Canlyniad Gwynedd Maldwynwedi ei gyhoeddi 18:12 GMT+1 8 MaiNewydd dorri


Dim mwyafrif i’r un blaid
Yr holl ganlyniadau wedi cael eu cyhoeddi yn etholiad y Senedd, gyda Phlaid Cymru y blaid fwyaf
Plaid Cymru'n ennill 43 sedd, Reform - 34, Llafur - 9, Ceidwadwyr - 7, Y Blaid Werdd - 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol - 1
Rhun ap Iorwerth yn dweud bod Plaid Cymru'n barod "i fwrw ymlaen i ffurfio llywodraeth nesaf Cymru"
Y prif weinidog Eluned Morgan wedi colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro
Arweinydd Reform yng Nghymru Dan Thomas wedi ennill sedd yn etholaeth Casnewydd Islwyn
Y Blaid Werdd yn ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn cadw ei sedd
Dros 50% wedi pleidleisio am y tro cyntaf ar gyfer etholiad i'r Cynulliad neu'r Senedd
16 etholaeth y tro hwn, a 96 AS wedi cael eu hethol am y tro cyntaf drwy system newydd

Doedd Alun Davies "ddim yn disgwyl" colli ei sedd ym Mlaenau Gwent Caerffili Rhymni yn gynharach heddiw.
Fe ddywedodd: "Mae'n rhaid i ni ystyried lle 'da ni'n mynd fel plaid ar ôl hyn.
"Ni wedi gweld trobwynt hanesyddol i'r blaid Lafur sy'n mynd tu hwnt i bleidlais brotest.
"Collais i'r sedd oherwydd mae'r bobl dwi'n cynrychioli wedi dweud yn glir iawn bod y blaid Llafur wedi troi cefn arnyn nhw."
Wrth ei holi a yw'n rhoi'r bai ar Keir Starmer, dywedodd bod prif weinidog y DU wedi "troi ei gefn ar Gymru".
Mae Alun Davies yn credu bod Keir Starmer wedi "troi ei gefn ar Gymru"
Er gwaethaf canlyniad y Democratiaid Rhyddfrydol ar draws Cymru, mae unig aelod y blaid yn y Senedd newydd, Jane Dodds, yn sicr mai hi yw'r person gorau i barhau i arwain y blaid i'r dyfodol.
BBC Radio Cymru
Wrth i'r canlyniadau gyrraedd yn gyflym, mae'r sylwebydd gwleidyddol Mel Owen wedi bod yn trafod ffawd rhai o'r pleidiau mawr ar Radio Cymru.
"Mae'n rhaid i ni gofio pa mor drawiadol yw hi fod Llafur a'r Ceidwadwyr yn y ras yma am y chweched lle ar bron pob rhestr...
"Dwi ddim yn gallu meddwl am air gwell - gydag ymddiheuriadau - na pathetig."
Gydag un canlyniad i fynd mae bellach yn glir mai Plaid Cymru fydd y blaid fwyaf yn y Senedd ar ôl etholiad hanesyddol sydd wedi gweld Llafur Cymru'n cael eu gwthio i'r drydedd safle y tu ôl i Reform.
Mae gan Blaid Cymru saith o seddi yn fwy na Reform ar hyn o bryd, gydag un etholaeth i fynd ac felly dim ond chwe sedd sydd yn weddill i'w cipio.
Mae gan Blaid Cymru 39 o seddi a Reform 32.
Ffynhonnell y llun, Getty Images

Huw Lewis
Sylwebydd gwleidyddol
Nol yn 1999, disgrifiodd Dafydd Wigley ganlyniadau Plaid Cymru yn yr etholiadau datganoledig cyntaf – canlyniadau gorau’r blaid tan eleni – fel "daeargryn tawel".
Cipio ambell sedd gan y blaid Lafur – Llanelli, y Rhondda ac Islwyn – wnaeth Plaid Cymru bryd hynny.
Mae canlyniadau heddiw ar lefel cwbl wahanol ac yn rhoi’r cyfle i Blaid Cymru arwain llywodraeth am y tro cyntaf yn ei hanes ac yn nodi diwedd ar oruchafiaeth etholiadol y blaid Lafur yng Nghymru – dyna ddaeargryn gwleidyddol go iawn.
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 - Cristiana Emsley (Reform)
Sedd 2 - Carrie Harper (Plaid Cymru)
Sedd 3 – Nigel Williams (Reform)
Sedd 4 - Marc Jones (Plaid Cymru)
Sedd 5 – Sam Rowlands (Ceidwadwyr)
Sedd 6 – Ken Skates (Llafur)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Reform – 25,349
Plaid Cymru – 18,440
Ceidwadwyr – 9,017
Llafur – 8,555
Gwyrddion – 5,138
Dem Rhydd – 2,647

Yng nghanol prysurdeb yr hanner awr ddiwethaf, fe lwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill eu sedd gyntaf.
Eu harweinydd Jane Dodds enillodd un o seddi Brycheiniog Tawe Nedd.
Hi oedd unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd ddiwethaf, ac mae'n ymddangos mai hi fydd unig gynrychiolydd y blaid yn y Senedd nesaf hefyd.

Wrth siarad ar ôl colli ei sedd yng Ngheredigion Penfro, dywedodd Eluned Morgan: “Rydyn ni’n byw mewn cyfnod cythryblus.
“Mae llawer yn disgwyl atebion syml i gwestiynau cymhleth iawn, ond does dim atebion syml ac mae’r cyllidebau’n gyfyngedig.”
Dywedodd fod gwleidyddiaeth Cymru wedi newid yn sylweddol, gan ychwanegu bod “oes goruchafiaeth dwy blaid wedi dod i ben”.
Llongyfarchodd Blaid Cymru ar eu llwyddiant “hanesyddol”, gan ddweud y byddai pawb am weld “arweinyddiaeth sefydlog a chlir” pe bydden nhw’n ffurfio llywodraeth newydd.
Wrth gyfeirio at enillion Reform, dywedodd fod angen deall dicter pobl ond peidio â’i waethygu.
“Mae angen gwrando ar y dicter, nid bwydo’r dicter,” meddai.
Dywedodd mai bod yn Brif Weinidog Cymru oedd “braint fy mywyd”, yn enwedig fel y fenyw gyntaf i arwain y wlad.

Richard Wyn Jones
Athro Gwleidyddiaeth Cymru
Mae'r canlyniad yn etholaeth Ceredigion Penfro yn "cyferbynnu dwy stori unigol", meddai'r Athro Richard Wyn Jones.
Gydag Eluned Morgan yn colli ei sedd "mae rhywun gorfod teimlo drosti fel aelod o'r hil ddynol", meddai ar S4C.
"Hi di'r prif weinidog cyntaf yn hanes yr ynysoedd yma i golli'r swydd yn y fath fodd.
"Mae o'n mynd i fod yn ergyd bersonol drom iawn, iawn... mae'n drychineb personol iddi hi."
Dywedodd bod llwyddiant Paul Davies o'r Ceidwadwyr Cymreig yn "ochr arall y geiniog" a'n dangos bod "pleidlais bersonol dal yn gallu digwydd yn y system newydd yma".
Gyda Phrif Weinidog Cymru wedi colli ei sedd, dyma oedd gan y sylwebydd gwleidyddol Dr Huw Lewis i'w ddweud:
"Ma' gweld Eluned Morgan yn methu ag ennill sedd yng Ngheredigion Penfro yn goron ar etholiad sydd eisoes yn ysgytwol i'r Blaid Lafur.
"Ro'n i'n gwybod wrth agosáu at yr etholiad fod hwn yn debygol o fod yn etholiad siomedig i'r blaid Lafur, y cwestiwn mawr oedd pa mor bell y gallai'r blaid syrthio ac mae'r canlyniadau ni 'di gweld hyd yn hyd yn mynd hyd yn oed yn is na'r arolygon barn gwael ni 'di gweld cyn yr etholiad."
Mae 14 o'r 16 etholaeth bellach wedi cael eu cyhoeddi, ac rydyn ni'n gwybod pwy fydd 84 o'r 96 aelod yn y Senedd.
Canlyniadau Gwynedd Maldwyn a Fflint Wrecsam sydd i ddod.



Wedi iddi golli ei sedd yn y Senedd, mae Eluned Morgan wedi cymryd cyfrifoldeb dros ganlyniadau "trychinebus" Llafur yn yr etholiad.
Dywedodd: "Heddiw, mae'r blaid Lafur wedi dioddef canlyniad trychinebus.
"Mae'n gorffen canrif o Lafur yn ennill yng Nghymru a bydd angen i'r blaid edrych yn galed ar ei hun, a deall dyfnder yr her ry' ni'n ei hwynebu."
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 – Gwyn Williams (Plaid Cymru)
Sedd 2 – Francesca O'Brien (Reform)
Sedd 3 – Safa Elhassan (Plaid Cymru)
Sedd 4 – Mike Hedges (Llafur)
Sedd 5 – Steven Rodaway (Reform)
Sedd 6 – John Davies (Plaid Cymru)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Plaid Cymru – 25,076
Reform – 21,641
Llafur - 11,195
Ceidwadwyr – 7,523
Gwyrddion – 6,383
Dem Rhydd – 6,262
Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 – Adrian Mason (Reform)
Sedd 2 – Llyr Gruffydd (Plaid Cymru)
Sedd 3 – Darren Millar (Ceidwadwyr)
Sedd 4 – Louise Emery (Reform)
Sedd 5 – Becca Martin (Plaid Cymru)
Sedd 6 – Thomas Montgomery (Reform)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Reform – 25,741
Plaid Cymru – 22,583
Ceidwadwyr – 16,193
Llafur – 8,314
Gwyrddion – 4,219
Dem Rhydd – 2,355



Yr aelodau sydd wedi eu hethol yw:
Sedd 1 – James Evans (Reform)
Sedd 2 – Sioned Williams (Plaid Cymru)
Sedd 3 – Iain Charles McIntosh (Reform)
Sedd 4 – Rebeca Phillips (Plaid Cymru)
Sedd 5 – Jane Dodds (Dem Rhydd)
Sedd 6 – David Terence Mills (Reform)
Nifer y pleidleisiau oedd:
Reform – 26,897
Plaid Cymru – 23,276
Dem Rhydd – 9,549
Llafur – 7,086
Ceidwadwyr – 6,821
Gwyrddion – 5,405