Gwybodaeth: DJ Dawnus - Penigamp


Dyma'ch cyfle i fod yn gynhyrchydd recordiau llwyddiannus! Gwyliwch a gwrandewch wrth i'r DJ fynd trwy'i bethau a helpwch ef i fynd i dop y siartiau.

Sut i chwarae

Dewiswch thema, yna drwy esgus fod yn gynhyrchydd recordiau, darllenwch y brawddegau wrth iddyn nhw ymddangos ar y sgrîn. Rhowch y brawddegau i mewn i'r categori cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod desg gymysgu DJ Dawnus pan fydd y geiriau allweddol yn ymddangos ar y sgrîn. Po fwyaf o atebion cywir a roddir, mwya'n byd o recordiau sy'n cael eu gwerthu gan DJ Dawnus!

Gallwch chi wrando ar y brawddegau ar ddiwedd y gêm, a gwirio'r atebion cywir drwy glicio ar y botymau ar waelod y sgrîn. Mae'r brawddegau yn ymddangos ar hap bob tro.

Cliciwch yma i fynd i weithgaredd DJ Dawnus

Cysylltiad â'r cwricwlwm

Dylai'r gêm hon ddatblygu sgiliau darllen, a thrwy ddefnyddio cwestiynau casgliadol mae'n annog plant i gysylltu geirfa o un thema â thema arall. Defnyddir y themâu canlynol yn y gêm hon:

  • Lliwiau + eitemau pob dydd
  • Tywydd + tymheredd
  • Siopa + nwyddau
  • Dathlu a gwyliau + tymhorau

Er bod y gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer plant 7-11 oed sy'n dysgu Cymraeg Ail Iaith yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r iaith a'r cysyniad o gwestiynau casgliadol yn fwy addas ar gyfer dysgwyr 9-11 oed.

Yn yr ystafell ddosbarth

Gellir defnyddio DJ Dawnus yn annibynnol neu fel gweithgaredd dosbarth. Gwnewch yn siŵr fod y myfyrwyr wedi dysgu'r eirfa berthnasol yn y gêm. Isod, ceir detholiad o'r geiriau a ddefnyddir yn y gêm.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau pellach yn seiliedig ar themâu'r gêm:

  • Lliwiau: Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu gosodiadau i'r cwestiynau yn y gêm, ee Mae'r tomato yn goch; Mae'r igwana yn wyrdd; Mae'r haul yn felyn etc.

  • Tywydd: Ymarferwch y gair achos drwy ofyn i'r myfyrwyr gysylltu'r themâu mewn brawddegau, ee Mae mam yn gwisgo sgarff achos mae hi'n oer; Roedd Anna yn gwisgo sbectol achos roedd hi'n boeth; Bydd Owain yn prynu cennin pedr achos mae hi'n ddydd Gŵyl Dewi etc.

  • Siopa: Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu paragraff byr am fynd i siopa, gan addasu'r brawddegau maent wedi eu dysgu yn y gêm.

  • Dathlu: Gofynnwch i'r myfyrwyr greu calendr ar y cyfrifiadur, gan nodi yr holl wyliau a dathliadau newydd maent wedi eu dysgu yn y gêm, yn ogystal â rhai eraill maent yn ymwybodol ohonynt eisoes.

Cymraeg Saesneg
siop esgidiau shoe shop
esgidiau shoes
siop fara bakery
rôl gaws cheese roll
siop ddillad clothes' shop
dathlu to celebrate
gwanwyn spring
Rydyn ni'n dathlu... We celebrate...
Dydd Gŵyl Dewi St David's day
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd National Urdd Eisteddfod
Dydd Mawrth Crempog Pancake day
haf summer
Dydd Mawrth Crempog Pancake day
Eisteddfod Genedlaethol National Eisteddfod
diwrnod mabolgampau sports' day
hydref autumn
diolchgarwch thanksgiving
dechrau blwyddyn ysgol start of the school year
Nos Galan Gaeaf Halloween
gaeaf winter
Nadolig Christmas
Dydd Santes Dwynwen St Dwynwen's day
Dydd Guto Ffowc Guy Fawkes' day
Cymraeg Saesneg
lliwiau colours
Beth ydy lliw...? What colour is...?
draig Cymru Welsh dragon
crys tîm rygbi Cymru Welsh rugby team shirt
trwyn clown clown's nose
tywod sand
cennin pedr daffodils
pys peas
letys lettuce
gwisgo to wear
menig gloves
cerdded to walk
eira snow
Dw i angen... I need...
sbectol haul sunglasses
torheulo to sunbathe
mwynhau to enjoy
Dw i eisiau... I want...
diod oer cold drink
gwlyb wet
cot law anorak; raincoat
sblasio to splash
cigydd butcher
cyw iâr chicken
selsig sausages
ci dog
asgwrn bone


Copyright © 2015 BBC. The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.