Eden yn paratoi ar gyfer noson gofiadwy arall yn yr Eisteddfod

- Cyhoeddwyd
Mae'n argoeli i fod yn noson i'w chofio ym Maes B heno wrth i Eden ddod â wythnos wych Eisteddfod y Garreg Las i ben.
Yn 2027, fe fydd y grŵp yn dathlu 30 mlynedd ers ffurfio a pherfformio'n fyw am y tro cyntaf – a hynny ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Bala, 1997.
Yn gynharach yr wythnos hon, cafodd Cymru Fyw glustfeinio wrth i Emma, Non a Rachael hel atgofion am eu gyrfa a'u profiadau ar lwyfannau'r Eisteddfod...
Emma:
Yn Eisteddfod Bala roedden ni'n lansio'r CD. Doedde ti ddim wir yn rhyddhau sengl fel wyt ti'n ei wneud rwan. Roedd pobl wedi clywed Paid â Bod Ofn, oedd wedi'i rhyddhau ar gyfer rhaglen deledu yr oedden ni'n ei gwneud. Roedd yn broses mor wahanol i beth sy'n digwydd rwan.
Rachael:
Beth oedd yn grêt yr adeg yna; roedd gen ti lot o sioeau lleol hefyd a fe wnaethon ni lot o'r rheiny.
Emma:
Ond yr Eisteddfod oedd y pinacl ynde? Roedd yn beth enfawr i ni.

Eden gyda un o'u cefnogwyr, Hawys Roberts. Cafodd y llun ar y chwith ei dynnu yn Eisteddfod y Bala yn 1997, a'r llun ar y dde ei dynnu yn Eisteddfod Ynys Môn, 2017
Non:
Doedden ni heb fod allan yn y wild llawer cyn hynny. Dyna'r tro cyntaf i ni weld fod pobl wedi bod yn gwrando arnom ni... roedd hynny yn mindblowing!
Emma:
Doedd dim llawer i blant yn y cyfnod, doedd yna'n sicr dim llawer o pop.
Non:
Roedd y Gwefrau wedi bod, ond yn y 90au roedd popeth yn eithaf indi a grungy. Roedden ni'n unapologetically pop.
Roedd gweddill y byd yn gweld artistiaid fel Steps a Take That yn canu gyda backing track.
Ond fan hyn, dwi'n meddwl mai ni oedd y band cyntaf i berfformio jesd ni a backing tracks.
Wrth edrych yn ôl, dwi ddim yn meddwl ei fod yn broblem i bobl eraill ond roedden ni'n teimlo'n wahanol – ac efallai yn teimlo fel bo ni ddim yn gerddorion go iawn am fod dim band ganddom ni. Dwi'n meddwl fod hynny wedi effeithio ar ein hyder tipyn bach.
Emma:
Roedd mor wahanol i bopeth arall. Ond os wyt ti'n edrych ar Eisteddfod Pontypridd, galle ti ddim fod wedi cael sioe mwy pop! Tasa ti wedi dweud wrtha ni yn 1997 y bydden ni wedi cyflawni y math yna o sioe ac y byddai pobl wedi'i derbyn fel y gwnaethon nhw, dwi ddim yn meddwl y bydden ni wedi dy gredu.
Mae'n dangos sut mae'r sîn wedi newid cymaint.
Ti'n cerdded o gwmpas yr Eisteddfod rwan a mae cymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth, ac mae pobl yn mynd i wrando arnyn nhw i gyd.
Bydde ti ddim wedi cael hynny 30 mlynedd yn ôl. Mae'n deimlad grêt. Dwi'n falch ein bod wedi sticio ati!
Fideo torfol: Eden - Paid â Bod Ofn. Fideo, 00:01:29
- Cyhoeddwyd22 Awst 2017
Non:
Yn y 90au y bandiau o'n hamgylch ni oedd bandiau fel Big Leaves a Topper. Ar y pryd roedden ni'n eithaf intimidated gan y bandiau yna, ond rwan da ni'n ffrindiau gyda nhw.
Dwi'n meddwl ein bod yn falch mai cryfder Eden ydi creu sioe. Ar y pryd yn y 90au roedden ni'n meddwl 'dyw hynny ddim digon da'. Da ni'n falch o hynny erbyn rwan.
Rachael:
Mae pop yn gallu bod yn eithaf Saesnig. Dwi'n meddwl ei bod yn neis bod pobl oedd yn licio Spice Girls neu Steps gyda hynny yn eu hiaith ei hunain.
Non:
Dyna oedden ni eisiau ei wneud... doedd dim pwynt i ni drio bod fel bandiau eraill.
Sut mae Eden yn paratoi ar gyfer Maes B eleni?
Emma:
Wrth gymharu ein profiad cyntaf o'r Eisteddfod a rwan, dwi'n falch ein bod wedi sticio i bwy yda ni.
Mae gweld sut mae'r Eisteddfod a'r gynulleidfa jysd yn derbyn hynny a mwynhau, mae'n wir i unrhyw fand ar y maes – maen nhw'n gallu perfformio eu cerddoriaeth a bod yn pwy ydyn nhw.
Chei di ddim cynulleidfa well na'r Eisteddfod... maen nhw mor gefnogol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
