Pum gêm bêl-droed gofiadwy yn Stadiwm Principality

GanDewi Hughes
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Prynhawn Sul, 16 Awst, bydd y gêm flynyddol, Community Shield, yn cael ei chynnal yn Stadiwm Principality.

Mae'r gêm yn cael ei chwarae rhwng enillwyr Cynghrair Lloegr ac enillwyr Cwpan FA Lloegr, ac felly'n chwarae eleni bydd Arsenal a Manchester City.

Ond wrth gwrs mae nifer o gemau pêl-droed cofiadwy wedi bod yn Stadiwm Principality dros y chwarter canrif ddiwethaf, a dyma ddetholiad ohonynt.

Lerpwl 2-1 Arsenal, rownd derfynol Cwpan FA Lloegr, 12 Mai 2001

Michael OwenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michael Owen, seren Stadiwm y Mileniwm fel yr oedd bryd hynny, yn 2001

Dyma'r flwyddyn gyntaf erioed i rownd derfynol Cwpan FA Lloegr gael ei chynnal tu allan i Loegr. Addas, felly, mai perfformiad chwaraewr dreuliodd ei blentyndod yng Nghymru sy'n sefyll allan.

Sgoriodd Michael Owen ddwy gôl yn y saith munud olaf i dorri calonnau Arsenal, oedd wedi bod yn amddiffyn gôl agoriadol Freddie Ljungberg. Roedd dwy gôl Owen mor wahanol - yn enghraifft berffaith o'i ddawn sgorio reddfol a'i gyflymder dinistriol.

Am y gyntaf, ymatebodd yn sydyn i bêl rydd ychydig tu allan i'r cwrs chwech a'i tharo'n syth i gornel y rhwyd.

Ac yna gwibiodd heibio Lee Dixon i gasglu pas hir o'r cefn, cyn taro ergyd droed chwith berffaith tu hwnt i goes estynedig Tony Adams ac yna bysedd y golwr David Seaman.

"Mae Michael Owen wedi ennill y gwpan i gyd ar ben ei hun i Lerpwl," gwaeddodd un sylwebydd teledu. Tipyn o glod i'r brodor o Benarlâg.

Cymru 2-1 Yr Eidal, gemau rhagbrofol Ewro 2004, 16 Hydref 2002

Tîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal yn 2002Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru ar gyfer y fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal yn 2002

John Charles. Manic Street Preachers. Buddugoliaeth. Dyna'r cyfuniad sy'n gwneud y gêm hon yn fythgofiadwy. Roedd y stadiwm dan ei sang, ac mae pawb fuodd yn y dorf o 72,500 yn cofio'r awyrgylch trydanol – hyd yn oed cyn y chwiban gyntaf.

Y Manics daniodd pethau drwy berfformio'n fyw ar y cae, ac yna cododd y dorf fel un wrth i Charles arwain y ddau dîm allan o'r twnnel. Yn arwr hefyd yn Yr Eidal ar ôl cyfnod arloesol gyda Juventus, roedd cymeradwyaeth yr Eidalwyr yr un mor wresog â chroeso ei gydwladwyr.

Dim rhyfedd fod deigryn wedi disgyn lawr boch y cawr addfwyn – neu Il Gigante Buono fel galwyd ef yn Yr Eidal - o Abertawe. Prin fod y cefnogwyr wedi cael cyfle i setlo yn eu seddi cyn iddynt godi mewn gorfoledd wrth i Simon Davies roi Cymru ar y blaen wedi 12 munud.

Daeth yr Eidalwyr yn gyfartal wedi hanner awr wrth i gic rydd Alessandro Del Piero wyro oddi ar y wal heibio'r golwr Paul Jones.

Ond sgoriodd Craig Bellamy 20 munud o'r diwedd i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol i dîm Mark Hughes – llwyddiant cyntaf y tîm cenedlaethol ers 11 mlynedd yn erbyn un o brif dimau'r byd mewn gêm gystadleuol. Aeth Cymru i frig y grŵp yng ngemau rhagbrofol Ewro 2004, ond methiant oedd yr ymgyrch yn y pendraw wrth golli'n erbyn Rwsia yn y gemau ail-gyfle.

Caerdydd 1-0 Queens Park Rangers, rownd derfynol gemau ail-gyfle Adran Dau, 25 Mai 2003

Andy CampbellFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Andy Campbell, a sgoriodd y gôl hollbwysig dros Gaerdydd

Mae sicrhau dyrchafiad wrth ennill rownd derfynol gêm ail-gyfle yn ddigon arbennig, mae gallu gwneud hynny yn ninas eich hun yn fwy arbennig byth.

Wrth i Wembley gael ei ail-ddatblygu, symudwyd y gemau diwedd tymor i Stadiwm y Mileniwm rhwng 2001 a 2006, gan roi'r cyfle cyntaf yn eu hanes i Gaerdydd gael chwarae ym mhrif stadiwm y ddinas.

Yr eilydd Andy Campbell oedd arwr yr Adar Gleision wrth godi'r bêl yn berffaith dros golwr Queens Park Rangers gyda 10 munud yn weddill o amser ychwanegol. Cafodd yr ymosodwr y pleser o gael pob un o'i gyd chwaraewyr yn neidio ar ei ben mewn un pentwr o orfoledd am y drafferth.

Roedd pedwar Cymro - Rhys Weston, Danny Gabbidon, Andy Legg a Rob Earnshaw - yn nhîm Caerdydd, wrth i'r clwb ddychwelyd i ail haen cynghreiriau Lloegr am y tro cyntaf ers 1985.

Mae'r gêm hefyd yn cael ei chofio am i Neil McNamara, aelod o dîm diogelwch perchennog Caerdydd Sam Hammam, ddiffodd larwm tân am 03:00 yn y gwesty lle'r oedd QPR yn aros cyn y gêm. Cafodd McNamara ei wahardd rhag mynychu unrhyw gêm bêl-droed am bum mlynedd oherwydd ei weithred.

Prydain 1-0 Seland Newydd, Y Gemau Olympaidd, 25 Gorffennaf 2012

Stephanie HoughtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stephanie Houghton, sgoriwr unig gôl y gêm ym muddugoliaeth Tîm GB

Stadiwm Mileniwm gafodd yr anrhydedd o gynnal cystadlu cyntaf Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 – deuddydd cyn y seremoni agoriadol fawreddog yn Llundain. Dyma oedd y tro cyntaf i Dîm Prydain gystadlu yn y gystadleuaeth i ferched ers i'r gamp gael ei chyflwyno i'r Gemau yn 1996.

Chafodd yr un Gymraes le yn y garfan, er bod Jess Fishlock eisoes wedi sefydlu ei hun fel seren y dyfodol. Roedd presenoldeb Prydain yn y gystadleuaeth yn bwnc hynod ddadleuol – roedd y gwrthwynebwyr yn poeni y byddai'n peryglu statws Cymru a'r gwledydd cartref eraill fel timau annibynnol o fewn Fifa.

Penderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru i beidio gwrthwynebu'r tîm, ond heb fynd mor bell â'i gefnogi. Ychydig llai na 25,000 welodd merched Prydain yn curo Seland Newydd o un gôl i ddim. Naw o Loegr a dwy o'r Alban oedd yn y tîm.

Wythnos yn ddiweddarach, cyfle'r dynion oedd hi chwarae yng Nghaerdydd. Tro yma, roedd yna Gymry i'w gweld mewn crys Prydain wrth i Craig Bellamy arwain y tîm i'r cae. Dechreuodd Aaron Ramsey, Neil Taylor a Joe Allen y gêm, gyda Ryan Giggs – y capten drwy'r gystadleuaeth – yn aros ar y fainc. Daniel Sturridge sgoriodd yr unig gôl i roi buddugoliaeth i Brydain.

Real Madrid 4-1 Juventus, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, 3 Mehefin 2017

Bale modric ramosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y seren leol, Gareth Bale, gyda Sergio Ramos a Luka Modric yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Juventus

Roedd rhagor o siom i gefnogwyr o'r Eidal pan gollodd Juventus yn drwm i Real Madrid wrth i'r stadiwm gynnal rownd derfynol Cwpan Ewrop am y tro cyntaf – yr unig dro hyd heddiw. Prin fod Caerdydd wedi profi achlysur o'r fath raddfa erioed o'r blaen, wrth i tua 170,000 o gefnogwyr heidio i brifddinas Cymru.

Cymaint oedd gofynion UEFA er mwyn cynnal yr holl weithgareddau atodol fel bu rhaid symud gŵyl Tafwyl o'i chartref arferol yng Nghastell Caerdydd i Gaeau Llandaf. Mae'n rhaid bod hon yn gêm bwysig! Doedd hi fawr o gystadleuaeth ar y cae wrth i fawrion Madrid brofi'n llawer rhy dda i Juventus.

Sgoriodd Cristiano Ronaldo ddwywaith, gyda Casemiro a Marco Asensio yn cwblhau'r fuddugoliaeth a sicrhau bod Real yn codi'r tlws am y 12ed tro yn eu hanes.

Roedd elfen o siom am nad oedd Gareth Bale yn cychwyn y gêm yn ei ddinas enedigol oherwydd diffyg ffitrwydd yn dilyn anaf. Fe gafodd dipyn o groeso pan ddaeth i'r maes fel eilydd gyda 13 munud yn weddill, a chwifiodd y Ddraig Goch gyda balchder yng nghanol y dathliadau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig