Gwybodaeth: Pwy ydy Pwy? - Penigamp

Pwy ydy Pwy?



Ydych chi'n gallu dyfalu Pwy ydy Pwy?

Sut i chwarae

Mae'r gêm 'Pwy ydy Pwy?' syml hon yn canolbwyntio ar sgiliau gwrando a darllen yn Gymraeg wrth i ddysgwyr geisio adnabod casgliad o gymeriadau o'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys ar gardiau adnabod personol. I ddechrau, dylai'r dysgwyr edrych ar ddetholiad o gardiau adnabod. Wedyn, yn seiliedig ar gliwiau ysgrifenedig neu sain, ac yn hwyrach ar gliwiau sain yn unig, rhaid iddynt ddyfalu pwy sy'n cael ei ddisgrifio. Po gywiraf mae'r defnyddwyr, y mwyaf o bwyntiau a enillir. Gellir chwarae yn erbyn y cloc pe dymunir ac mae fersiwn Gogledd Cymru neu De Cymru ar gael. Gellir argraffu tystysgrif bersonol, sy'n nodi enw, sgôr ac amser y defnyddiwr.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Pwy ydy Pwy?

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Ceir datblygiad naturiol o fewn y gweithgaredd hwn, sy'n herio sgiliau ieithyddol drwy gynnig cliwiau ysgrifenedig ynghyd â sain, cyn symud ymlaen i gliwiau sain yn unig. Gan ddefnyddio'r themâu Y Corff/Ffrindiau, mae'r gêm hon yn ymarfer y ffurfiau gramadegol Mae gen i... (NW) a Mae... 'da fi (SW), ac yn canolbwyntio ar yr eirfa ar gyfer disgrifio wynebau a lliw gwallt, yn ogystal ag oed, taldra a dillad. Noder fod dau fersiwn o'r gêm hon ar gael - fersiwn Gogledd Cymru a fersiwn De Cymru.

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Pwy ydy Pwy? yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Fel ymarfer i'w paratoi, gallwch ofyn i'r myfyrwyr ddisgrifio'u hunain, eu ffrindiau neu eu hathrawon, drwy dynnu lluniau o'i gilydd ar gamera digidol er mwyn ymarfer y geiriau a'r strwythurau targed. Mewn parau, gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae Pwy ydy Pwy? ar y cyfrifiadur ac argraffu eu tystysgrifau fel eich bod yn gallu asesu eu canlyniadau.

Nawr, gofynnwch i'r plant greu eu cymeriadau Pwy ydy Pwy? eu hunain. Rhowch y plant mewn parau eto. Heb ddangos dim byd i'r plentyn arall, gofynnwch i un myfyriwr dynnu llun pen a rhan uchaf y corff ac i'r myfyriwr arall dynnu llun rhan isaf y corff a'r traed, gan ychwanegu cyn gymaint o liwiau ac atodion â phosibl. Gludwch y ddau ddarlun at ei gilydd i ddatgelu eu cymeriadau/angenfilod/estroniaid personol etc.

Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu cardiau adnabod gan nodi enw a phriodoleddau eu cymeriad. Dangoswch y lluniau ar y wal a dosbarthwch y cardiau adnabod gorffenedig i bawb yn y dosbarth. Ar gyfer y myfyrwyr llai abl, chwaraewch fersiwn syml o Pwy ydy Pwy? gyda'r athro neu'r athrawes yn galw cliwiau allan. Ar gyfer myfyrwyr mwy abl, gofynnwch iddynt greu cliwiau ar gyfer eu cymeriadau eu hunain a'u galw allan i'r dosbarth/grŵp.

Cymraeg Saesneg
Mae gen i... I have... (NW)
Mae ... 'da fi I have... (SW)
lliw gwallt hair colour
lliw llygaid eye colour
lliw croen skin colour
steil gwallt hair style
oedran age
taldra height
dillad clothes
esgidiau shoes
het wellt straw hat
menig gloves
Dw i'n mesur... I measure
Cymraeg Saesneg
esgidiau uchel high heels
cyrliog curly
brychni haul freckles
lliw haul tan
cadwyn chain
clustdlws, clustdlysau earring, earrings
clipiau gwallt hair clips
ffrog fer short dress
sach deithio rucksack
crys-chwys sweat-shirt
sgert fer short skirt
mwclis necklace
Dw i'n gwisgo I'm wearing...


Copyright © 2015 BBC. The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.