Clwyd: Y manylion yn llawnwedi ei gyhoeddi 17:17 GMT+1 8 Mai



Dim mwyafrif i’r un blaid
Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf
Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1
Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"
Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro
Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn
Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd
Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd
16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd






Mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru, ar ôl colli ei sedd yn y Senedd.
Mae Alun Davies o'r blaid Lafur – cyn-weinidog Llywodraeth Cymru a gollodd ei sedd yn etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni – wedi dweud y dylai Keir Starmer ymddiswyddo fel prif weinidog.
Mewn araith o'r llwyfan yng Nghaerffili ar ôl clywed ei fod wedi colli ei sedd, dywedodd Mr Davies fod canlyniadau Llafur yn "golled a gynhyrchwyd yn Downing Street".
Ychwanegodd Mr Davies fod y blaid Lafur wedi "colli ei ffordd a'i gallu i siarad â'r bobl" y dylai fod yn eu cynrychioli.
Dywedodd na ddylai'r blaid Lafur "ddiystyru llais pobl Cymru fel pleidlais brotest canol tymor" gan ychwanegu fod pobl yn ei dref enedigol, Tredegar, wedi dweud wrtho yn ystod yr ymgyrch eu bod wedi ei gefnogi drwy gydol ei yrfa wleidyddol ond y tro hwn na allent bleidleisio drosto.
Gorffennodd ei araith drwy ddweud: "Rhaid i Lafur Cymru sefyll dros bobl Cymru neu nid ydym yn ddim byd."

Dyma'r foment daeth cadarnhad bod Eluned Morgan wedi colli ei sedd yn Senedd Cymru.
Roedd arweinydd Llafur Cymru yn sefyll yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Dyma'r tro cyntaf i unrhyw brif weinidog golli ei sedd mewn unrhyw etholiad i'r Senedd neu mewn etholiad cyffredinol.
Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Ar sail y canlyniadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn, mae’n ymddangos fel bod Plaid Cymru yn perfformio yn well na’r tueddiadau yn yr arolygon barn, tra bod Reform yn tanberfformio.
Mae’r bleidlais i Lafur hefyd yn gyson yn syrthio’n is na’r 15% roedd nifer o’r arolygon yn eu rhagweld.
Mae hyn oll yn awgrymu bod y patrwm a welwyd yn isetholiad Caerffili yn ailadrodd ei hun ar draws sawl rhan o Gymru.
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 – Elin Jones (Plaid Cymru)
Sedd 2 – Claire Archibald (Reform)
Sedd 3 – Kerry Ferguson (Plaid Cymru)
Sedd 4 – Paul Davies (Ceidwadwyr)
Sedd 5 – Paul Marr (Reform)
Sedd 6 – Anna Nicholl (Plaid Cymru)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 31,943
Reform – 23,003
Ceidwadwyr – 14,789
Llafur – 6,495
Gwyrddion – 6,324
Dem Rhydd – 4,613


Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 - Dafydd Trystan Davies (Plaid Cymru)
Sedd 2 - Cai Parry-Jones (Reform)
Sedd 3 – Zaynub Akbar (Plaid Cymru)
Sedd 4 - Nick Carter (Plaid Cymru)
Sedd 5 – Shav Taj (Llafur)
Sedd 6 – Paul Rock (Gwyrddion)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 32,617
Reform – 17,335
Gwyrddion – 9,036
Llafur – 11,261
Ceidwadwyr – 8,479
Dem Rhydd – 8,442




Gyda naw etholaeth bellach wedi cyhoeddi eu canlyniadau, rydyn ni dros hanner ffordd!
Dyma'r sefyllfa hyd yma, gyda Phlaid Cymru'n tynnu ar y blaen i Reform.



Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi ennill sedd yn etholaeth Bangor Gwynedd Môn.
Mae hefyd wedi llongyfarch yr aelodau eraill a gafodd eu hethol yn yr ardal, gan gynnwys dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner.
Dywedodd: "Nid hawdd yw mentro i lygaid y cyhoedd fel ymgeisydd.
"Mae dyletswydd ar bob un ohonom ni i dderbyn y sgriwtini sy'n dod yn sgil hynny, ac i ddangos arweiniad o ran y math o barch mae'n rhaid ei arddel o fewn y broses ddemocrataidd."
Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at fod yn "rhan o dîm" fydd yn cynrychioli Bangor Conwy Môn.
Mae'r BBC yn darogan mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn y Senedd wedi i'r holl ganlyniadau ddod i'r amlwg.
Mae'r arbenigwr ar etholiadau, Syr John Curtice, yn rhagweld y bydd plaid Rhun ap Iorwerth yn ennill rhwng 41 a 46 sedd.
Mae'r rhagolwg llawn isod.

Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Tra bod y lefelau pleidleisio i Reform yn drawiadol dros ben, ac mae'r blaid wedi dod i’r brig o ran pleidleisiau yng Nghasnewydd Islwyn a Sir Fynwy Torfaen, hyd yn hyn nid yw Reform wedi llwyddo i gipio mwy o seddi na Phlaid Cymru mewn unrhyw etholaeth.
Byddai Reform wedi gobeithio ennill mwy o seddi na Phlaid Cymru mewn etholaethau fel Afan Ogwr Rhondda a Pontypridd Cynon Merthyr.
Mae Anthony Slaughter wedi siarad am ddiwrnod "hanesyddol" i'r Blaid Werdd ar ôl cael ei ethol yng Nghaerdydd Penarth.
Dywedodd: "Mae'n anhygoel, mae'n gyffrous.
"Mae cael llais o'r Blaid Werdd yn y Senedd am wneud gwahaniaeth."
Mae'n gobeithio bydd mwy o aelodau'r blaid yn ymuno gydag ef yn y Senedd: "Dim ond y dechrau yw hwn."
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 - Laura Jones (Reform)
Sedd 2 - Matthew Jones (Plaid Cymru)
Sedd 3 – Peter Fox (Ceidwadwyr)
Sedd 4 - Stephen Senior (Reform)
Sedd 5 – Lynne Neagle (Llafur)
Sedd 6 – Donna Cushing (Plaid Cymru)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Reform – 24,155
Plaid Cymru – 18,275
Ceidwadwyr – 13,394
Llafur – 11,672
Gwyrddion – 6,375
Dem Rhydd – 2,742