mai

    Mari Grug
    Gohebydd BBC Cymru

    Y person mwyaf bodlon yn y cyfri' ym Mrycheiniog Tawe Nedd yw Wyn, sy’n bedwar mis oed.

    Dywedodd ei fam, Phoebe Jenkins, sy’n drydydd ar restr ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol: "Dwi eisiau gweld newid a dwi eisiau gwneud gwahaniaeth a dangos i fenywod ac i famau y gallwch chi wneud pethau hyd yn oed os oes gennych chi blant bach - o ymgyrchu, i guro ar ddrysau, a bod yn y cyfrif gyda nhw wedi clymu wrth eich bol.”

    Mae Wyn wedi bod yn cysgu trwy’r rhan fwyaf o’r profiad, ond dyw Phoebe ddim yn poeni am y diwrnod hir sydd o’u blaenau: “Dyma fy nhrydydd babi, ac mae'n fwy bodlon na'r ddau arall!"

    Phoebe jenkins
  18. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni yn disgwyl canlyniad cyn 1 o'r glochwedi ei gyhoeddi 12:32 GMT+1 8 Mai

    Craig Duggan
    Gohebydd BBC Cymru

    Mae’r cyfri yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni wedi dod i ben ar wahân i waith gwirio papurau sydd o bosib wedi’u difetha.

    Os na fydd ail gyfri, mae’n ymddangos y bydd canlyniad cyn 1 o’r gloch.

  19. 'Trobwynt yn ein hanes gwleidyddol ni' - Alun Davieswedi ei gyhoeddi 12:28 GMT+1 8 Mai

    Yn siarad ar S4C dywedodd Alun Davies - AS Llafur ers 2007 ac ymgeisydd yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - fod heddiw yn ddiwrnod o newid enfawr i wleidyddiaeth yng Nghymru.

    "Beth bynnag sy'n digwydd yn ystod y dydd heddiw, dwi'n credu bod e'n glir iawn bod ni wedi cyrraedd trobwynt yn ein hanes gwleidyddol ni," meddai.

    "Dyw Llafur ddim jest wedi bod yn gryf, maen nhw wedi bod y brif blaid yng Nghymru ers canrif.

    "Mae hynny'n siŵr o fod yn dod i ben heddiw, a 'da ni'n gweld hynny'n digwydd yma [yn y cyfrif].

    "'Da ni dal yn gobeithio cadw o leiaf un sedd fan hyn, ond mae'n fregus iawn."

    Alun Davies
  20. Pethau'n 'edrych yn bositif i Blaid Cymru' yn Sir Gaerfyrddin yn ôl Adam Pricewedi ei gyhoeddi 12:23 GMT+1 8 Mai

    Garry Owen
    Gohebydd arbennig BBC Cymru

    Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud yng nghyfri etholaeth Sir Gaerfyrddin bod y blaid "wedi cael ymateb hynod bositif ar y stepen drws" trwy'r holl ymgyrch.

    Ychwanegodd: "Mae oriau hir i fynd cofiwch, ond mae'n gyson â'r teimlad ni wedi gael trwy'r ymgyrch i gyd, felly mae'n edrych yn bositif iawn fi'n credu. Ond dal yn gynnar yn y broses."