Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir - Uchel Lys

Bwriad cwmni Green GEN yw adeiladu tri phrif lwybr peilonau newydd ar draws pedair sir
- Cyhoeddwyd
Rhaid i gwmni sy'n cynllunio cyfres o linellau peilon newydd drwy Gymru wneud mwy i roi gwybod i drigolion lleol cyn dod ar eu tir i gynnal arolygon, yn ôl barnwr yn yr Uchel Lys.
Fe wnaeth grwpiau yn cynrychioli mwy na 500 o dirfeddianwyr ddwyn achos yn erbyn Green GEN Cymru, gan eu cyhuddo o "godi ofn" drwy ymddangos ar ffermydd yn ddirybudd.
Tra'n gwrthod diddymu hysbysiadau cyfreithiol am fynediad i dir, fe ddywedodd y barnwr y dylai'r cwmni fod wedi gwneud mwy i roi digon o rybudd, gan feirniadu "methiant i fynd i'r afael" â'r risg o drosglwyddo afiechydon da byw o fferm i fferm.
Dweud i'r barnwr gyfiawnhau eu pryderon mae cyfreithwyr ar ran y tirfeddianwyr.
Mae Green GEN Cymru'n dweud eu bod eisoes wedi cyflwyno newidiadau i'w ffordd o weithio, a'u bod am "flaenoriaethu deialog, cydweithredu a chytundebau gwirfoddol lle bynnag y bo modd."

Graffeg Green GEN Cymru sy'n dangos llwybrau'r peilonau arfaethedig
Mae Green GEN Cymru, sy'n cael ei reoli gan Bute Energy, yn gobeithio adeiladu tri llwybr newydd o beilonau drwy ganolbarth Cymru, fydd yn cysylltu ffermydd gwynt arfaethedig gyda'r grid ehangach.
Mae'r cynlluniau'n effeithio ar rannau o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys - gydag un o'r llwybrau yn ymestyn dros y ffin i Sir Amwythig.
Yn ôl cefnogwyr dyw grid trydan Cymru ddim yn addas i bwrpas, ac mae'n rhaid ei uwchraddio er mwyn hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy a chyflwyno technolegau carbon isel fel ceir trydan a phympiau gwres.
Mae gan y cwmni bwerau statudol i gael mynediad i dir o ganlyniad i'w waith ar yr hyn allai fod yn isadeiledd ynni o bwysigrwydd cenedlaethol.
Ond mae wedi arwain at ffrae a channoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr, sydd wedi cyhuddo swyddogion y cwmni o weithredu mewn ffordd oedd yn rhy lawdrwm â chymunedau lleol.

Mae cryn wrthwynebiad wedi bod i'r posibilrwydd o godi'r peilonau
Mewn dyfarniad a gafodd ei gyhoeddi fore Llun, fe wnaeth y barnwr Mr Ustus Kimblin ddod i'r casgliad bod gan y cwmni dystiolaeth "mewn rhai achosion" o gyflwyno hysbysiadau i gael mynediad i dir "gan roi sylw yn bennaf i'w anghenion ei hun a heb roi digon o sylw i'r gofyniad i roi hysbysiad priodol ac i fynd ar dir ar amseroedd rhesymol".
Roedd hysbysiad a gafodd ei gyflwyno i'r prif hawlydd yn yr achos, Natalie Barstow yn "rhy eang ac yn brin o fanylion".
Ond fe ddaeth i'r casgliad hefyd na fuodd yna unrhyw weithredu gan y cwmni o ganlyniad i'r hysbysiad, oni bai am un "fynediad bach ac anfwriadol" i'w thir ym mis Gorffennaf 2025.
Mae'r dyfarniad yn rhoi mwy o eglurder i'r gyfraith o ran defnydd datblygwyr fel cwmnïau ynni o'r hyn a elwir yn hysbysiadau adran 174, er mwyn cael mynediad a chynnal arolygon ar dir preifat.
'Diffyg dealltwriaeth'
Dywedodd Mr Ustus Kimblin bod rhaid i ddatblygwyr roi blaen rybudd digonol, gan alluogi tirfeddiannwr i baratoi, ac na allen nhw ddibynnu ar hysbysiadau fisoedd neu flynyddoedd ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno.
Roedd hyn yn "cymryd holl fudd y mynediad heb ysgwyddo'r baich o roi ystyriaeth briodol i'r hyn sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau", meddai.
Fe ddisgrifiodd fethiant Green GEN Cymru "i fynd i'r afael â'r risg o drosglwyddo bTB (TB mewn gwartheg)" fel yr "enghraifft gliriaf o ddiffyg yn nealltwriaeth" y cwmni o "anghenion a phryderon cyfiawnadwy'r rhai y byddai'n mynd ar eu tir".
Serch hynny doedd y cwmni heb dorri cyfreithiau amgylcheddol, meddai.
Nododd hefyd bod y cwmni wedi cyflwyno gwelliannau yn dilyn pryderon y tirfeddianwyr - gyda pholisïau newydd ar fynediad tir, rhywogaethau a chynefinoedd prin, a phobl fregus.
Roedd hefyd wedi cyflwyno hyfforddiant i staff ac roedd y gwaith o gyflwyno hysbysiadau cyfreithiol wedi gwella "er mwyn darparu hysbysiad ymlaen llaw cliriach, gwahodd tirfeddianwyr i rannu materion sy'n benodol i'r safle, nodi'r contractwyr awdurdodedig, a chyfeirio'r derbynwyr at ganllawiau bioddiogel".

Roedd y ffaith bod y ffermwyr a'r tirfeddianwyr wedi gorfodi newid i weithdrefnau Green GEN Cymru o ganlyniad i'r her yn golygu bod ganddyn nhw fwy o hawl i honni llwyddiant, awgrymodd.
Bydd y cwmni yn gorfod talu 60% o gostau'r hawlyddion, sef £21,000 yn ogystal â'u costau cyfreithiol eu hunain.
'Eich cartref yw eich noddfa'
Dywedodd Mary Smith, o New South Law – fu'n gweithredu ar ran y tirfeddianwyr – fod ei chleientiaid wedi cael eu "cyfiawnhau", a bod gan yr achos oblygiadau i gymunedau eraill a effeithir gan brosiectau seilwaith yn y dyfodol, boed yn gynlluniau ynni neu'n adeiladu ffyrdd.
"Eich cartref yw eich noddfa. Mae'r noddfa honno wedi cael ei haflonyddu dro ar ôl tro gan gwmni ynni sydd wedi dangos ychydig iawn o ystyriaeth i les ein cleientiaid, yr effaith ar eu busnesau a'u bywydau teuluol, a diogelwch eu da," meddai.
"Ni ddylai fod wedi cymryd achos yn yr Uchel Lys, a ddygwyd gan grŵp cymunedol ac elusen ar ran cannoedd o dirfeddianwyr a deiliaid tir, i sicrhau bod datblygwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith. Dylai rheoleiddio digonol fod ar waith i reoli ymddygiad cwmnïau ynni ac i ddiogelu'r cyhoedd."
500 o ffermwyr yn mynd â chwmni peilonau trydan i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Ffermwyr yn sicrhau hawl i geisio adolygiad barnwrol dros beilonau
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad "yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio pwerau arolygu statudol o dan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016."
"Cydnabu'r Llys fod newidiadau eisoes wedi'u gwneud i'n gweithdrefnau, ein harferion a'n dull gweithredu, a byddwn yn sicrhau bod unrhyw ddefnydd pellach o'r pwerau hyn yn adlewyrchu'r dyfarniad," meddai.
"Mae arolygon amgylcheddol a thechnegol yn hanfodol ar gyfer datblygu seilwaith mawr yn gyfrifol. Mae'r defnydd o'r pwerau statudol hyn bellach wedi'i ystyried gan y llysoedd, ac mae'r dyfarniad yn darparu sail glir ar gyfer ymddygiad ac ymgysylltu yn y dyfodol."
"Fel yr ydym wedi'i ddweud yn gyson, ein dewis o hyd yw gweithio ar y cyd â pherchnogion tir a rhanddeiliaid, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu deialog, cydweithredu a chytundebau gwirfoddol lle bynnag y bo modd."
"Rydym wedi ymrwymo i gyflawni ein gwaith yn gyfrifol, gan gynnal safonau uchel o ymgysylltu, bioddiogelwch a gofal amgylcheddol wrth i ni gefnogi datblygu'r seilwaith sydd ei angen i ddarparu rhwydwaith ynni diogel a gwydn i Gymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.