Cynnig brechiad Hepatitis A i blant wedi pryder bod achosion yn lledaenu

BrechiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 11 achos o Hepatitis A wedi eu cadarnhau yn ardal Y Barri ers Rhagfyr 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig brechiadau rhag Hepatitis A i blant pump oed neu iau yn ardal Y Barri.

Daw'r mesur ar ôl i 11 achos o'r clefyd gael eu cadarnhau yn yr ardal ers Rhagfyr 2025.

Dyw tarddiad y clwstwr heb gael ei ddarganfod ond mae pryder fod y clefyd yn lledaenu yn y gymuned.

Yn ôl arbenigwyr, byddai brechu pob plentyn nid yn unig yn amddiffyn y plant ond hefyd eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.

Yn ôl Dr Chris Williams, ymgynghorydd epidemioleg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r rhaglen frechu yn angenrheidiol i geisio rheoli'r achosion.

"Y man hawsaf iddo ledaenu yw ymhlith plant bach o dan chwech oed," meddai.

"Felly, os gallwn frechu'r grŵp oedran hwnnw, bydd hynny'n atal y trosglwyddiad gan y plant hynny ac yn atal y lledaeniad."

Bydd brechiadau yn cael eu cynnig am ddim yn Ysbyty'r Barri rhwng dydd Mawrth 18 Awst a dydd Sadwrn 22 Awst.

Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn llythyr neu neges destun gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn eu gwahodd i fanteisio ar y cynnig o frechiad.

Fe fydd y brechlyn yn cael ei gynnig i blant pump oed neu iau sy'n byw yn y Barri neu'n mynd i feithrinfa neu ysgol yn y dref.

Beth yw Hepatitis A?

Mae Hepatitis A yn haint ar yr afu a achosir gan firws ac sy'n lledaenu'n hawdd.

Mae symptomau Hepatitis yn cynnwys:

  • Blinder anarferol neu deimlo'n sâl yn gyffredinol;

  • Tymheredd uchel;

  • Dim awydd bwyta a theimlo'n gyfoglyd;

  • Poen neu deimlad anghyfforddus yn rhan uchaf ochr dde'r abdomen;

  • Pasio dŵr tywyllach na'r arfer neu garthion lliw golau;

  • Y croen neu wyn y llygaid yn melynu;

  • Croen sy'n cosi.

Gall Hepatitis A fod yn bresennol mewn plant bach heb unrhyw symptomau amlwg.

Dr Chris Williams
Disgrifiad o’r llun,

Pwysleisiodd Dr Williams fod y brechiad yn ddiogel ac yn effeithiol iawn

Dywedodd Dr Williams y gall Hepatitis A achosi problemau hirdymor mewn rhai amgylchiadau.

"Mewn plant, mae'n aml yn clirio ar ei ben ei hun, ac fel arfer mae hynny'n wir am oedolion hefyd, ond weithiau, os yw'n effeithio ar bobl sydd â phroblemau sylfaenol – efallai problemau afu sylfaenol – gall achosi salwch difrifol iawn ac anabledd."

Ychwanegodd Dr Williams nad oes angen i rieni a gofalwyr boeni am ddiogelwch y brechlyn.

"Mae'n frechiad diogel ac effeithiol iawn. Fe'i defnyddir ledled y byd. Mae'n frechiad sy'n aml yn cael ei gymryd cyn teithio.

"Mae rhai lleoedd yn ei ddefnyddio fel rhan o'u rhaglen brechu gyffredin. Ac rydym eisoes wedi'i ddefnyddio ar gannoedd o bobl yn ardal y Barri i geisio rheoli'r achosion hyd yma."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig