Cymuned Efailwen yn dathlu ail-agor Caffi Beca

Caffi Beca ar ei newydd wedd
- Cyhoeddwyd
Mae Caffi Beca yn Efailwen, Sir Benfro, yn fan adnabyddus iawn yng ngorllewin Cymru.
Yn ddiweddar cafodd y caffi estyniad a gwaith strwythurol adnewyddol, a daeth y gymuned at ei gilydd i'r agoriad swyddogol bore Llun, 22 Mehefin.
Roedd rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru'n darlledu'n fyw o'r caffi er mwyn nodi'r digwyddiad, i hel atgofion ac i edrych ymlaen at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â'r ardal fis Awst.
Yn agor y caffi'n swyddogol oedd y cyflwynydd Mari Grug, a oedd yn gweithio yn y caffi ei hun pan oedd hi'n iau.
"Ddes i yma i weithio yn ferch 14 mlwydd oed, yn gweithio ar ddydd Sadwrn, yn ystod y gwyliau, a hefyd parhau i wneud tra oeddwn i yn y brifysgol yng Nghaerdydd," meddai.
"O'n i yma am saith mlynedd a ges i lot o brofiadau gwerthfawr yn gweithio yma!"

Mari Grug yn torri'r rhuban ac yn agor yr adeilad yn swyddogol
Ychwanegodd Mari: "Mae'n hyfryd cael dod 'nôl - o'dd Robert [y perchennog] wastad yn dweud ei fod eisiau i mi agor y caffi.
"Mae wedi agor ar ei newydd wedd ers rhai misoedd bellach, ond heddiw mae'r agoriad swyddogol ac rwyf mor falch o ddod yma heddiw."
'Mor falch' o'r perchnogion
Dywedodd Annie Maude James, mam Robert James y perchennog, ar Bore Cothi: "Rwy'n falch iawn ohono fe [Robert] a'i wraig, Delyth, maen nhw wedi gweithio'n galed."
Mae'r caffi ar agor ers 34 o flynyddoedd bellach, ac mae'r sefydliad yn hynod o falch o'r cymeriadau a'r hanes lleol - Waldo Williams, Brwydr y Preseli, Meini Gŵyr ac wrth gwrs Twm Carnabwrth a Merched Beca, sef y rheswm y cafodd y caffi ei henw. Mae yna ddelweddau a barddoniaeth am yr ardal i'w gweld ar furiau'r caffi.

Perchenog Caffi Beca, Robert James a'i fam Annie Maude James yng nghwmi Shân Cothi
"Ni'n gwneud y cacenni ma'n ffres, a Mam sydd wedi'n nysgu i... ac ma' hi'n dal i gadw llygad ar bopeth rwy'n ei wneud!" meddai Robert.
"Mae'r pentre' ma' [Efailwen] yn le hanesyddol, â Therfysg Beca ac ati. Fe ddaeth caffi 'ma yn gyntaf yn 1964, ac fe brynes i fe yn 1993.
"Pan ddoth y clo mawr daeth y cyfle i ni feddwl am bethau a gweld ble oedden ni am fynd nesaf.
"Roedden ni moyn datblygu'r safle, a chodi'r adeilad newydd yn y gornel 'ma ac fel y gwelwch chi heddiw ma'n edrych draw am y Preseli ac mae'r olygfa'n fendigedig."

Rhai o'r cacennau sydd ar gael yng Nghaffi Beca
Ychwanegodd Robert: "Chi'n dechrau gydag adeilad gwag, a dod â phopeth i mewn i'r lle - yr hanes, yr hen furlun, a barddoniaeth Waldo sydd ar y wal.
"Mae'r bobl leol yma heddiw, a hefyd Merched y Wawr Beca, Ysgol Gynradd Beca, Ysgol Bro Preseli, a'r hoelion wyth sy'n dod yma i gwrdd. Mae'r gefnogaeth dros y blynyddoedd wedi bod yn wych."
Dywedodd ei fod yn disgwyl cyfnod prysur yr haf 'ma gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i'r ardal.

Rhai o drigolion Efailwen
Mae'r delynores broffesiynol, Claire Jones, yn byw dros y ffordd i'r caffi: "Mae'n hyfryd cael byw yng nghanol y gymuned 'ma.
"Mae Robert wedi gwneud gymaint o joban dda o ddod a'r gymuned gyfan at ei gilydd - mae wastad digwyddiadau ymlaen 'ma.
"Wrth gwrs ry'n ni gyd yn dod yma i fwyta a mwynhau a chymdeithasu, ond y peth mwya' am y lle ma' yw bod e'n tynnu'r gymuned at ei gilydd fel canolbwynt, felly diolch mawr i Robert."

Shân gyda Claire Jones, Chris Marshall a Cadi Marshall-Jones
Bydd Claire yn perfformio mewn cyngerdd arbennig dros yr haf, gyda 350 o blant sydd yn cael gwersi telyn a phiano yn yr ardal yn perfformio.
Mae Cadi hefyd yn canu'r delyn fel ei mam, ac fe fydd hi'n perfformio yn ystod yr Eisteddfod.
"Mae'n neis gweld e'n drwodd yn y genhedlaeth nesaf - ma' Chris a fi 'di cael gymaint o gyfleoedd o fod yn gerddorion, wedi teithio'r byd a chael gyrfa hyfryd.
"Ond nawr ni'n hapus i fod 'ma yn y gorllewin i roi cyfleoedd i Cadi yr un ffordd a ges i."

Gyda chriw o Ysgol Bro Preseli
Bydd dwy a oedd yn yr agoriad swyddogol, Mari Grug a'i mam Ann, yn cael eu hanrhydeddu yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Dywedodd Ann ar Bore Cothi: "Mae fe'n awyrgylch fendigedig. Mae Caffi Beca, fel mae nifer wedi dweud yn barod, yn ganolfan arbennig a ry'n ni'n lwcus iawn ohono fe yn yr ardal.
"Ac mae Mari wedi bod yn lwcus iawn o gael gwaith yma pan oedd hi'n 14, ac mae Robert a'r teulu 'di bod yn groesawgar tu hwnt ac rwy'n dymuno'n dda i Robert."
'Pobl arbennig' yr ardal
Yn siarad am gael eu hurddo yn yr Eisteddfod yr un diwrnod â'i mam, dywed Mari:
"Yndi mae am fod yn ddiwrnod arbennig, ni'n cael ein hurddo ar y bore dydd Gwener, ac mae am fod yn hyd yn oed mwy arbennig gan fod y chwaer fach, Lisa, yn troi'n 40 yr un diwrnod!
"Mi fydd e'n fore emosiynol - ry'n ni'n cael ein hurddo gyda chymaint o bobl eraill o'r ardal, felly bydda i'n rhannu e nid yn unig gyda Mam, ond gyda chymaint o bobl arbennig sy'n gwneud gwaith diflino yn yr ardal, mae am fod yn sbesial."
Cafodd Ann ei magu rhyw ddwy filltir o ble fydd yr Eisteddfod eleni, gan fynd i'r ysgol a oedd drws nesaf i ble fydd y brifwyl.

Shân gyda Annona, Mefin, Angharad, Ann, Mary ac Ann
Un arall o'r ardal sy'n cael ei urddo yn ystod yr Eisteddfod eleni yw Wyn Evans. Meddai Wyn:
"Mae'n golygu llawer, ac mae cael y fraint yma yn lleol yn golygu mwy i ni na os bydde fe yn y gogledd neu rhywle arall. Rwy'n falch iawn."
Agwedd sy'n amlygu ei hun gan y trigolion lleol dro ar ôl tro yw bod Caffi Beca'n ganolfan gymunedol bwysig, ac yn le i bobl ymgynnull a chefnogi ei gilydd.

Rhai eraill o bentref Efailwen yn mwynhau achlysur ailagor y caffi'n swyddogol
Roedd Kelly, sy'n gweithio fel heddwas, hefyd yn gweithio yn y caffi pan oedd hi'n iau.
"Mae chwaer hŷn Mari, Elin, yr un oed â fi yr un oedran, ac fe ddoth Mari i weithio yn y caffi tra bo' fi 'ma, felly oedden ni'n dwy'n gweithio gyda'n gilydd am flynydde, ac mae'n teuluoedd ni'n ffrindiau agos.
"'Nes i ymuno â'r heddlu 22 mlynedd yn ôl i heddiw, a Robert roddodd reference i fi'r adeg hynny - felly diolch iddo fe am ddweud pethau neis amdana i! A dwi sicr yn meddwl bo' gweithio yn y caffi wedi helpu i ddelio gyda phobl a delio gydag amseroedd prysur ac ati."
Mae Lois, merch Kelly, hefyd yn gweithio yn Caffi Beca: "Dwi yma ers tua dwy flynedd nawr, a rwy'n enjoio gweithio 'ma - mae'r staff i gyd yn lyfli a rwy'n cael profiadau da a chwrdd pobl newydd bob dydd!"

Lois a Kelly - staff o'r gorffennol a'r presenol
Gyda'r Eisteddfod yn dod i'r ardal ym mis Awst mae disgwyl y bydd Caffi Beca mor brysur ac erioed, gan groesawu pobl o bob cwr o Gymru.
Gan fod yr adeilad wedi ei adnewyddu y gobaith yw y bydd y caffi'n rhan ganolog o gymuned Efailwen a Sir Benfro'n ehangach am genedlaethau i ddod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o dddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd4 Mehefin
