Gwybodaeth: Jamie'n Jamio - Penigamp

Jamie'n Jamio



Mae Jamie'n hoffi jamio ar ei gitâr drydan! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn neu bydd Jamie'n torri tant!

Sut i chwarae

Profwch sgiliau jamio Jamie! Cliciwch ar y gair cywir ar y sgrîn gyfrifiadur. Os bydd yr ateb yn gywir, bydd Jamie yn jamio i chi. Os byddwch chi'n anghywir bydd Jamie'n torri tant a byddwch chi'n colli bywyd. Bydd y cwestiwn yn ailymddangos ac yn rhoi cyfle i chi geisio eto. Gallwch wrando ar y brawddegau dro ar ôl tro drwy symud y llygoden dros y geiriau.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Jamie'n Jamio

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Gan ddefnyddio'r thema Y Byd o'n Cwmpas, mae'r gêm hon yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol i ymarfer cwblhau brawddegau yn Gymraeg drwy gymharu geiriau gwrthgyferbyniol. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:

  • Lefel 1: person cyntaf a'r trydydd person presennol (ffurf gwmpasog)
  • Lefel 2: yr amser presennol (ffurf gwmpasog) + amser
  • Lefel 3: person cyntaf gorffennol (ffurf gryno)
  • Lefel 4: cyfuniad o'r uchod

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Jamie'n Jamio yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm isod.

Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau o bedwar ac, yn ddibynnol ar eu gallu, gofynnwch iddynt chwarae lefel arbennig, neu bob un o'r lefelau yn Jamie'n Jamio. Mae'r cwestiynau wedi'u dewis ar hap, felly os ydynt yn colli eu tri bywyd cyn gorffen y deg cwestiwn sydd ym mhob lefel, anogwch nhw i geisio eto ac anelu am y sgôr uchaf posibl. Bydd hyn yn atgyfnerthu'r patrymau iaith a'r eirfa.

Nawr, rhowch ddechrau nifer o wahanol frawddegau i hanner y dosbarth. Yn ddelfrydol, dylid seilio'r iaith yn y brawddegau ar yr eirfa mae'r myfyrwyr wedi ei dysgu yn y gêm. Rhowch ail ran y brawddegau i weddill y dosbarth.

Gofynnwch i'r myfyrwyr chwilio am bartner gyda hanner arall eu brawddegau. Os oes unrhyw gyfuniadau sy'n creu brawddegau annisgwyl, ac yn gadael rhai gyda brawddegau diystyr, yna awgrymwch eu bod yn ffeindio partneriaid mwy addas fel bod gennych gyflenwad llawn o frawddegau. Gellir ailadrodd y dasg hon mor aml ag y dymunir gyda chynifer o frawddegau ag yr hoffech.

Pan mae'r myfyrwyr wedi llwyddo i gael hyd i hanner arall eu brawddegau, gofynnwch iddynt recordio eu brawddegau cyflawn gyda'u partneriaid. Gofynnwch i'r parau wrando ar eu brawddegau eto ac ysgrifennu ystyr eu brawddegau Cymraeg yn Saesneg. Yn eu tro, gall y parau ddarllen eu brawddegau Cymraeg a Saesneg am yn ail ar goedd i weddill y dosbarth.

Lefel 1
Cymraeg Saesneg
cario to carry
dysgu to learn, to teach
glaw rain
gwynt wind
ar y cyfrifiadur on the computer
Cymraeg Saesneg
yn yr ardd in the garden
gwylio to watch
beicio to cycle
eira snow
bwyta to eat

Lefel 2
Cymraeg Saesneg
dringo climb
coeden tree
blodyn flower
gwisgo to wear
Cymraeg Saesneg
yn yr haf in the summer
menig gloves
yn y gaeaf in the winter
llaeth milk

Lefel 3
Cymraeg Saesneg
clywais i I heard
rhaglen programme
bwytais i I ate
mwynheais i I enjoyed
es i I went
canolfan hamdden leisure centre
nofiais i I swam
Cymraeg Saesneg
archfarchnad supermarket
gwyliais i I watched
chwaraeais i I played
cysgais i I slept
stafell wely bedroom
cegin kitchen
sâl ill, sick

Lefel 4
Cymraeg Saesneg
sglefrfyrddio to skateboard
prynu to buy
brechdanau sandwiches
selsig sausages
chwaer sister
tîm team
bechgyn boys
merched girls
Cymraeg Saesneg
rhedais i I ran
yn gyflym fast, quickly
cadw to keep
heini fit
tywyll dark
golau light
prynais i I bought
awyr air, sky


Copyright © 2015 BBC. The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.