Ymgyrch i achub clwb gweithwyr hanesyddol a chadw cymuned 'gyda'i gilydd'

Clwb Gweithwyr Y Tymbl
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Clwb Gweithwyr Y Tymbl gau ei ddrysau am y tro olaf ym mis Gorffennaf

GanHarri Evans
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cymuned yn Sir Gâr wedi sefydlu ymgyrch i achub clwb gweithwyr hanesyddol ar ôl iddo gau fis diwethaf.

Fe wnaeth Clwb Gweithwyr Y Tymbl, sy'n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif, gau ei ddrysau am y tro olaf ar 19 Gorffennaf wedi brwydr hir i aros ar agor wrth i gostau gynyddu.

Mae'r gymuned nawr yn ceisio achub y clwb gweithwyr, sydd wedi bod yn cael ei redeg gan ei aelodau, cyn iddo fynd ar werth mewn ocsiwn ym mis Medi.

Dywedodd Scott Flear, sydd o'r Tymbl a'n rhan o'r ymgyrch, eu bod yn "agos iawn" o gyrraedd eu targed o godi £2,500 y mis - yr hyn sydd ei angen i sicrhau cymorth ariannol er mwyn cadw'r clwb yn nwylo'r gymuned.

Scott FlearFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Heb y clwb does dim byd i gadw'r Tymbl gyda'i gilydd," meddai Scott Flear

Mae'r ymgyrch bellach wedi codi gwerth dros £2,000 y mis mewn rhoddion gan aelodau'r gymuned.

Dywedodd Scott eu bod angen dangos i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, eu bod yn gallu codi £2,500 y mis i allu sicrhau benthyciad ganddynt a hefyd grant yn y pen draw.

Y bwriad wedi hynny yw agor cynllun cyfranddaliadau i'r gymuned trwy gydweithio â'r sefydliad Cwmpas i ddefnyddio model cymdeithas budd cymunedol.

"Ni'n credu allwn ni wneud hyn yn gloi iawn cyn i'r adeilad fynd i ocsiwn ar 10 Medi," meddai.

"Y gobaith wedyn fysa i ailagor ar ddiwedd mis Medi a gawn ni ddigwyddiad o ryw fath i ddathlu ac i godi rhagor o arian adeg hynny."

Clwb Gweithwyr Y Tymbl

Bydd gwaith adnewyddu ar y clwb yn dechrau yn y flwyddyn newydd, meddai Scott, gyda'r clwb yn ailagor yn llawn o gwmpas mis Ebrill o dan gynlluniau'r fenter.

"Mae mentrau eraill fel Menter Tŷ'n Llan wedi dangos bod hyn yn gallu gweithio a ni'n gobeithio gwneud rhywbeth tebyg gyda'r Workies," meddai.

"Mae'r clwb yn rhan allweddol o hanes y gymuned. Fi'n credu byse'r gymuned ddim yna os bydd y clwb ddim yna.

"Mae popeth yn y gymuned wedi mynd trwy'r Workies ac mae wedi bod yn hwb dros sawl cenhedlaeth yma. Heb y clwb does dim byd i gadw'r Tymbl gyda'i gilydd."

Sophie FlearFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sophie Flear wedi bod yn mynd i'r clwb ers yn blentyn

Un arall sy'n rhan o'r ymgyrch ydi chwaer Scott, Sophie Flear.

Er ei fod yn ddyddiau cynnar ar eu cynlluniau, y bwriad yw i'r clwb fod yn hwb cymunedol yn ogystal â rhywle all bobl fynd am ddiod a chynnal digwyddiadau.

"Mae amserau wedi newid ac mae angen i ni adlewyrchu hynny os mae'r ymgyrch yn llwyddiannus," meddai.

"Felly fydden ni eisiau i'r clwb fod yn rywle all bobl ymgynnull yn y dydd fel caffi a chynnal dosbarthiadau i famau a'u babanod a sesiynau ffitrwydd hefyd, pethau fel 'na.

"Bydd y weledigaeth yn cael ei siapio gan y gymuned felly fydd y clwb yn beth bynnag fydd y gymuned isie fe fod.

"Mae gweld y clwb yn cau wedi bod yn beth trist i bawb ond mae lot o syniadau yn dod i mewn ac mae'r ymgyrch wedi bod yn bositif iawn hyd yn hyn gyda llawer o bobl yn awyddus i'w gadw yn y gymuned yn hytrach na gweld e'n cael ei brynu gan rywun arall a'i ddymchwel i wneud lle am dai neu rywbeth fel 'na."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig