Cymdeithas yn Sir Gâr yn noddi Seren er mwyn 'cynnig help ymarferol'

Mae Seren, labrador felen ddeufis oed, newydd ddechrau ar ei thaith i fod yn gi tywys
- Cyhoeddwyd
Mae cymdeithas yn Sir Gâr wedi codi £2,500 i noddi ci bach i fod yn gi tywys i rywun sy'n colli golwg.
Bydd yr ast labrador felen, Seren, yn dechrau ar ei hyfforddiant yr wythnos hon drwy gynllun Cŵn Tywys Cymru.
Bydd y rhodd yn talu am flwyddyn gyntaf Seren gyda gwirfoddolwr cyn iddi symud ymlaen i hyfforddiant mwy arbenigol.
Dywedodd cymdeithas Gristnogol Coda Ni mai rhan o'u hymgyrch 'Agor ein Llygaid' oedd y cynllun - cynllun sydd wedi'i ysbrydoli gan straeon y Testament Newydd am Iesu yn adfer golwg pobl.
Dywed cynrychiolwyr o elusen Cŵn Tywys Cymru eu bod yn ddibynnol ar roddion o'r fath.

Mae Coda Ni wedi codi £2,500 er mwyn noddi blwyddyn gyntaf hyfforddiant Seren drwy gynllun Cŵn Tywys Cymru
Mae Coda Ni o Bencader yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau elusennol yng Nghymru a thramor.
Dywedodd Ffred Ffransis o'r gymdeithas fod y syniad yn cyd-fynd â gwaith y gymdeithas a'u hymgyrch 'Agor ein Llygaid' sy'n helpu pobl mewn ffyrdd ymarferol.
"Roedden ni eisiau gwneud rhywbeth fyddai'n rhoi arweiniad a chwmni i rywun mewn angen," meddai.
Ychwanegodd mai dyna oedd eu rheswm dros enwi'r ci yn Seren.
"Mae seren yn arwain - dyna oedd y syniad wrth ei henwi ac felly yn adlewyrchu rôl y ci yn arwain rhywun sy'n colli golwg."
Dywedodd fod y £2,500 yn talu am gyfnod cyntaf hyfforddiant Seren gyda gwirfoddolwr a bydd y person yna yn magu'r ast am tua blwyddyn.

Dywedodd Deborah Rees fod cŵn tywys yn gallu "agor y drws i sgyrsiau a chysylltiadau cymdeithasol newydd"
Yn ôl Deborah Rees o elusen Cŵn Tywys Cymru, mae Seren y ci, sydd newydd droi'n ddeufis oed, bellach yn dechrau'r cam cyntaf o'i thaith.
Bydd yn byw gyda theulu gwirfoddol lle bydd yn dysgu ymddygiad sylfaenol ac yn dod yn gyfarwydd â sefyllfaoedd bob dydd, fel teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ymweld â siopau.
Ar ôl tua 14 i 16 mis bydd yn symud i ganolfan hyfforddi Cŵn Tywys lle bydd yn cael hyfforddiant ffurfiol cyn cael ei pharu â rhywun sydd angen ci tywys.
'Gallu newid bywyd rhywun yn llwyr'
Dywedodd Deborah Rees fod y broses o baru ci yn cael ei chynllunio'n ofalus er mwyn sicrhau bod pob ci yn addas ar gyfer ffordd o fyw ac anghenion ei berchennog newydd, gan ystyried personoliaeth, maint a chyflymder pob ci.
Meddai: "Mae'r ci yn gallu newid bywyd rhywun yn llwyr.
"Gall olygu'r gwahaniaeth rhwng byw'n annibynnol ac yn hyderus neu deimlo'n ynysig oherwydd colli golwg."
Ychwanegodd fod cŵn tywys yn helpu pobl i symud o gwmpas yn ddiogel, ond hefyd yn aml yn "agor y drws i sgyrsiau a chysylltiadau cymdeithasol newydd."
Dywedodd fod Cŵn Tywys Cymru yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd.
"Rydyn ni mor ddiolchgar am gefnogaeth Coda Ni.
"Rydyn ni'n gobeithio y byddan nhw'n cael llawer o lawenydd wrth weld Seren yn tyfu a gwybod y bydd hi, gobeithio, yn mynd ymlaen i newid bywyd rhywun."
Bydd Coda Ni hefyd yn derbyn lluniau a diweddariadau rheolaidd am gynnydd Seren wrth iddi dyfu a symud drwy ei hyfforddiant.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth

- Cyhoeddwyd8 Mawrth

- Cyhoeddwyd15 Chwefror
