Network Rail yn erlyn dau gwmni am £5m wedi damwain trên Llangennech

Daeth 10 o danciau tanwydd oddi ar y cledrau yn dilyn y digwyddiad yn 2020
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail yn erlyn dau gwmni rheilffordd am fwy na £5 miliwn ar ôl i drên nwyddau ddod oddi ar y cledrau yn Llangennech ger Llanelli ym mis Awst 2020.
Mae'r corff yn erlyn DB Cargo UK a Touax Rail wedi i 10 o wagenni tanwydd ddod oddi ar y cledrau gan ollwng 446,000 o litrau o ddisel.
Aeth 116,000 litr o'r tanwydd ar dân ac fe lifodd 330,000 o litrau i'r gwlypdiroedd cyfagos - maen nhw'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig.
Bu'r wagenni'n llosgi am dros 30 awr, a bu llinell reilffordd Calon Cymru ar gau am saith mis.

Roedd y 10 o wagenni yn cludo hyd at 75.5 tunnell o danwydd yr un
Roedd y trên yn teithio o burfa Robeston yn Aberdaugleddau i ganolfan dosbarthu tanwydd yn Theale, Berkshire.
Roedd yn teithio ar gyflymder o tua 30mya pan ddaeth oddi ar y cledrau.
Yn 2022 daeth adroddiad y corff sy'n ymchwilio i ddaweiniau rheilffordd (Rail Accident Investigation Branch) i'r casgliad bod y ddamwain wedi'i hachosi, mwy na thebyg, gan set o olwynion ar un o'r wagenni yn cloi o ganlyniad i nam ar y brêc a hynny wedi gwaith cynnal a chadw diffygiol.
Mae Network Rail bellach yn erlyn DB Cargo UK, a oedd yn berchen ar y trên, a Touax, a oedd yn berchen ar y wagen.

Fe wnaeth y ddamwain achosi cryn dipyn o ddinistr i amgylchedd yr ardal
Mewn dogfennau llys, sydd wedi'u gweld gan y Press Association, honnodd Network Rail bod y ddamwain wedi digwydd oherwydd na chafodd y wagen ei chynnal a'i chadw gyda "gofal rhesymol" gan Touax, ac mae'n ceisio iawndal am esgeulustod.
Mae hefyd yn ceisio iawndal gan DB Cargo UK, gan honni bod y cwmni hwnnw wedi "torri dyletswydd gytundebol i sicrhau bod gofal rhesymol yn cael ei gymryd" wrth gynnal a chadw'r wagen.
Dywedodd cyfreithwyr Network Rail hefyd eu bod yn "disgwyl adennill mwy na £5 miliwn" drwy'r hawliad.
Does dim rhagor o fanylion am yr hawliad ar gael ar hyn o bryd, gan nad yw DB Cargo na Touax wedi cyflwyno amddiffyniadau eto.
Does dim gwrandawiad wedi'i gynnal hyd yn hyn.
Gwrthododd Network Rail a DB Cargo roi sylw, tra bod Touax wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2023

- Cyhoeddwyd21 Medi 2020

- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2022
