Gwybodaeth : Gair am Air - Penigamp

Gair am Air



Ewch air am air gyda'r cyfrifiadur. Faint o eiriau Cymraeg ydych chi'n gallu eu cofio?

Sut i chwarae

Gêm i ymarfer y cof ydy Gair am Air, sy'n helpu myfyrwyr i ddysgu ac ymarfer geirfa Gymraeg gan ddefnyddio sain, delweddau a geiriau dros bedair lefel. I chwarae'r gêm, rhaid i'r dysgwyr ddewis lefel a thema. Mae'r cyfrifiadur wedyn yn dechrau'r gêm drwy ddewis gair ar hap. Dylai'r dysgwyr ymateb drwy glicio ar y gair mae'r cyfrifiadur wedi ei ddewis. Bydd y cyfrifiadur wedyn yn ailadrodd y gair cyntaf ac wedyn yn dewis gair arall. Rhaid i'r dysgwyr ailadrodd trefn y geiriau. Os ydy'r defnyddwyr yn dewis y dilyniant anghywir, maent yn colli'r gêm.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd Gair am Air

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Dyma gêm ryngweithiol a chyffrous, sy'n ymarfer geirfa drwy ddefnyddio 11 o brif themâu ynghyd â 19 o is-themâu ychwanegol. Dyma gyfle gwych i wella sgiliau gwrando, sillafu ac ynganu. Ceir pedair lefel, sy'n ymarfer y canlynol:

  • Lefel 1: adnabod a deall geiriau gyda delwedd wedi'i haroleuo
  • Lefel 2: adnabod a deall geiriau gyda delwedd a thestun wedi'u haroleuo
  • Lefel 3: adnabod a deall geiriau gyda thestun wedi ei aroleuo yn unig
  • Lefel 4: adnabod a deall geiriau heb unrhyw aroleuo fel awgrym

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio Gair am Air yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gofynnwch i'r myfyrwyr chwarae unrhyw un o'r themâu mewn parau neu ar eu pen eu hunain, er mwyn sicrhau eu bod wedi dysgu'r eirfa berthnasol. Ceir rhestr o'r is-themâu a ddefnyddir yn y gêm isod.

Gellir atgyfnerthu'r eirfa a gyflwynir yn Gair am Air mewn gweithgaredd dosbarth ychwanegol, drwy ddangos llythyren ar gerdyn fflach. Cychwynwch y gweithgaredd drwy weiddi allan ymadrodd yn Gymraeg, ee "Ydych chi'n barod i ddechrau?", "Pawb yn barod?", "1, 2, 3, i ffwrdd â ni!", "Amdani!" etc.

Dylai'r plant nawr ysgrifennu cynnifer o eiriau â phosibl sy'n dechrau â'r llythyren ar y cerdyn fflach. Dywedwch wrth y myfyrwyr fod rhaid galw allan ymadrodd Cymraeg, ee "Barod!", "Dw i wedi gorffen!", "Mae X gair 'da fi!" etc pan maent yn credu eu bod wedi ysgrifennu y nifer uchaf o eiriau. Dyma arwydd i bawb arall fod rhaid stopio ysgrifennu.

Dylai'r myfyrwyr gyfnewid papurau a marcio gwaith ei gilydd. Ceir un pwynt ar gyfer pob gair cywir. Bydd yr enillydd, sef y person gyda'r nifer uchaf o eiriau cywir, yn sgorio dau bwynt ychwanegol, ac nid y person a weiddodd allan fydd o reidrwydd yn ennill.

Cymraeg Saesneg
Prif liwiau Basic colours
Lliwiau eraill Other colours
Anifeiliaid anwes Pets
Anifeiliaid y fferm Farm animals
Anifeiliaid y sŵ Zoo animals
Ffrwythau a llysiau Fruit and vegetables
Bwyd parti Party food
Diodydd Drinks
Dillad haf Summer clothes
Dillad gaeaf Winter clothes
Cymraeg Saesneg
Un i naw One to nine
Deg i nawdeg Ten to ninety
Gwyliau a dathlu Festivals
Y Tywydd Weather
Teimladau Feelings
Chwaraeon Sports
Amser hamdden Spare time
Fy Ardal My Area
Teithio Travel


Copyright © 2015 BBC. The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.