Pryder am gyflenwadau dŵr ffynnon wrth i un fynd yn sych am y tro cyntaf

"Fi ddim wedi cael unrhyw ddŵr ffres yn dod o'r ffynnon i'r tŷ am o leiaf mis nawr," meddai Genista Tanner
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Geredigion yn poeni na all hi bellach ddibynnu ar ei ffynnon am ddŵr, wedi i sychder olygu ei bod wedi colli ei chyflenwad am y tro cyntaf.
Mae Genista Tanner, 72, yn byw yng nghefn gwlad y sir ger Aberteifi, ac yn dibynnu ar ffynnon breifat ar gyfer ei chyflenwad dŵr.
Mae hi wedi bod yno am dros 30 mlynedd, a doedd hi erioed yn credu y byddai sychder yn achosi i'r ffynnon fynd yn sych.
Ond dyna'n union sydd wedi digwydd eleni.
Mae Ms Tanner yn un o dros 100,000 o bobl ledled Cymru sy'n dibynnu ar gyflenwadau preifat ar gyfer dŵr yfed, yn ôl Arolwg Daearegol Prydain.
Mae ymchwilwyr yn rhybuddio bod cyflenwadau dŵr tanddaearol Cymru yn fregus yn ystod cyfnodau o sychder.
'Erioed wedi digwydd o'r blaen'
Eleni fe welodd Cymru'r mis Gorffennaf sychaf ar gofnod, ac mae'r wlad gyfan mewn statws swyddogol o sychder.
Dyw cartref Ms Tanner ddim wedi'i gysylltu â'r rhwydwaith dŵr, ac yn hytrach mae'n defnyddio dŵr o ffynnon mewn cae ar draws y ffordd.
Am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, mae disgyrchiant yn cario digon o ddŵr i'r tŷ ar gyfer ymolchi, golchi llestri a defnyddiau eraill yn y cartref.
Ar adegau sych, mae pwmp yn helpu i symud dŵr o'r ffynnon i danciau storio.
Ond yr haf yma, doedd dim dŵr ar ôl i'w bwmpio.

Mae Genista Tanner bellach yn ddibynnol ar ddŵr potel
"Fi ddim wedi cael unrhyw ddŵr ffres yn dod o'r ffynnon i'r tŷ am o leiaf mis nawr," meddai.
"Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen. Byth, yn y 30 mlynedd y'n ni wedi byw 'ma."
Mae Ms Tanner nawr yn ddibynnol ar boteli dŵr o archfarchnadoedd, dŵr mae hi'n gallu defnyddio gan deulu neu ffrindiau, ac mae hi hyd yn oed wedi teithio 40 munud i gartref ei merch yn Aberystwyth er mwyn cael cawod.
"Do'n i byth yn sylweddoli gwerth dŵr tan i fi beidio cael e," meddai.
"Fi 'di dysgu bo' fi angen 1.7 litr i olchi fy ngwallt, a bydd pedair cwpaned o ddŵr yn galluogi fi i 'molchi'n iawn."
A hithau'n bensiynwr, mae Ms Tanner yn dweud bod cost dŵr potel wedi bod yn faich ychwanegol.
"Mae'n golygu bod rhaid i chi ofyn i'ch hunan, be' fi am fwyta? Oherwydd bydd rhaid i fi osod swm penodol o ddŵr i un ochr ar gyfer hynny."

Mae Cymru gyfan mewn statws swyddogol o sychder
Ond mae ei phryder yn ymestyn y tu hwnt i'r anghyfleustra presennol.
Mae cysylltiad Ms Tanner i'w chartref yn bersonol iawn. Symudodd yno gyda'i gŵr, mam-yng-nghyfraith a'i phump o blant dros 30 mlynedd yn ôl.
Ers hynny, mae ei mam-yng-nghyfraith, gŵr ac un o'i meibion wedi marw tra'n byw yno.
"Fi'n caru'r cartref 'ma," meddai.
Ond mae'n poeni y bydd hafau sychach yn y dyfodol yn ei gorfodi i adael.
"Fi ddim eisiau cael fy ngwthio i wneud rhywbeth fi ddim eisiau gwneud," meddai.

Yn ôl Abi Reader o NFU Cymru mae "ardaloedd enfawr o gefn gwlad sy'n llwyr ddibynnol ar gyflenwadau dŵr preifat"
Yn ôl llywydd undeb ffermio NFU Cymru, mae pryderon yn ymestyn ymhell y tu hwnt i gartrefi unigol.
"Mae 'na ardaloedd enfawr o gefn gwlad sy'n llwyr ddibynnol ar gyflenwadau dŵr preifat," meddai Abi Reader.
Dywedodd bod ffermwyr yn gynyddol aml yn gorfod cludo dŵr at dda byw, wrth i nentydd, ffynhonnau a phyllau sychu yn ystod y tywydd twym.
Ychwanegodd y bydd rhai ffynonellau dŵr yn cymryd misoedd i'w hadfer, hyd yn oed ar ôl i'r glaw ddychwelyd.
Yn ôl Dr Emmanuel Zarate, prif hydrolegydd Arolwg Daearegol Prydain yng Nghymru, mae cyflenwadau preifat "yn bwysicach yng Nghymru na mae nifer o bobl yn sylweddoli".
Dywedodd bod ffigyrau diweddar yn awgrymu bod tua 104,000 o bobl ledled Cymru yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat - cyfran fawr o'r rheiny mewn mannau gwledig.
Dyw profiad Ms Tanner "ddim yn achos ynysig", meddai, ac mae problemau o'r fath "yn eang ar draws Cymru, yn enwedig yr haf yma".
'Gaeafau gwlypach a hafau sychach'
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru bod "disgwyl i newid hinsawdd arwain at aeafau gwlypach a hafau sychach".
"Mae hyn wedi bod yn amlwg yn y cwpl o flynyddoedd diwethaf, gyda chyfnodau hir o dywydd sych a sychder yn yr haf, a llifogydd sylweddol dros fisoedd y gaeaf.
"Mae dŵr daear, o ble daw' mwyafrif o gyflenwadau dŵr preifat, yr un mor fregus i newid hinsawdd ag yw ein hafonydd, nentydd, llynnoedd a chronfeydd."
Ychwanegodd ei bod yn bosib "na fydd dŵr ar gael mor ddibynadwy trwy gydol y flwyddyn yn y dyfodol".
Dywedodd Cyngor Ceredigion mai cyfrifoldeb perchnogion yw cyflenwadau dŵr preifat, ond eu bod yn rhoi cyngor ar drefniadau amgen a datrysiadau hirdymor i drigolion sy'n cael trafferthion.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
