Dirprwy Lywydd eisiau i fusnesau bach gael llais cadarn yn y Senedd

Kerry Ferguson yn siambr y Senedd ym mis Mai ar ôl cael ei hethol yn Ddirprwy Lywydd i Huw Irranca-Davies
- Cyhoeddwyd
Mae angen "lleisie cadarn" ar ran busnesau bach yn Senedd Cymru, medd y Dirprwy Lywydd newydd, sy'n wraig fusnes ei hun.
Cafodd Aelod Senedd Plaid Cymru, Kerry Ferguson ei hethol am y tro cyntaf i Fae Caerdydd ym mis Mai fel un o gynrychiolwyr etholaeth Ceredigion Penfro.
Cyn hynny fe dreuliodd flynyddoedd yn rhedeg cwmni dylunio gwefannau a marchnata digidol a bu'n fentor gyda Busnes Cymru, ac yn fodel rôl gyda menter Syniadau Mawr Cymru.
Yr economi a'r "teimlad bod lleisie busnese bach wastad ddim cweit yn ca'l eu clywed" oedd ymhlith y ffactorau wnaeth ei hysgogi i fod eisiau gwneud gwahaniaeth i'r sector trwy fod yn Aelod o'r Senedd.
Fe wnaeth ei sylwadau mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, dri mis ar ôl cael ei dewis i fod yn ddirprwy i'r Llywydd Llafur, Huw Irranca-Davies.

Huw Irranca-Davies gafodd ei ethol yn Llywydd y Senedd fis Mai
Fel Aelod o'r Senedd newydd sbon, doedd Kerry Ferguson heb ddisgwyl cael y fath rôl "felly o'n i heb feddwl amdano fo o gwbl".
Ei gwaith, meddai, yw "cefnogi'r Llywydd a gwneud yn siŵr bod lleisie bob aelod yn cael eu clywed yn ystod dadleuon a 'neud yn siŵr bod y dadleuon hynny yn cael eu rhedeg yn deg ac effeithiol".
Wrth gadeirio cyfarfodydd, dywed ei bod yn tynnu ar ei phrofiad blaenorol fel cynghorydd tref a Maer Aberystwyth.
Dywed ei bod yn "ffodus, ffodus iawn" o fod wedi cael cefnogaeth cyn-Lywydd y Senedd, Elin Jones - un o gynrychiolwyr eraill etholaeth Ceredigion Penfro - "dros y daith i gyd... o'r amser o'n i'n gynghorydd tref".
Braf, meddai, yw gallu "tecstio Elin" yn dilyn sesiynau yn y siambr i holi "be fyddet ti wedi 'neud bryd hynny?'" neu gael "clonc a debrief bach gyda rhywun sydd wedi 'neud y swydd'".

Mae Elin Jones bellach yn Weinidog Cyllid y cabinet yn y llywodraeth Plaid Cymru newydd
Wedi ei magu ym Metws Gwerful Goch yn Sir Ddinbych ac yna yng Ngherrigydrudion, aeth Kerry Ferguson i Brifysgol Aberystwyth yn 2007 "ac yn amlwg dwi 'rioed 'di mynd nôl adre" wedi hynny.
Dywed mai trwy "hap a damwain" y symudodd i'r byd gwleidyddol.
"Nes i 'rioed bwriadu 'neud," meddai. "O'n i'n rhedeg busnes ar y pryd - o'n i'n joio 'neud hynny, rhwydweithio, tyfu'r busnes."
Galwad ffôn gan gyn-faer Aberystwyth, Sue Jones-Davies oedd y man cychwyn "yn gweud o'dd sedd wag ar y cyngor tre', jest ar ôl Covid, 2021, - a fyddai diddordeb sefyll?
"Ac o'n o'n meddwl... sa'i cweit yn siŵr be' ma' cynghorwyr yn 'neud, ond ia, pam lai?
"O'n i'n 'nabod rhai ohonyn nhw trw' petha' gwahanol o'n i'n 'neud yn barod yn y gymuned.
"Nes i rili joio'r gwaith o'dd y cyngor tre' yn 'neud ond nes i sylweddoli'n ddigon sydyn mae'r cylch gorchwyl yn reit gyfyng ac o'n i rili isio 'neud mwy efo'r rôl efo'r proffil...
"O'dd bod yn gynghorydd tre' weithia yn gallu bod bach yn rhwystredig, yn anffodus."
'Joio helpu pobl'
Dywedodd mai'r hyn mae hi'n ei fwynhau fwyaf yw helpu datrys problemau pobl - cael sgwrs i ddeall hyd a lled sefyllfa a chyfeirio pobl at unigolion neu fudiadau all gynnig cymorth ac atebion.
"Mae'n rhaid i mi gyfadde' - ar ôl ca'l fy ethol, oedd o ryw dair wythnos cyn i mi feddwl 'oh my gosh, be dwi 'di 'neud fan hyn?'
"A des i'n ôl ac roedd y swyddfa yn Aberystwyth 'di trefnu cymhorthfa, a 'naeth o rili groundio fi i feddwl 'Dyma pam dwi' di ca'l fy ethol, dyma be' dwi'n joio 'neud...'"
Mae'r newid sylweddol mewn arferion siopa yn ei phoeni, ac mae'n dweud bod "angen i ni fel pobl roi bach mwy o gefnogaeth i'r stryd fawr".
Ond mae hi'n pwysleisio bod yna "lot o bositifrwydd hefyd - os ti'n troedio strydoedd Aberystwyth ma' gym'int o siopa' annibynnol.
"Mae 'na lot i'w ddathlu ond mae byd y busnesau bach angen cefnogaeth a maen nhw angen lleisie cadarn yn y Senedd hefyd."
Dywed Kerry Ferguson bod popeth wedi digwydd mor sydyn ym mis Mai - rhwng y cyfri' ar y dydd Gwener a chael ei hethol, i fod gyda gweddill grŵp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd ar y dydd Sadwrn, ac yna sesiwn gyntaf y Senedd newydd ar y dydd Mawrth pan gafodd ei dewis yn Ddirprwy Lywydd.
Roedd rhaid aros i bwyllgorau gael eu cadarnhau, meddai, nes iddi ddechrau teimlo "oce, iawn, ma' petha'n ffitio nawr, dwi'n gw'bod be' dwi'n 'neud - a wedyn mae 'na wyth wythnos o fod yn ôl yn yr etholaeth!"
"Mae'n rhaid i fi gyfadde', dwi'n edrych ymlaen i fynd nôl ym mis Medi, er mor neis yw e i fod nôl yn [etholaeth] Ceredigion Penfro."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.