Criw o Ben Llŷn am wneud her y tri chopa er cof am 'un o'n ffrindiau gorau'

Bu farw Mathew Hardy, 34, o Bwllheli wedi gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog fis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae criw o ffrindiau o Ben Llŷn yn ceisio cwblhau her y tri chopa yr wythnos hon er mwyn codi arian er cof am ffrind fu farw rai dyddiau cyn y Nadolig y llynedd.
Bu farw Mathew Hardy, 34 oed o Bwllheli, mewn gwrthdrawiad ger Porthmadog ar nos Sadwrn 20 Rhagfyr.
Bwriad y criw o chwe ffrind yw dringo Ben Nevis, Scafell Pike a'r Wyddfa - gan feicio dros 500 milltir rhwng y tri mynydd.
Dywedodd Deio Brunelli fod y gefnogaeth y mae'r criw wedi ei derbyn yn "anhygoel" a'i fod yn dangos "faint o'dd o (Matthew) yn ei olygu i bobl y gymuned".
Teyrnged teulu i 'fab, cariad a brawd poblogaidd'
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2025
Dau ddyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi Porthmadog
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025
Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast, dywedodd Deio mai'r bwriad ddydd Mercher oedd cerdded i gopa Skafell Pike.
Aeth yn ei flaen i esbonio pam fod y criw wedi dewis y fath her.
"Gollon ni un o'n ffrindiau gorau adeg y Nadolig, a 'nathon ni ddod at ein gilydd fel criw o ffrindiau achos bo' ni'n teimlo fel bo' ni isio 'neud 'wbath.
"Dyma ni'n creu cronfa er cof amdano fo a phenderfynu neud 'wbath arbennig i gael ni at ein gilydd ac i godi arian.
"Dyma wnaethon ni benderfynu ei wneud yn ein gwallgofrwydd!"
Criw o ffrindiau'n sefydlu cronfa er cof am eu ffrind
Gwrandewch ar Aled Hughes yn trafod yr her gyda'r criw ar BBC Radio Cymru
Ychwanegodd Deio fod y gefnogaeth gan y gymuned leol wedi bod yn "anhygoel".
"'Dan ni'n codi arian ar gyfer elusennau - ma' elusen Break yn cefnogi teuluoedd sydd wedi profi colled mewn damweiniau a ma' elusen 'Strong Men' sy'n cefnogi dynion sy'n mynd trwy galar.
"Benderfynon ni hefyd gynnig rhoddion i deuluoedd sy'n cael colled annisgwyl.
"O'dda ni'n gweld bod dipyn o bethau wedi digwydd yn y gymuned leol yn ddiweddar, ag o'dda ni'n meddwl 'sa ni'n gallu rhoi 'wbath bach i leddfu straen ychwanegol pan ma' rhywun yn mynd trwy galar."
Negeseuon o gefnogaeth o'r Rhyl a Preston
Dywedodd John Pugh, un arall sy'n ceisio cyflawni'r her, fod y criw cefnogi wedi bod yn help mawr.
"Mae teulu Matthew a theulu Mari, partner Matthew, wedi bod yma efo ni, ac ma'n neis cael nhw yma yn cheerio ni on.
"Ma' Ed a Si ar y support vehicles wedi bod yn rhoi dŵr a fflapjacs a chacennau i ni, ma' nhw'n dda ofnadwy efo ni chwarae teg."
Esboniodd Arwel Thomas fod yr her yn un yr oedd Matthew eisiau ei gyflawni ei hun, ac felly eu gobaith nhw oedd gwneud hynny ond gyda'r her ychwanegol o feicio rhwng y mynyddoedd.
"Pam ddim 'neud hi'n sialens go iawn... Ma' 'na dipyn o pot holes, ond so far so good!"
Yn ôl Steve Jones, mae'r coesau ychydig yn "stiff a sore" ond ei fod yn gobeithio y bydd cerdded y mynyddoedd yn cynnig "break bach i'r pen ôl!".
Ychwanegodd Deio fod nifer o bobl wedi bod yn cysylltu â'r criw eisiau dod allan i gefnogi.
"Bydd dod am adra yn neis - 'dan ni'n cael negeseuon gan bobl o lefydd fatha'r Rhyl isio dod allan i gefnogi, o'dd gen Matthew ffrindiau yn ardal Preston hefyd a ma' nhw am ddod allan i gefnogi ni.
"Mwy a mwy o gefnogaeth ddaw yn agosach at adra, ma' sawl un wedi sôn am ymuno efo ni ar yr wyddfa ac wedyn fyddwn ni'n gorffen yng Nghlwb Rygbi Pwllheli.
"Ma' bach yn overwhelming faint o gefnogaeth 'dan ni di gael. Ma'n dangos faint o'dd o'n ei olygu i bobl y gymuned."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.