Tywydd sych yn datgelu olion strwythurau Ail Ryfel Byd ger plasty

Olion safle Ail Ryfel Byd yn NinefwrFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y strwythur yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty cyn cael ei droi'n wersyll carcharorion rhyfel

  • Cyhoeddwyd

Mae olion hen strwythurau o'r Ail Ryfel Byd wedi dod i'r amlwg ger plasty hanesyddol yn Sir Gaerfyrddin wedi'r cyfnod hir o dywydd sych.

O ganlyniad i'r tywydd twym a diffyg glaw, ar safle'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ninefwr mae amlinelliadau hen gytiau Nissen a oedd yno yn ystod y rhyfel wedi cael eu datgelu.

Roedd y strwythurau yn cael eu defnyddio yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, gan wasanaethu'n gyntaf fel ysbyty ac yn ddiweddarach fel gwersyll carcharorion rhyfel.

Dywedodd David Thomas, archeolegydd gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, bod "darganfyddiadau fel hyn yn ein helpu i ddeall yn well sut y bu pobl yn addasu i heriau bywyd yn ystod ac ar ôl y rhyfel yng nghefn gwlad Cymru".

Olion safle Ail Ryfel Byd yn NinefwrFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Delwedd o'r awyr o'r safle yn 1946

Daeth olion y strwythurau ger Tŷ Newton - sy'n dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif - i'r amlwg oherwydd gwahaniaethau yn nhwf y glaswellt a achoswyd gan y sychder diweddar.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod delweddau o'r awyr yn tynnu sylw at nodweddion sydd fel arfer yn anweledig ar lefel y ddaear.

Yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, cafodd y cytiau Nissen bwrpas newydd.

Ar adeg pan oedd prinder tai ledled Prydain, cafodd yr hen adeiladau milwrol eu troi'n gartrefi i deuluoedd lleol.

Daeth y safle'n adnabyddus yn lleol fel 'Tin Town', gan helpu i leddfu'r pwysau ar dai yn y cyfnod wedi'r rhyfel a chefnogi'r gymuned yn ystod cyfnod o newid sylweddol, meddai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Olion safle Ail Ryfel Byd yn NinefwrFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Paul Harris
Disgrifiad o’r llun,

Olion y strwythur ar y chwith, gyda Thŷ Newton ar y dde

Ychwanegodd David Thomas: "Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â pharcdir Dinefwr sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a'i hanes canoloesol, ond mae'r marciau hyn yn amlygu pennod lawer mwy diweddar yn hanes y safle.

"Bu'r cytiau'n gwasanaethu amrywiaeth o swyddogaethau pwysig, o ysbyty yn ystod y rhyfel a gwersyll carcharorion rhyfel i ddarparu tai yr oedd mawr eu hangen ar deuluoedd lleol yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.