Seiont Manor: Gwrthod cais i ailddatblygu gwesty moethus

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Gwesty'r Seiont Manor
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwesty'r Seiont Manor wedi bod ar gau ers 2020

GanGareth Wyn Williams
BBC Cymru

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod cefnogi cais i ailddatblygu gwesty moethus sydd wedi bod ar gau am bedair blynedd.

Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Gwynedd wedi argymell caniatáu'r cais i ehangu safle gwesty'r Seiont Manor yn Llanrug, ger Caernarfon.

Roedd y cynlluniau'n cynnwys adeiladu 28 ystafell wely ychwanegol, fyddai wedi golygu cyfanswm o 61 o ystafelloedd gwely i westeion.

Roedd bwriad hefyd i adeiladu 39 o gabannau gwyliau a gwella'r cyfleusterau i westeion, gan gynnwys cyrtiau tenis, bloc llety staff, llefydd parcio ychwanegol ac ystafell biomas.

Roedd y cynllun wedi denu gwrthwynebiad yn lleol, gyda Chyngor Cymuned Llanrug a Chwm y Glo wedi mynegi pryder dros faint y cynllun a'r cynnydd tebygol mewn traffig.

Gan fynd yn erbyn argymhelliad y swyddogion, barn y pwyllgor oedd i wrthod y cais o 12 pleidlais i un.

Y Seiont Manor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y cynlluniau'n cynnwys adeiladu 28 ystafell wely ychwanegol

Roedd cau'r gwesty yn 2020 yn ergyd i economi'r ardal, wrth i tua 35 o bobl golli ei gwaith.

Barn swyddogion cynllunio Gwynedd oedd byddai'r datblygiad yn cynnig "twristiaeth o safon" gan "gefnogi economi'r ardal", ac yn cael "effaith llesol cyffredinol ar y Gymraeg".

Ond dadl yr aelodau lleol oedd bod y cynlluniau'n "rhy fawr".

'Tanseilio swyddi lleol'

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, fod Llanrug yn "gymuned sy'n falch iawn o'i busnesau lleol" a bod "nifer o feysydd carafanau yno eisoes, yn eiddo i bobl leol sydd wedi gweithio'n galed".

Mynegodd bryderon y byddai'r datblygiad - yn enwedig y 39 caban gwyliau - yn "tanseilio swyddi pobl leol sy'n byw yma drwy'r flwyddyn".

Gan ychwanegu nad oedd hi "wedi dod ar draws unrhyw un sydd o blaid", pwysleisiodd y byddai cefnogaeth i ddatblygiad o faint tebyg i Seiont Manor fel ag yr oedd.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones "nad oedd y raddfa yn briodol" a bod y cais fel ag yr oedd "yn groes i rai o bolisïau'r cyngor".

Beca Brown
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown y byddai'r datblygiad yn "tanseilio swyddi pobl leol sy'n byw yma drwy'r flwyddyn"

Ar ran y datblygwyr, Caernarfon Properties Ltd, dywedodd yr asiant cynllunio Rhys Davies o Cadnant Planning bod rhai elfennau o'r cais wedi eu diwygio ers eu cyflwyno yn 2021 er mwyn ei wneud yn dderbyniol.

Pwysleisiodd na fyddai datblygu Seiont Manor ar y raddfa gynt yn hyfyw, gan ychwanegu y byddai'n creu "o leiaf" 20 a hyd at 30 o swyddi llawn amser, a'i bod yn "bwysig i'r economi leol i'w gefnogi".

Ond gwrthwynebu oedd mwyafrif llethol aelodau'r pwyllgor, gyda'r Cynghorydd Elin Hywel yn cynnig gwrthod ar sail "gormodedd" nifer y cabanau a'r effaith ar y tirwedd, yn ogystal â graddfa'r datblygiad i ddyblu nifer yr ystafelloedd ac adeiladau allanol eraill.

Cynlluniau Seiont ManorFfynhonnell y llun, Dogfennau Cynllunio
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r safle pe bai wedi cael ei weddnewid

Ychwanegodd "nad yw'n enghraifft o dwristiaeth gynaliadwy" a'i fod yn "or-ddatblygiad".

"Byddai 39 caban a gwesty 60 stafell yn cael effaith ar yr ardal wledig o gwmpas ac yn newid yr ymdeimlad yn lleol," meddai, wrth i'w chynnig ddenu cefnogaeth bron yn unfrydol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol