Robot newydd sy'n helpu plant i gerdded yn 'rhoi gobaith' i deuluoedd

 Mabli Hedd, sydd â chyflwr geneteg prin, yn defnyddio’r ‘exoskeleton’.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mabli Hedd ymhlith y plant cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio'r 'exoskeleton'

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Sir Gâr wedi dweud bod y profiad o weld ei merch ddwy oed yn cerdded am y tro cyntaf gyda chymorth robot paediatrig newydd yn un "bythgofiadwy".

Roedd Mabli Hedd, sydd â chyflwr geneteg prin, ymhlith y plant cyntaf ym Mhrydain i gael defnyddio'r 'exoskeleton' mewn clinig preifat yn Sir Gâr wythnos yma.

Yn ôl ei mam, Gwenno Lisa Davies, mae'r robot yn gallu "newid bywyd". Mae'n dweud iddi weld gwahaniaeth "enfawr" yn natblygiad ei merch ar ôl dau dro yn unig.

Wedi ei sefydlu yng Nghanada mae Trexo Robotics yn un enghraifft o gwmni sy'n rhoi cipolwg ar sut gall technoleg helpu i ddatblygu'r byd meddygol.

Ddwy flynedd a hanner yn ôl, cafodd Mabli Hedd ei geni gyda chyflwr o'r enw Gand Syndrome.

"Mae'r cyflwr geneteg sydd gyda Mabli yn brin iawn," meddai ei mam, Gwenno.

"Dim ond 500 o bobl yn y byd sydd gyda'r cyflwr hyn. Pan adawon ni yr ysbyty pan oedd Mabli yn flwydd, fe ddywedon nhw nad oeddwn nhw'n gwybod os fydde hi'n cerdded, siarad, doedden nhw ddim gwybod beth fydde hi'n gallu gwneud," meddai.

Gwenno Lisa Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gwenno fod cael gweld Mabli "mor hapus, yn cerdded, yn joio, yn dawnsio" yn brofiad "anhygoel"

Fe gafodd Mabli fod yn rhan o sesiwn brofi arbennig yng nghlinig ffisiotherapi Equinox yn Cross Hands, Sir Gaerfyrddin.

Mae wedi bod yn mynd i'r clinig preifat bob wythnos ers mis Mawrth 2025, a'i mam yn talu amdano gydag arian gafodd ei godi ar gyfer ei merch.

Roedd y sesiwn brofi'n cynnwys rhaglen ddwys o ffisiotherapi, gyda'r robot yn rhoi cyfle i blant sy'n methu â cherdded cael y profiad o gymryd camau.

Yn ôl Gwenno, roedd gweld ei merch yn cerdded am y tro cyntaf yr wythnos hon yn brofiad "really emosiynol".

"Mae e wedi bod yn fythgofiadwy. Mae jyst gweld Mabli mor hapus, yn cerdded, yn joio, yn dawnsio, mae e'n anhygoel i fod yn onest," meddai.

Dydy'r driniaeth yma ddim ar gael fel arfer ar y GIG, ond mae technoleg robotig yn cael ei defnyddio mewn clinigau preifat ar draws y DU, a Chanolfan Adfer genedlaethol y GIG yn Lloegr.

Blas yn unig yw'r sesiynau yn Cross Hands o ran dyfodol posibl datblygiadau technolegol ym maes iechyd.

"Ar hyn o bryd, wythnos o drial e mas [yw e]," meddai Gwenno, "ond na'i trial neud unrhyw beth i gael Mabli 'nôl mewn Trexo achos mae e just yn completely life changing."

Callum Wilson
Disgrifiad o’r llun,

Yr elfen o ail-adrodd gan y robot sy'n help mawr yn ôl y ffisiotherapydd, Callum Wilson

Yn ôl Callum Wilson, ffisiotherapydd yn Equinox, mantais technoleg sgerbwd yw ei bod yn eu galluogi i ailadrodd yr un broses gyda'r cleientiaid.

"Pan ry'n ni'n dysgu o safbwynt niwrolegol, felly plant a phobl ifanc, mae'r repetition yna yn bwysig iawn i gallu gwneud yn siŵr bod nhw'n dysgu symudiad neu dysgu'r cyhyrau shwt i symud…

"Ni'n gobeithio wrth fod y technoleg yn dod ymlaen, bod pethau yn dod yn fwy rhad a bod ni'n gallu dod â hwn i fwy o bobl a gobeithio bod ni'n gallu dod â phethau fel y Trexo fan hyn yn y clinig gyda ni, fel bod pobl ddim yn gorfod talu miloedd o bunnoedd i brynu un o rhein, ond yn gallu dod aton ni yn wythnosol i'w defnyddio nhw a chael y benefits o ddefnyddio nhw yn aml."

Manmeet Maggu
Disgrifiad o’r llun,

Manmeet Maggu yw un o gyd-sylfaenwyr y dechnoleg newydd

Beth yw'r dechnoleg?

Cafodd yr 'exoskeleton' ei greu yn 2011 ar ôl i'r cyd-sylfaenydd, Manmeet Maggu, gael gwybod na fyddai ei nai, oedd â pharlys yr ymennydd, byth yn gallu cerdded.

Mae'r robot, sy'n cysylltu â ffrâm gerdded gynorthwyol gydag olwynion, yn cynnwys modur yn y cluniau a'r pengliniau. Ei fwriad yw cefnogi plant gyda nam symudedd i gymryd eu camau cyntaf.

Yn ôl y cwmni, drwy alluogi cannoedd neu hyd yn oed filoedd o gamau ailadroddus a chynorthwyol mewn un sesiwn, nod y robot yw helpu plant i ymarfer patrymau cerdded a allai fod yn anodd neu'n amhosib fel arall.

Yn ôl Cyd-sylfaenydd Trexo Robotics, Manmeet Maggu, y bwriad yw gweld y robot yn cael ei ddefnyddio yn y GIG yn y dyfodol.

"Dydyn ni ddim yn gwybod faint o amser fydd hynny'n ei gymryd, ond yr hyn rwy'n ei wybod yw na fyddwn ni'n stopio nac yn rhoi'r gorau iddi; dylai unrhyw blentyn sy'n dymuno cerdded allu gwneud hynny."

Ychwanegodd "nad dyfais rhad ydyw", gan gostio rhwng £40,000 a £50,000.

"Y nod yn gyntaf oll yw rhoi cyfle i deuluoedd a phlant brofi'r dechnoleg, ac yna, os ydyn nhw am ei chaffael, gallwn ni eu cefnogi."

Gall y dechnoleg roi rhyddid symudedd i bobl sydd erioed wedi profi hynny o'r blaen, yn ôl y cwmni, yn enwedig plant â chyflyrau fel parlys yr ymennydd, anaf i'r ymennydd, strôc, a chyflyrau eraill.

Yn yr un modd mae NICE yn dweud eu bod yn cynnwys y defnydd o robotiaid ac exoskeletons mewn canllawiau adsefydlu eang ar gyfer plant ac oedolion.

Hopcyn a'i rieni
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys a Marc Bowen yn dweud bod y profiad wedi bod yn un "amhrisiadwy"

Yn ôl Carys a Marc Bowen o Fro Morgannwg, roedd gweld eu mab tair oed, Hopcyn, sydd â pharlys yr ymennydd yn cael profiad o ddefnyddio'r exoskeleton a cherdded yr wythnos hon hefyd yn "amhrisiadwy".

Cafodd y rhieni wybod na fyddai Hopcyn fwy na thebyg "byth yn gallu cerdded yn annibynnol".

Maen nhw wedi bod yn talu i'w mab gael sesiynau ffisiotherapi preifat yn Equinox ers mis Chwefror eleni.

"Mae'r cyfle i weld Hopcyn yn sefyll yn dal, yn cerdded yn annibynnol…mae e newydd gerdded am yn ôl a dy'n ni erioed wedi gweld e'n gwneud hynna o'r blaen, mae e'n rywbeth so ni erioed wedi ystyried iddo fe allu gwneud, pethau mae pobl yn dueddol o gymryd yn ganiataol o ddydd i ddydd, ond mae gallu gweld hwn yn amhrisiadwy," meddai ei fam, Carys.

Er bod presenoldeb y robot eisoes yn bodoli mewn gwledydd eraill fel America, Canada, Yr Undeb Ewropeaidd, Awstralia, Seland Newydd a Singapore, y sesiynau yn Sir Gâr yw'r tro cyntaf i'r cwmni fentro i farchnad y DU.

"O'n i wastad yn meddwl bydde'n rhaid i ni fynd i America neu Lanzarote neu rywle arall i brofi fe ond mae cael e ar stepen drws fel hyn…wel o'n i byth yn meddwl bydde fe'n dod i Gymru," meddai Marc.

Wrth weld gwerth i dechnoleg fodern fel yr exoskeleton, dywedodd Carys bod "gwybod bod e ddim yn mynd i fod 'ma yn wythnosol pan ni'n dod am ffisio yn really anodd.

"Mae e fel danglo'r carrot math o beth - ni'n gweld e, ond wedyn mae e'n cael ei gymryd i ffwrdd.

"Mae e'n drueni ond eto mae cael y cyfle yma yn y lle cyntaf, ni'n ddiolchgar iawn am y cyfle."

Ychwanegodd Marc: "Mae e fel y ffrwyth wenwynig ondyw e? Ni'n rhoi'r cyfle yma iddo fe ond hefyd yn gwybod falle bod e ddim yn mynd i gael e 'to am sbel fach o leiaf. Ond fi'n credu bod e 'di rhoi mwy o gymhelliant i ni fel rhieni falle i 'neud yn siŵr bod ni'n rhoi'r cyfleoedd yna iddo fe adref.

"Mae meddwl 'nôl i flwyddyn a hanner yn ôl lle o nhw'n dweud fydde fe ddim yn gallu cerdded i heddiw, a chi'n gweld e gyda'r annibynniaeth 'na, ydi, mae e'n rhoi gobaith i chi bod yna dechnoleg yn mynd i fod sy'n mynd i'w helpu fe, dim just nawr ond yn hŷn hefyd, gobeithio wrth i amser fynd ymlaen."

'Technoleg newydd yn cynnig cyfleoedd'

GanDadansoddiad Owain Clarke
Gohebydd iechyd BBC Cymru

O roboteg i ddeallusrwydd artiffisial, o feddyginiaethau newydd i ddadansoddi DNA - mae technoleg newydd yn cynnig cyfleoedd i drawsnewid bywydau cleifion.

Ond gall yr offer a'r cyffuriau diweddaraf fod yn ddrud, ac oherwydd nad oes gan y gwasanaeth iechyd gyllideb ddi-waelod, fydd dim modd talu am bopeth.

Mae arbenigwyr annibynnol, fel y rheini sy'n aelodau o NICE - y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol - yn asesu technolegau newydd ac yn dod i gasgliad ynglŷn ag a ddylai unrhyw driniaeth newydd gael ei chynnig ar y gwasanaeth iechyd - ar ôl ystyried budd i'r claf, pris a gwerth am arian.

Felly, fe fyddai gan y sefydliad rôl wrth benderfynu i ba raddau y dylai technoleg o'r math yma gael ei mabwysiadu.

Ond beth bynnag fo'r canlyniad yn y pendraw - bydd y ffaith fod ymchwil ac arloesedd yn datblygu mor gyflym yn rhoi gobaith i lawer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig