Sir Fynwy Torfaen: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 16:26 GMT+1 8 Mai



Dim mwyafrif i’r un blaid
Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf
Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1
Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"
Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro
Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn
Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd
Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd
16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd



Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Wigley "bron iawn methu â chredu" canlyniadau'r etholiad hyd yn hyn.
Dywedodd: "Dwi'n arbennig o falch o weld Adam Price yn ôl yn Sir Gaerfyrddin.
"'Oedd 'na dipyn bach o amheuaeth sut 'sa'r pleidlais yn mynd, ond mae'n ddiogel."
Er y dathlu, dywedodd ei fod yn "teimlo i'r byw" dros Alun Davies, yr aelod Llafur a gollodd ei sedd.
"Mae'n gwneud joban o waith yn y Cynulliad. "Ond dyna ni, mae 'na newid mawr rwan."
Yr Arglwydd Dafydd Wiggley yn ymateb i perfformiad Plaid Cymru
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 - Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
Sedd 2 - Helen Jenner (Reform)
Sedd 3 - Mair Rowlands (Plaid Cymru)
Sedd 4 – Elfed Williams (Plaid Cymru)
Sedd 5 - John Clarke (Reform)
Sedd 6 - Janet Finch Saunders (Ceidwadwyr)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 31,057
Reform – 19,440
Ceidwadwyr – 8,555
Llafur – 4,448
Gwyrddion – 3,101
Dem Rhydd – 1,591



Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1: Sera Evans (Plaid Cymru)
Sedd 2: Benjamin McKenna (Reform)
Sedd 3: Alun Cox (Plaid Cymru)
Sedd 4: Steve Bayliss (Reform)
Sedd 5: Huw Irranca-Davies (Llafur)
Sedd 6: Elyn Stephens (Plaid Cymru)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru: 24,538
Reform: 22,345
Llafur: 11,123
Ceidwadwyr: 2,831
Gwyrddion: 2,561
Dem Rhydd: 1,800



Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 - Heledd Fychan (Plaid Cymru)
Sedd 2 - Jason O'Connell (Reform)
Sedd 3 - Lis McLean (Plaid Cymru)
Sedd 4 - David Hughes (Reform)
Sedd 5 - Sara Crowley (Plaid Cymru)
Sedd 6 - Vikki Howells (Llafur)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 28,687
Reform – 22,217
Llafur – 9,344
Ceidwadwyr – 4,339
Gwyrddion – 3,466
Dem Rhydd – 1,393



Mae'r canlyniad ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg, lle mae'r bleidlais fel arfer wedi'i hollti rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr, yn un "hanesyddol", yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones.
"Mae'r ddwy blaid yma rhyngthyn nhw wedi cael chwarter y bleidlais felly mae Plaid Cymru a Reform wedi cael mwy na'r ddwy blaid sy'n arfer cystadlu yn yr ardal yna," meddai.
"Mae'r ffaith fod Plaid Cymru yn cael traean o'r bleidlais ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg yn rhyfeddod yn hanesyddol.
"Dwi'n ista fan 'ma yn gegrwth mwy neu lai ar y canlyniadau 'ma."
Ar ôl y tri chanlyniad sydyn yna gefn-wrth-gefn, dyma'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y map etholiadol, a sut mae'r Senedd newydd 96 aelod yn dechrau ffurfio.


Ar ôl cael ei ail-ethol i'r Senedd mae Andrew RT Davies yn dweud bod y patrymau pleidleisio traddodiadol wedi "diflannu" a bod yna waith gan ei blaid i wneud i ddeall pam bod hynny wedi digwydd.
Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Gyda dim llond dwrn o ganlyniadau wedi dod i law rydym eisoes yn medru gweld yn glir sut y mae fformiwla D'Hont, sy’n cael ei defnyddio i ddosbarthu’r chwe sedd ym mhob etholaeth, yn ffafrio’r pleidiau mwyaf.
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Anna Brychan (Plaid Cymru)
Kiera Marshall (Plaid Cymru)
Leticia Gonzalez Estigarribia (Plaid Cymru)
Joe Martin (Reform)
Huw Thomas (Llafur)
Anthony Slaughter (Gwyrddion)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 36,136
Reform – 15,525
Gwyrddion – 12,113
Llafur – 10,907
Ceidwadwyr – 6,818
Dem Rhydd – 2,260



Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Mae gweld Plaid Cymru ar y brig mewn ardaloedd fel Pen-y-bont a Bro Morgannwg gyda dros 30% o’r bleidlais yn gwbl ddigynsail.
Byddai’r blaid yn crafu i gyrraedd 10% yn yr ardaloedd hyn mewn etholiadau blaenorol.