Ydy hi'n amser newid sut rydyn ni'n trafod tywydd poeth?

- Cyhoeddwyd
Gyda channoedd o ysgolion yn cau ledled Cymru wrth i'r wlad gael ei rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol, ai 'mwynhau' yr haul 'braf' ydi'r ffordd orau o drafod y tywydd?
Mae Mehefin 2026 yn argoeli i fod yn fis arwyddocaol gyda sawl record tywydd yn cael ei dorri - ond am ba hyd fydd unrhyw record newydd yn para?
Fe gafodd tymheredd o 33.3C ei gofnodi ym Mharc Bute, Caerdydd ar 24 Mehefin - y tymheredd uchaf erioed yng Nghymru yn ystod mis Mehefin.
Ond mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhagweld y gallai'r tymheredd gyrraedd rhwng 38C a 40C cyn i'r rhybudd coch ddod i ben - gan dorri'r record bresennol am y tymheredd uchaf erioed o 37.1C, a gofnodwyd ym Mhenarlâg yn Sir y Fflint yn 2022.

Roedd yr haul yn barod yn gynnes ar ddechrau'r diwrnod ar 25 Mehefin yn Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, ni wnaeth y tymheredd ostwng yn is na 23C dros nos yng Nghaerdydd, sy'n golygu mai nos Fercher 24 Mehefin oedd y noson dwymaf ar gofnod ym mis Mehefin unrhyw le yn y DU.
Mae hynny eto i gael ei gadarnhau'n swyddogol, ond byddai'n torri'r record flaenorol o 22.7C a osodwyd yn 1976.
Ond mae arbenigwyr yn rhagweld bod unrhyw record eleni yn siŵr o gael ei dorri yn y dyfodol agos oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd. Hanner canrif ers sychder haf 1976, mae gwyddonwyr y Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai tymheredd y DU gyrraedd 45C erbyn 2056.

Mae rhybuddion tywydd coch ac oren mewn grym tan 23:59 nos Iau, 25 Mehefin
'Tywydd braf i ddod'
Felly er bod nifer yn croesawu gweld yr haul, ydi hi'n amser ail-feddwl sut rydyn ni'n trafod cyfnodau poeth ac osgoi geirfa fel 'braf' a 'mwynhau'?
A sut mae cyflwynwyr y tywydd yn mynd ati i adrodd am y tymheredd uchel tra hefyd yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd?
Fe ofynnodd Cymru Fyw am safbwyntiau rhai o gyflwynwyr tywydd y BBC.

Robin Owain Jones, Cyflwynydd Tywydd BBC Radio Cymru:
'Di o erioed 'di fy nharo i mewn gwirionedd pa mor bositif 'di'r eirfa wrth i ni drafod neu gyflwyno'r haul.
Ar lefel syml, 'di'r haul ddim hyd yn oed at ddant bawb – yn enwedig pan fydd hi'n dod at lefelau paill ac ati sy'n broblem arall yn ei hun.
Mae'r holl beth yn mynd o dan y radar pan fydden ni'n cyflwyno'r tywydd ond mewn gwirionedd, ella bod angen ystyried hyn fel rhan fwy o'r sgwrs.
'Dyn ni'n byw mewn cyfnod newydd lle mae'r tymhorau bron yn blurred – yn gweddu i mewn i'w gilydd, lle nid oes gennym ni bedwar tymor diffiniedig fel yr oedd gennym ni o'r blaen.
Mae'r gaeafau'n gynhesach, a'r hafau'n wlypach, a'n swydd ni yw cyfleu'r neges, ac nid y 'pam'.
Mae'n bryder i mi, fodd bynnag, y bydd yr ieithwedd ond yn newid pan y bydd hi'n llawer rhy hwyr.
'Dyn ni ond yn dechrau profi rhai o sgil-effeithiau'r newid yn ein hinsawdd, a ddim wir yn eu profi i'w llawn maint felly mae'n anoddach i rai gydnabod yr ochr negyddol.

Derek Brockway a Sue Charles
Derek Brockway, Uwch-feteorolegydd a Chyflwynydd Tywydd BBC Wales:
Mae angen i ni fynd â'r bobl ar daith gyda ni.
Yn naturiol, rydyn ni'n cael cyfnodau cynnes yng nghanol mis Ebrill a Mai bob blwyddyn ac ar ôl gaeaf sy'n aml wedi bod yn dywyll, bydd pobl yn croesawu'r newid hwn.
Nid pawb sy'n hoff o'r haul, ond mae'n golygu y gall pobl fynd allan i ymgymryd â gweithgareddau newydd, gan wrth gwrs fod yn ofalus drwy yfed digonedd o ddŵr a rhoi eli haul amdanynt.
Mae'n rhaid i'n hiaith a'n geirfa ni newid pan fydd ton wres a thywydd poeth yn codi yng nghanol misoedd yr haf – bryd hynny gall effeithio ar iechyd pobl ifanc ac oedrannus ac mae dyletswydd arnom ni i fynegi difrifoldeb hynny.
Sue Charles, Cyflwynydd Tywydd BBC Wales:
Mae'n rhaid sicrhau'r cydbwysedd cywir a bod yn ofalus nad ydyn ni'n rhy negyddol.
Yn aml, ac yn enwedig ar ôl gaeaf hir lle bydd pobl yn dioddef o lefelau isel o fitamin D, mae angen i bobl fynd allan a mwynhau'r tywydd. O safbwynt tywydd yn unig – mae angen ei fwynhau, mae hynny'n beth da.
Ond mae angen i ni hefyd gydnabod bod cysylltiad posibl â'r newid mewn hinsawdd - er nid dyma ein swydd mewn gwirionedd. Mae angen i ni adrodd y ffeithiau, a pheidio â llywio'r ffyrdd y mae pobl yn byw neu'n ymddwyn.
Yn sicr, mae angen gofalu am ein hieithwedd.
Fe gafodd fersiwn o'r erthygl hon ei chyhoeddi yn 2025.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Mai

- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2018

