Arwyn Herald: 'Cael triniaeth diabetes math 2 wedi achub fy mywyd'

Arwyn HeraldFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cyn diagnosis o diabetes math 2 roedd Arwyn Herald yn 20 stôn, ond mae bellach wedi colli dros chwarter ei bwysau

  • Cyhoeddwyd

Mae Arwyn Herald o Rosgadfan yn wyneb cyfarwydd - yn ffotograffydd blaenllaw ac yn gynghorydd sir - ond dywed pe na bai wedi mynd at y meddyg y byddai diabetes math 2 wedi ei ladd.

"12 mlynedd yn ôl oedd hi a ro'n i newydd golli Mam - ac i ddelio gyda'r cyfan ro'n i'n bwyta bob dim - comfort eating," meddai wrth Cymru Fyw.

"Ro'n i'n hynod sychedig ac yn gorfod mynd i'r tŷ bach yn aml - cymaint felly fel bo' fi'n gorfod cario dillad sbâr i bob man.

"Doedd gen i ddim rheolaeth ac ro'n i'n pwyso 20 stôn.

"Dwi'n cofio mynd ar drip rygbi ac o'n i wedi yfed fy mheint o seidr cyn bod diodydd y gweddill yn cyrraedd y bwrdd - o'n i mor sychedig.

"Ar ôl hynna es i at y meddyg a doedd o ddim yn sioc clywed bod gen i diabetes math 2. O'dd o'n rhywbeth oedd gan Mam hefyd tua diwedd ei hoes."

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 230,371 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes - 7,685 o gynnydd o fewn blwyddyn.

Mae'r twf yn cael ei yrru gan diabetes math 2, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Addysg yw'r goriad'

Ddydd Mawrth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn lansio dau adnodd cenedlaethol newydd i gefnogi pawb sydd wedi cael diagnosis o diabetes math 2 yng Nghymru.

"Bydd y rhain yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i bobl fyw yn dda o'r diwrnod cyntaf ac yn helpu i atal cymhlethdodau difrifol," medd llefarydd.

"Mae diabetes math 2 yn gyflwr difrifol, gydol oes. Os caiff ei reoli'n wael, gall arwain at golli golwg, clefyd yr arennau, niwed i'r nerfau a chlefyd cardiofasgwlaidd.

"Ond o gael yr wybodaeth a'r gefnogaeth briodol o'r eiliad y caiff y diagnosis ei wneud, mae modd atal llawer o'r cymhlethdodau hyn - ac i rai, mae'n bosibl i'r afiechyd gael ei leddfu."

Ychwanegodd Bethan Mair Williams, gwirfoddolwr gyda Diabetes UK ers dros 15 mlynedd: "Y peth sy'n ddefnyddiol iawn yw'r addysg a'r wybodaeth.

"Mae'n ffaith fod y nifer yng Nghymru mor uchel yn bryderus iawn, oherwydd mae diabetes yn afiechyd sy'n gallu arwain at lot o broblemau mawr.

"Gyda diabetes math 2 addysg yw'r goriad - deall sut mae modd lleihau'r effeithiau, a hyd yn oed eu troi nhw rownd mewn rhai achosion.

"Mae cadw pwysau lawr, byw'n iach a deall effaith carbohydradau, gan gynnwys pa garbohydradau sy'n iach, yn bwysig."

Arwyn Herald cyn iddo gael y diagnosisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Arwyn Herald cyn iddo gael y diagnosis

Mae'r Cynghorydd Arwyn Herald Roberts, sy'n cynrychioli ward Tryfan ar Gyngor Gwynedd, yn dweud bod cael unrhyw gyngor a chefnogaeth yn werthfawr, ac mae'n diolch i Feddygfa Waunfawr am ei ofal.

"Mynd at y meddyg a dysgu byw gyda beth all fod o'i le sy'n bwysig," meddai.

"Dwi bellach wedi colli chwe stôn a ddim yr un dyn - mae gen i fwy o egni a dwi wedi cael injection dwi'n chwistrellu unwaith yr wythnos. 34" waist dwi bellach - o'n i'n 42.

"Dwi wedi cael problemau golwg ac o'dd hynna'n dorcalon llwyr i ffotograffydd.

"Mae'r diabetes wedi achosi tyfiant yn un llygad a chataract yn y llall - ro'n i'n meddwl bo fi'n mynd yn ddall ond mae'r cyfan wedi'i sortio bellach, diolch byth."

Wrth i diabetes gael effaith ar un o bob pum oedolyn yng Nghymru bwriad un pecyn, medd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), yw rhoi canllawiau clir ac ymarferol ar fwydydd a ffordd o fyw, gwell dealltwriaeth o ba ofal ac archwiliadau y gellir eu disgwyl, a gwell ymwybyddiaeth o sut y gall rheoli y cyflwr yn dda wella iechyd yn y dyfodol.

Mae'r pecyn arall yn rhoi cymorth ymarferol i glinigwyr sy'n rhoi diagnosis o ddiabetes math 2 am y tro cyntaf.

Dywedodd David Taylor o'r rhaglen ICC: "Hyd yn hyn, roedd y gefnogaeth a roddwyd i bobl ar ôl iddynt gael diagnosis o ddiabetes Math 2 yn rhy ddibynnol ar ble roedden nhw'n byw a phwy roedden nhw'n ei weld.

"Nid oedd yr amrywiad hwnnw'n deg, ac roedd yn cael effeithiau gwirioneddol ar iechyd pobl.

"Mae'r pecynnau hyn yn newid hynny.

"Maent wedi'u hadeiladu ar yr hyn a ddywedodd cleifion a chlinigwyr wrthym eu bod ei angen mewn gwirionedd, ac maent yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i bobl fyw yn dda gyda diabetes ac iddynt atal y cymhlethdodau yr oedd pobl ers lawer dydd yn eu hystyried yn anochel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.