10 lle yng Nghymru gyda'r nifer fwyaf o dafarndai

tafarnFfynhonnell y llun, Getty/Dafydd Elfryn
GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Ydy'r tywydd poeth diweddar wedi eich gwneud chi'n sychedig ac yn galw arnoch i fynd i dafarn neu dŷ potas?

Wel, mae'r mapiwr Dafydd Elfryn wedi bod yn gwneud ychydig o ymchwil ar eich cyfer.

Mae Dafydd wedi darganfod pa ardaloedd yng Nghymru sydd gyda'r nifer fwyaf o dafarndai drwy rannu map o Gymru yn gridiau km², marcio'r tafarndai ac yna eu cyfrif.

Ar frig ei restr o 10 o'r ardaloedd gyda'r nifer fwyaf o dafarndai yng Nghymru mae Caerdydd sydd â 41 o dafarndai o fewn milltir sgwar.

Aberdâr sy'n cyrraedd y 10fed safle gyda 15 tafarn.

mapFfynhonnell y llun, Dafydd Elfryn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dafydd wedi mapio holl dafarndai Cymru

Eglurodd Dafydd a rannodd fideo o'i fap ar ei sianel Tiktok ac YouTube yn ddiweddar: "Mae gen i ddiddordeb mewn mapiau ers pan o'n i'n fach. Mae'n ffordd effeithiol iawn o gyfleu gwybodaeth, ti'n gallu gweld patrymau'n eitha' sydyn."

Fe ddefnyddiodd Dafydd ddata'r Valuation Oggice Agency (VOA) sy'n cadw rhestr o bob cwmni yng Nghymru a Lloegr er mwyn creu rhestr o holl dafarndai Cymru cyn eu marcio ar y map yn ôl eu cod post.

Ond pa mor sicr ydy Dafydd o'r data mae wedi ei gasglu?

"Beryg y baswn i'n gorfod mynd rownd bob tafarn efo rhyw fath o GPS a chael peint i fod yn hollol siŵr.

"Mae o'n dŵad efo pinsiad o halan achos mae tafarndai'n cau mor sydyn y dyddiau yma ond mae o'n gywir i ryw lefel."

Caerdydd

The City Arms yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty

Fe gyfrodd Dafydd 41 o dafarndai o fewn milltir sgwâr yng Nghaerdydd.

Beth yw canfyddiadau Dafydd o'r hyn mae wedi ei gasglu?

"Mae'r tafarndai lle mae pobl i ddweud gwir. Fasa ti wedi gallu dyfalu bod Caerdydd ac Abertawe am gyrraedd y rhestr.

"Es i i'r coleg yn Aberystwyth, a phawb yn dweud wrtha i 'mae yna ddigon o bybs yn Aberystwyth i chdi!', felly ro'n i'n meddwl y basa Aberystwyth yn uwch. "

Wrecsam

the TurfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae digon o dafarndai'n agos at ei gilydd ar gyfer chwip o byb crôl yn Wrecsam hefyd, gyda 24 o dafarndai o fewn y filltir sgwâr.

Yn ôl yn 2023 fe yfodd ffans clwb pêl-droed Wrecsam dafarn The Turf yn sych, nes i'r perchnogion orfod cau drysau'r dafarn am y tro cyntaf ers 15 mlynedd!

Dywedodd Wayne Jones, perchennog The Turf wrth y BBC yn 2023 bod 150 o bobl yn ciwio i gael dod mewn i'r Turf naw awr cyn kick-off un o gemau'r clwb ar Y Cae Ras.

Y Rhyl

y rhylFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Rhyl, Aberystwyth ac Abertawe'n cyrraedd y rhestr yn gyfartal gyda 18 o dafarndai'n agos at ei gilydd.

Meddai Dafydd: "Wnes i ddim ystyried y byddai sunny Rhyl yn cyrraedd y rhestr 'chwaith.

"Gobeithio y bydd o'n ysbrydoli rhai i fynd ar byb crôl i ardal nad ydyn nhw'n ei 'nabod yn dda!"

Aberystwyth

Yr Hen Lew Du, AberystwythFfynhonnell y llun, Wikimedia

Yr Hen Lew Du neu ar lafar, y Llew Du neu'r Llew, yw un o dafarndai hynaf a mwyaf enwog Aberystwyth. Saif ar dop Heol y Bont yng nghanol y dref.

Roedd yn fan cyfarfod y Cambrian Society a sefydlwyd yn 1822 a hefyd yn fan cyfarfod yr Union Club Society a sefydlwyd yn 1834. Roedd gan y dafarn stablau ar Heol y Wig.

Defnyddiwyd yr enw 'Hen' o flaen 'Llew Du' i'w wahaniaethu rhag tafarn y Gogerddan Arms gerllaw a oedd hefyd yn cael ei alw'r 'Llew Du' ar adegau (llew du yw prif ddelwedd arfbais teulu Gogerddan a'r rheswm fod gymaint o dafarndai Ceredigion gyda thafarndai o'r enw 'Llew Du').

Ac am ddegawdau mae'r Llew Du wedi bod yn fan ymgynnull poblogaidd i Gymry Cymraeg a myfyrwyr y dref.

Abertawe

tafarn AbertaweFfynhonnell y llun, Wikimedia

Un o dafarndai hynaf Abertawe yw The No Sign Wine Bar ar Wind Street.

Mae selar y dafarn yn dyddio yn ôl i'r 1400au ac mae'r dafarn dan enw The Wine Vaults yn ymddangos yn un o straeon byrion Dylan Thomas a gyhoeddwyd yn 1930 sef The Followers.

Caerfyrddin

CaerfyrddinFfynhonnell y llun, Cwrw

Os am gwrw crefft yng Nghaerfyrddin, beth am bicio draw i Cwrw yng nghanol y dref ar eich crôl o amgylch y dref sydd â 17 o fewn y filltir sgwâr?

Casnewydd

casnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae trefi sydd wedi tyfu o amgylch y porthladdoedd a rhai ôl-ddiwydiannol hefyd yn amlwg ar y rhestr. Mae Casnewydd, Merthyr Tudful a Chaergybi gyda 16 o dafarndai mewn milltir sgwâr.

Merthyr Tudful

crown innFfynhonnell y llun, Getty Images

The Crown Inn yw tafarn hynaf Merthyr Tudful ac mae wedi sefyll yno, yn yr un lleoliad ar y stryd fawr ers 1785.

Bu gwrthryfelwyr Terfysg Merthyr yn cyfarfod yno yn 1831.

Caergybi

caergybiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae digonedd o Fônwyswyr a Gwyddelod yn yfed yng Nghaergybi.

Ac yn ddiweddar fe wireddodd Dan a Bethan Jones eu breuddwyd wrth agor Tafarn Cybi yn y dref.

Aberdâr

tafarnFfynhonnell y llun, Getty

Mae hanes diwydiannol yn llifo trwy strydoedd Aberdâr yng Nghwm Cynon. Rhywbeth arall sy'n llifo yw'r cwrw yn ei thafarndai.

Fe gyfrodd Dafydd 15 o dafarndai cyfagos yn Aberdâr. Iechyd da!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: