Etholiad

Canlyniadau Senedd Cymru

Dim mwyafrif i’r un blaid
49 sedd i fwyafrif
96 o 96 sedd
  • Plaid Cymru 43 seddi 20 o seddi wedi’u cipio
  • Reform UK 34 seddi 34 o seddi wedi’u cipio
  • Llafur 9 seddi 35 o seddi wedi’u colli
  • Ceidwadwyr 7 seddi 22 o seddi wedi’u colli
  • Y Blaid Werdd 2 seddi 2 o seddi wedi’u cipio
  • Y Democratiaid Rhyddfrydol 1 sedd 1 o seddi wedi’u cipio
Newid o'i gymharu â 2021

Crynodeb

  • Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf

  • Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1

  • Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"

  • Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro

  • Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn

  • Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd

  • Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd

  • 16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

  1. Blaenau Gwent Caerffili: Yr aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 15:43 GMT+1 8 Mai

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Delyth Jewell (Plaid Cymru)

    Lindsay Whittle (Plaid Cymru)

    Niamh Salkeld (Plaid Cymru)

    Llŷr Tomos Powell (Reform)

    Catherine Cullen (Reform)

    Joshua Kim (Reform)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Plaid Cymru – 29,314

    Reform – 23,955

    Llafur – 7,739

    Ceidwadwyr – 3,353

    Gwyrddion – 2,447

    Dem Rhydd – 1,284

  2. Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:40 GMT+1 8 Mai

    mwy
    mwy
  3. Blaenau Gwent Caerffili Rhymniwedi ei gyhoeddi 15:40 GMT+1 8 Mai
    Newydd dorri

    Cerdyn sy'n dangos canlyniad ar gyfer etholiad etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni. Enillwyd y chwe sedd fel a ganlyn Plaid Cymru     3,    Reform UK     3
  4. Sir Gaerfyrddin: Yr aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 15:40 GMT+1 8 Mai

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Cefin Campbell (Plaid Cymru)

    Nerys Evans (Plaid Cymru)

    Adam Price (Plaid Cymru)

    Gareth Beer (Reform)

    Carmelo Colasanto (Reform)

    Sarah Edwards (Reform)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Plaid Cymru – 36,160

    Reform – 27,542

    Llafur – 6,458

    Ceidwadwyr – 5,853

    Gwyrddion – 3,832

    Dem Rhydd – 1,662

  5. Sir Gaerfyrddin: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:39 GMT+1 8 Mai

    mwy
    mwy
  6. Canlyniad Sir Gaerfyrddinwedi ei gyhoeddi 15:38 GMT+1 8 Mai
    Newydd dorri

    Cerdyn sy'n dangos canlyniad ar gyfer etholiad etholaeth Sir Gaerfyrddin. Enillwyd y chwe sedd fel a ganlyn Plaid Cymru     3,    Reform UK     3
  7. Pryd y cychwynnodd anawsterau Llafur yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 15:32 GMT+1 8 Mai

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    Ar raglen ganlyniadau S4C dadleuodd Huw Thomas, prif ymgeisydd Llafur yn etholaeth Caerdydd Penarth, bod anawsterau’r blaid yn dyddio'n ôl i isetholiad Caerffili ym mis Hydref.

    Fodd bynnag, o edrych ar batrwm yr arolygon barn mae angen edrych yn ôl dipyn pellach na hynny.

    Mae dirywiad yn y gefnogaeth i Lafur wedi bod yn batrwm cyson mewn arolygon yng Nghymru ers dechrau 2023 ac fe welwyd y duedd hon yn magu momentwm yn ystod gwanwyn a haf 2024, sef cyfnod arweinyddiaeth Vaughan Gething.

  8. Dafydd Wigley: Casnewydd Islwyn yn ganlyniad 'arbennig o dda'wedi ei gyhoeddi 15:26 GMT+1 8 Mai

    Wrth ymateb i ddwy sedd Plaid Cymru yng Nghasnewydd Islwyn, yr etholaeth gyntaf i gyhoeddi canlyniad, dywedodd eu cyn-arweinydd yr Arglwydd Dafydd Wigley: “Canlyniad arbennig o dda i Blaid Cymru o ystyried mai yng Nghasnewydd oedd hyn.

    "Ia, Casnewydd ac Islwyn - mae’r blaid wedi bod yn eitha’ cryf yn Islwyn dros y blynyddoedd ond ddim felly o gryf yng Nghasnewydd ac mae cael dwy sedd yno, yr un nifer ac mae Reform wedi cael, yn sylfaen arbennig o dda ar gyfer y dyfodol."

    Ac wrth i’r blaid ennill dwy sedd arall yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg, ychwanegodd: “Mae Plaid Cymru wedi dod yn blaid credadwy, dwi’n credu bod hynny wedi adeiladu dros y degawdau ers creu’r Cynulliad yn 1999 ac mae hynny diolch i rai sydd wedi gweithio’n galed iawn, iawn yn arbenig dros y blynyddoedd diwetha ‘ma i greu hygrededd yn y blaid.”

    Dafydd Wigley
  9. Dan Thomas: 'O hyn ymlaen, rydych chi am gael eich cynrychioli gan Reform'wedi ei gyhoeddi 15:22 GMT+1 8 Mai

    Yn siarad am y tro cyntaf wedi iddo gael ei ethol, mae Dan Thomas yn dweud y bydd Reform yn "rhoi pobl Cymru yn gyntaf".

    Dywedodd: "Am ddegawdau, mae dinasoedd a chymoedd Cymru, fel Islwyn a Casnewydd, wedi cael eu hanwybyddu, eu gadael lawr a'u hanghofio gan hen bleidiau Cymru.

    "Byddwch chi ddim yn cael eich anwybyddu, byddwch ddim yn cael eich gwthio i'r ochr a byddwch ddim yn cael eich galw'n enwau.

    "O hyn ymlaen, rydych chi am gael eich cynrychioli gan Reform."

  10. Pen-y-bont Bro Morgannwg: Yr aelodau newyddwedi ei gyhoeddi 15:20 GMT+1 8 Mai

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Mark Jonathan Hooper (Plaid Cymru)

    Sarah Rees (Plaid Cymru)

    Sarah Cooper-Lesadd (Reform)

    Gareth Thomas (Reform)

    Andrew R.T. Davies (Ceidwadwyr)

    Sarah Murphy (Llafur)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Plaid Cymru - 27,407

    Reform - 24,602

    Ceidwadwyr - 12,464

    Llafur - 9,518

    Gwyrddion - 4,220

    Dem Rhydd - 2,175

  11. Pen-y-bont Bro Morgannwg: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:19 GMT+1 8 Mai

    Mwy
    mwy
  12. Canlyniad Pen-y-bont Bro Morgannwgwedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1 8 Mai
    Newydd dorri

    Cerdyn sy'n dangos canlyniad ar gyfer etholiad etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg. Enillwyd y chwe sedd fel a ganlyn Plaid Cymru     2,    Reform UK     2,   Ceidwadwyr     1,       Llafur     1
  13. 'Dagrau, cofleidio a chymeradwyo gyda chanlyniad cyntaf y dydd'wedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1 8 Mai

    Sara Rowlands
    Gohebydd BBC Cymru

    Disgrifiad,

    Natasha Ashgar

    Mae yna ddagrau, cofleidio a chymeradwyo gyda chanlyniad cyntaf y dydd yng Nghasnewydd Islwyn.

    Roedd Natasha Asghar yn ddagreuol gyda’i theulu cyn cyhoeddi’r canlyniad, o bosib dagrau o ryddhad gan ei bod wedi llwyddo i gadw ei sedd.

    Roedd Jayne Bryant, yr unig un o’r Blaid Lafur i lwyddo i ddal gafael ar ei sedd, yn cofleidio pobl o’i chwmpas.

    Wrth wneud ei araith fe wnaeth arweinydd Reform Dan Thomas fynnu bod “llais pobl Cymru wedi ei glywed”.

    Roedd dathliadau mawr yng nghornel Plaid Cymru gyda Peredur Owen Griffiths a Lyn Ackerman yn ennill 2 sedd.

  14. Y map etholiadol a'r Senedd ar ei newydd wedd yn dechrau poblogi!wedi ei gyhoeddi 15:14 GMT+1 8 Mai

    map

    Gyda'r canlyniad cyntaf wedi cyrraedd, mae'r map etholiadol a threfn y Senedd newydd yn dechrau ffurfio.

    Un wedi cyhoeddi, 15 i ddod!

    Senedd
  15. 'Canlyniad ysgytwol i'r Blaid Lafur'wedi ei gyhoeddi 15:13 GMT+1 8 Mai

    Huw Lewis
    Sylwebydd gwleidyddol

    Mae hwn yn ganlyniad ysgytwol i’r Blaid Lafur – enillodd y blaid rhwng 40% a 50% o’r bleidlais yn yr ardaloedd hyn yn ôl yn 2021. Heddiw roedd wedi syrthio'n ôl i 14%.

    Ar y llaw arall mae gweld Plaid Cymru yn sicrhau dros 30% o’r bleidlais yn syfrdanol.

  16. Dan Thomas yn dathlu yng Nghasnewyddwedi ei gyhoeddi 15:12 GMT+1 8 Mai

    Etholiad 2026

    Dyma'r foment pan glywodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas ei fod wedi'i ethol i'r Senedd dros Gasnewydd Islwyn.

    Dan Thomas
  17. Cymeradwyaeth wrth i Dan Thomas ennill seddwedi ei gyhoeddi 15:07 GMT+1 8 Mai

    Dan Thomas, Arweinydd Reform yng Nghymru, sydd yn ennill y sedd gyntaf yn etholiad Senedd Cymru 2026 yn etholaeth Casnewydd Islwyn.

  18. Canlyniad llawn Casnewydd Islwynwedi ei gyhoeddi 15:02 GMT+1 8 Mai

    Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:

    Dan Thomas (Reform)

    Art Wright (Reform)

    Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru)

    Lyn Ackerman (Plaid Cymru)

    Jane Bryant (Llafur)

    Natasha Asghar (Ceidwadwyr)

    Nifer y pleidleisiau oedd:

    Reform - 25,571

    Plaid Cymru - 23,069

    Llafur - 10,622

    Ceidwadwyr - 8,847

    Gwyrddion - 5,898

    Dem Rhydd - 2,683

  19. Casnewydd Islwyn: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 15:00 GMT+1 8 Mai

    Mwy
    Mwy
  20. Canlyniad Casnewydd Islwynwedi ei gyhoeddi 14:58 GMT+1 8 Mai
    Newydd dorri

    Casnewydd Islwyn