Disgwyl penderfyniad ar gynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri

Fe gafodd y cais ar gyfer Rhaeadr y Cwm ei gyflwyno i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ddod i benderfyniad ar gynllun trydan dŵr dadleuol ym Mro Ffestiniog.
Yn 2024 cafodd cais cynllunio ei gyflwyno ar gyfer datblygiad 600-cilowat a fyddai'n creu digon o drydan ar gyfer 700 o gartrefi.
Wedi dwy flynedd o drafod, mae disgwyl penderfyniad terfynol fore Mercher.
Bwriad y datblygiad yn ardal Rhaeadr y Cwm yw defnyddio grym afon Cynfal ger Llan Ffestiniog drwy godi cored – neu weir dam.
Ar adegau pan fo digon o lif byddai hyd at 70% o'r dŵr yn cael ei ddargyfeirio o'r rhaeadr mewn peipen danddaearol.
Ar ôl mynd drwy'r tyrbin byddai'r dŵr yn dychwelyd wedyn i Afon Cynfal ar waelod y rhaeadr, gyda weiren arall dan ddaear yn cario'r trydan i'r grid.
Mae'r cais wedi denu bron i 1,600 o wrthwynebiadau - yn eu plith rhai grwpiau amgylcheddol fel Cymdeithas Eryri ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.
Er bod Cyngor Tref Ffestiniog hefyd wedi cefnogi'r cais yn wreiddiol, mae'r corff bellach yn galw am wrthod y cais ar sail "bygythiad i un o'r rhaeadrau mwyaf eiconig yn Eryri a safle bywyd gwyllt sydd wedi'i warchod yn arbennig".
Modd 'goresgyn y pryderon'
Yn wreiddiol roedd disgwyl penderfyniad yn gynharach eleni, ond roedd oedi pellach wrth i Lywodraeth Cymru ystyried os oedd y cais o bwys cenedlaethol.
Ond erbyn hyn mae'r penderfyniad terfynol yn ôl yn nwylo aelodau o Bwyllgor Cynllunio'r Parc.
Yn wahanol i Gyngor Tref Ffestiniog mae Cyngor Cymuned Ysbyty Ifan - sydd ond dafliad carreg i ffwrdd - yn parhau i gefnogi'r cynllun, drwy ddadlau mai "dyma'r mathau o brosiectau sydd angen mwy ohonynt".
Ychwanegon nhw y byddai "o fantais fawr i'r targed o gyflawni Cymru sero net ac yn fantais i gael ynni rhatach yn y dyfodol trwy ddefnyddio adnoddau naturiol".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel rhan o'r broses ymgynghori, wedi datgan eu bod yn "parhau i fod â pryderon ynghylch y cais fel y'i cyflwynwyd," ond ychwanegon nhw eu bod "yn fodlon y gellir goresgyn y pryderon hyn" drwy osod amodau ar unrhyw ganiatâd.
Yn ôl awdurdod y parc mae 1,590 o wrthwynebiadau wedi eu derbyn, gyda 1,140 o'r rheiny yn rhai "union yr un fath yn dilyn ymgyrch ar-lein".

Dŵr yn syrthio lawr y rhaeadr
Mae Cymdeithas Eryri, sydd wedi gwrthwynebu'r cynllun, yn poeni am yr effaith bosib ar fyd natur.
Maen nhw o'r farn byddai dargyfeirio peth o'r dŵr yn cael effaith andwyol ar edrychiad a sain y rhaeadr.
Gyda'r safle hefyd yn un o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) mewn parc cenedlaethol, ychwanegon nhw bod mwsoglau a llysiau'r afu prin yno, yn benodol oherwydd y lleithder.
Eryri: Cyflwyno cynllun ynni hydro yng Nghwm Cynfal
- Cyhoeddwyd22 Medi 2024
Oedi penderfyniad ar gynllun ynni hydro dadleuol yn Eryri
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
Dywedodd Graeme Cotterill, Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri: "Ni ddylai unrhyw raeadr fod yn nodwedd rhan-amser o dirwedd Eryri - heb sôn am un mor eiconig a gwerthfawr â hon.
"Er gwaethaf y difrod posibl i fywyd gwyllt a gwerth tirwedd y safle, ni fyddai'r cynllun yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddadgarboneiddio economi Eryri – heb sôn am un 'eithriadol'."
Ond mae'r rheiny sydd y tu ôl i'r fenter - tri brawd sy'n ffermio yn ardal Y Bala - yn dadlau mai "effaith fach iawn" y byddai'r cynllun yn ei gael ar y tirwedd, ac y bydd yr elfen hydro ond yn weithredol pan fydd digon o ddŵr yn yr afon.
Fel rhan o'r cais, sydd wedi ei gyflwyno gan Dafydd Elis, Moi Dafydd ac Elis Dafydd, dywedon nhw: "Bydd y cynllun arfaethedig hwn yn rhoi sicrwydd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â chaniatáu i ni fel teulu chwarae rhan wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol drwy gynhyrchu trydan o ffynhonnell adnewyddadwy i'r gymuned leol ei ddefnyddio."
Casgliad swyddogion y parc yw, "ar y cyfan, ystyrir bod y cais yn dderbyniol ac felly argymhellir ei gymeradwyo".
Mae disgwyl penderfyniad pan fydd Pwyllgor Cynllunio'r parc yn cyfarfod fore Mercher.