Ateb y Galw: Rebecca Thomas

- Cyhoeddwyd
Wedi wythnos lwyddiannus iawn yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Rebecca Thomas sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon.
Ei nofel Ynys Gwales ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth felly dyma ddod i adnabod Rebecca ychydig yn well.
Beth ydy dy atgof cyntaf?
Mynd i'r ysbyty i gwrdd â'm brawd bach, Dafydd, am y tro cyntaf. Ro'n i tua pedair oed ac roedd eira ym mhobman.
Roedd gen i falŵns heliwm i roi i Mam – ond yn fy nghyffro rhedais i'w rhoi i fenyw arall ar y ward ar ddamwain.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llyn Syfaddan, Brycheiniog yw hoff le Rebecca
Llyn Syfaddan, Brycheiniog. Dwi wedi dringo pob mynydd o'i gwmpas ac eistedd am oriau yn gwylio adar ar ei lannau. Mae cymaint o hanes a chwedloniaeth yma.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Dwi'n poeni gormod.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Ceisio perswadio ambell unigolyn i wylio seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen ar y teledu heb ddatgelu fy mod wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Trên y nos o Baris i Fiena. Roedden ni i fod i adael Paris gyda'r hwyr ond roedd y llinell ar gau a'r trên yn ddisymud yn Gare de l'Est.
Y stiward yn dod i ymddiheuro yn rheolaidd gan ddod â mwy o win pefriog bob tro. Cysgu wedyn a dihuno ger Salzburg yng nghanol y mynyddoedd.

Y noson orau i Rebecca ei chael erioed, teithio ar y trên o Baris i Fiena
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Mae gen i gatalog cyfan ohonyn nhw i'm diddanu am dri o'r gloch y bore.
Unwaith bues i'n aros gydag academyddion mwyaf blaenllaw fy maes ym Mangor, ac ar ôl swper braf a ffarwelio, reversio'n syth i mewn i'w gât blaen.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n crio'n aml.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Yfed gormod o goffi.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Dwi'n hoffi darllen ffantasi ac yn hoff iawn o'r gyfres The Bone Season gan Samantha Shannon.
Dwi wrth fy modd â ffilmiau Nadoligaidd ac yn gwylio Let it Snow (2019) ar 1 Tachwedd bob blwyddyn.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Aethelflaed: brenhines y Mersiaid yn y 10fed ganrif ac un o fenywod mwyaf pwerus yr Oesoedd Canol.
Mae'n gymeriad canolog yn fy nofelau hanesyddol Dan Gysgod y Frenhines ac Y Castell ar y Dŵr.
Byddwn i am holi sut berthynas oedd ganddi â'i brawd ac am ei chynlluniau ar gyfer ei holyniaeth.

Nofel arall mae Rebecca wedi ei hysgrifennu yw Y Tŵr
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n hoffi codi pwysau yn y gym. Dyna lle fydda i'n mynd ar ôl cwblhau'r holiadur hwn.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Lluniau ohonof i gyda'm ffrindiau coleg.
Maen nhw wedi eu gwasgaru i bedwar ban y byd erbyn hyn – Iwerddon, Norwy, yr Eidal, Unol Daleithiau America – ac mae'n achlysur arbennig pan dwi'n llwyddo i'w gweld nhw.

Rebecca gyda'i ffrindiau, a'r llun sy'n golygu cymaint iddi.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd i'r State of Love and Trust ger llyn y Rhath i fwynhau gwin, coffi, cacennau a chwmni da; cyfnewid negeseuon gyda'm ffrindiau pellennig.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rhywun y byddai Is-Gangellorion prifysgolion Cymru yn gwrando arni – efallai wedyn byddai modd eu perswadio i arbed y Dyniaethau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2025
