Beth yw gobeithion clybiau Cymru cyn i'r tymor newydd ddechrau?

Rheolwr Wrecsam Phil Parkinson, rheolwr Caerdydd Brian Barry-Murphy, rheolwr Abertawe Vitor Matos a rheolwr Casnewydd Hayden Mullins. Ffynhonnell y llun, Getty Images/Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae tymor Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd ar fin dechrau

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae tymor newydd y gynghrair bêl-droed yn Lloegr yn cychwyn y penwythnos yma.

Bydd tri chlwb o Gymru yn y Bencampwriaeth - Abertawe, Caerdydd a Wrecsam - tra y bydd Casnewydd yn chwarae yn Adran Dau unwaith eto.

Felly be' ydy gobeithion y pedwar clwb y tymor yma?

Wrecsam

Phil Parkinson yn ystod taith Wrecsam i'r Unol Daleithiau yn haf 2026.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Parkinson wedi ennill tri dyrchafiad fel rheolwr Wrecsam

Dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr - dyna'r disgwyliadau ar y Cae Ras.

Doedd 'na ddim pedwerydd dyrchafiad yn olynol y tymor diwethaf ar ôl iddyn nhw golli allan ar le yn y gemau ail-gyfle ar y penwythnos olaf.

Os ydyn nhw am fynd gam yn well y tro hwn, maen nhw angen dechrau da - dim ond un fuddugoliaeth gafon nhw yn eu pum gêm gynghrair gyntaf y tymor diwethaf.

O hyn ymlaen bydd mwy o glybiau yn y gemau ail-gyfle, gyda'r nifer yn codi o bedwar i chwech.

Ond y targed i Phil Parkinson fydd gorffen yn y ddau safle uchaf, fyddai'n golygu dyrchafiad awtomatig.

Mae Parkinson yn barod wedi ychwanegu tri chwaraewr i'w garfan - y golwr Anthony Patterson, yr amddiffynnwr Danny Imray a'r chwaraewr canol cae Ben Whiteman.

Os allan nhw arwyddo ymosodwr o safon, yna dwi'n rhagweld y byddan nhw'n agos iawn at y ddau safle uchaf ar ddiwedd y tymor.

Abertawe

Zan Vipotnik yn dathlu sgorio i Abertawe yn erbyn Middlesbrough yn y Bencampwriaeth.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd Zan Vipotnik dal i chwarae dros Abertawe y tymor yma?

O safbwynt Abertawe mae 'na lot yn ddibynnol ar ddyfodol Zan Vipotnik.

Yr ymosodwr o Slofenia oedd prif sgoriwr y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, ac yn sgil hynny mae sawl clwb wedi dangos diddordeb ynddo dros yr haf.

Mae'r Elyrch yn barod wedi gwrthod un cynnig gan Hull amdano - cawn weld a fydden nhw'n dod yn ôl gyda chynnig gwell.

Os fydd Vipotnik yn gadael, mae'r clwb wedi arwyddo ymosodwr gyda phrofiad o sgorio goliau yn y Bencampwriaeth yn Ross Stewart.

Yn gyn-chwaraewr i Southampton a Sunderland, roedd Stewart hefyd yn rhan o garfan Yr Alban yng Nghwpan y Byd dros yr haf.

Un o wendidau Abertawe y tymor diwethaf oedd y diffyg goliau gan asgellwyr, ac er mwyn ceisio datrys hynny maen nhw wedi arwyddo tri ohonyn nhw - Elijah Just, Joseph Opoku a Moussa Yeo.

Mae'n ymddangos fod Cameron Burgess wedi dioddef anaf difrifol i'w goes sy'n golygu bod angen amddiffynnwr canol newydd arnyn nhw.

Cadw Vipotnik a chryfhau'r amddiffyn, ac fe ddylen ni weld Yr Elyrch yn dod yn agos at le yn y gemau ail-gyfle.

Caerdydd

Brian Barry-Murphy cyn gêm Caerdydd yn erbyn Wrecsam ar Y Cae Ras yng Nghwpan y Gynghrair. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Brian Barry-Murphy ddyrchafiad yn ei dymor cyntaf fel rheolwr Caerdydd

Ar ôl un tymor yn unig yn Adran Un, mae Caerdydd yn ôl yn y Bencampwriaeth.

Fe wnaeth Brian Barry-Murphy yn wych yn ei dymor cyntaf wrth y llyw - sicrhau dyrchafiad, chwarae pêl-droed ymosodol a rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc o'r academi.

Mae'n bosibl dadlau mai'r peth pwysicaf mae Caerdydd wedi ei wneud dros yr haf ydy perswadio Barry-Murphy i arwyddo cytundeb newydd - yn enwedig ar ôl iddo gael ei gysylltu gyda chlybiau fel Celtic.

Ar y cae, byddai gorffen yng nghanol y tabl, ac aros i ffwrdd o safleoedd y cwymp, yn cael ei gyfri' fel llwyddiant y tymor yma.

I hynny ddigwydd maen nhw'n sicr angen cryfhau'r garfan.

Mae'r golwr Nathan Trott wedi arwyddo'n barhaol ar ôl cyfnod llwyddiannus ar fenthyg, tra bod y chwaraewr canol cae Jack Moylan wedi ymuno o Lincoln.

Ond yn ddelfrydol mae angen mwy o ddyfnder yn y llinell flaen, ar yr esgyll ac yng nghanol cae.

Os fydd Yousef Salech yn llwyddo i sgorio'n rheolaidd y tymor yma, yna efallai y gwelwn ni Gaerdydd yn brwydro am le yn yr wyth uchaf.

Ond fel mae pethau'n sefyll, dwi'n gweld hynny'n annhebygol.

Casnewydd

Hayden Mullins cyn y gêm gyfeillgar rhwng Casnewydd a Roma ar Rodney Parade. Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hayden Mullins yn rheolwr ar dîm dan-21 Fulham cyn ymuno â Chasnewydd

Mae hi wedi bod yn haf prysur ar Rodney Parade.

Ar ôl llwyddo i gadw Casnewydd yn Adran Dau y tymor diwethaf - fe benderfynodd Christian Fuchs ymddiswyddo fel rheolwr.

Fe gymrodd y clwb eu hamser cyn penodi cyn-chwaraewr West Ham a Portsmouth, Hayden Mullins fel olynydd.

Ond y broblem gyda hynny ydy nad yw wedi cael llawer o amser gyda'r garfan cyn i'r tymor newydd ddechrau.

Yn ogystal â Fuchs, mae'r capten Matt Baker a'r ymosodwr Bobby Kamwa wedi gadael ar ôl i'w cytundebau ddod i ben.

Heb os ac oni bai mae 'na waith anodd o flaen Mullins, ac mae'n anodd rhagweld unrhyw beth arall ond tymor hir i'r Alltudion, lle byddan nhw'n brwydro unwaith eto i aros yn y gynghrair bêl-droed.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.