'Biliau dŵr uwch neu oedi cyn trwsio,' medd pennaeth newydd

Roch Cheroux, dyn a gwallt llwyd mewn cot llachar oren, yn sefyll o flaen adeiladau diwydiannol.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Roch Cheroux newydd ei benodi yn bennaeth newydd Dŵr Cymru

GanHuw Thomas
Gohebydd Busnes BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwsmeriaid yn wynebu "dewis" rhwng biliau uwch neu aros yn hwy am welliannau i wasanaethau dŵr, meddai pennaeth newydd Dŵr Cymru.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers dechrau'r rôl ym mis Ionawr, dywedodd Roch Cheroux fod seilwaith sy'n heneiddio a blynyddoedd o danfuddsoddi yn golygu na all y cwmni wella perfformiad heb wariant sylweddol. Fe fydd angen i hynny ddod gan gwsmeriaid.

"Y gwir amdani yw mai'r unig arian sydd gennym ni... yw'r biliau y mae ein cwsmeriaid yn eu talu," meddai.

"Mae mwy o fuddsoddiad yn golygu cymryd arian o filiau a'i ddefnyddio i drwsio'r asedau."

Dywedodd Cyngor Defnyddwyr Dŵr fod angen i gwmnïau brofi eu bod yn gwario arian cwsmeriaid yn "gyfrifol" wrth ofyn am fwy.

Plant yn chwarae wrth bibell gwastraff dwr ar draeth y Borth yng NgheredigionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen i gwsmeriaid dalu mwy i gyflymu'r broses o wella'r sustemau dŵr, yn ôl prif weithredwr newydd Dŵr Cymru

Mae Roch Cheroux yn derbyn fod gwasanaethau ar hyn o bryd yn methu â chyrraedd disgwyliadau.

"Nid yw lefel ein gwasanaeth lle y dylai fod," meddai, gan bwyntio at gyflwr y pibellau, y gweithfeydd trin a'r seilwaith ehangach ledled Cymru.

Ychwanegodd bod rhan helaeth o'r rhwydwaith yn ddegawdau oed a bod angen gwaith ailosod mewn mannau yn hytrach na thrwsio.

"Mae rhai asedau wedi'u hadeiladu amser maith yn ôl... mae angen eu newid am rai newydd mewn rhai achosion," meddai.

Pryderon am lygredd yn y dŵr

Daw'r sylwadau yng nghanol pryder cyhoeddus ynghylch gollyngiadau carthion ac ansawdd dŵr yn ogystal â biliau aelwydydd yn codi.

Mae cwmnïau dŵr ledled y DU, gan gynnwys Dŵr Cymru, wedi wynebu beirniadaeth ynghylch llygredd, gyda rheoleiddwyr yn rhybuddio bod perfformiad wedi dirywio tra bod ymgyrchwyr wedi tynnu sylw at raddfa'r gollyngiadau i afonydd a moroedd.

Mae Dŵr Cymru hefyd yn un o'r diffynyddion mewn achos sifil ynghylch llygredd yn Afon Gwy, lle mae trigolion a busnesau'n honni bod gollyngiadau carthion wedi cyfrannu at ddifrod amgylcheddol.

Mae'r cwmni'n gwadu'r honiadau ac yn herio'r achos yn yr Uchel Lys.

Llun o fodel a masg glas wedi'u dal yn yr awyr y tu allan i'r Uchel Lys yn LlundainFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi herio'r diwydiant yn y llys yn sgil honiadau o lygredd ac ansawdd dŵr gwael

Mae cwsmeriaid Dŵr Cymru eisoes wedi gweld biliau'n cynyddu 28% yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r cwmni'n bwriadu buddsoddi £4.6bn rhwng 2025 a 2030.

Ond dywedodd Mr Cheroux fod cynnydd pellach yn debygol yn y cyfnod prisio nesaf os yw'r cyhoedd am weld gwelliannau cyflym i'r systemau dŵr.

"Os ydym am weld gwelliant yn gyflymach, bydd mwy o gynnydd mewn biliau - dyna'r dewis i gymdeithas," meddai.

Dadleuodd fod y sefyllfa bresennol yn adlewyrchu degawdau o benderfyniadau polisi.

"Am 30 mlynedd, roedd ffocws ar gadw'r biliau'n isel iawn," meddai. "Y canlyniad yw nad yw'r buddsoddiad wedi digwydd ar y lefel y dylai," ychwanegodd.

Llaw yn dal gwydr glas o dan tap yn llifo dwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cwmni wedi dechrau ymgynghori â chwsmeriaid ar ei strategaeth hirdymor, gan ofyn a fyddai'n well ganddynt weld cynnydd graddol dros amser neu gynnydd mwy sydyn i gyflawni gwelliannau cyflymach.

Mae adborth cynnar yn awgrymu bod llawer o gwsmeriaid eisiau gwella perfformiad amgylcheddol, gan gynnwys llai o ollyngiadau ac afonydd glanach.

Tynnodd Mr Cheroux sylw at yr hyn a ddisgrifiodd fel her ehangach wrth i natur "anweledig" seilwaith dŵr ei gwneud hi'n anoddach i'r cyhoedd ddeall maint y buddsoddiad sydd ei angen.

"Mae'r rhan fwyaf o'n hasedau wedi'u claddu o dan y ddaear," meddai. "Nid yw pobl yn eu gweld oni bai bod rhywbeth yn mynd o'i le."

Rhodri Williams, dyn a gwallt llwyd mewn crys, yn sefyll o flaen ffens yng nghefn gwlad Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i gwmnïau dŵr ddangos eu bod yn gwario yn gyfrifol, cyn gofyn am fwy o arian gan gwsmeriaid, yn ôl Rhodri Williams

Dywedodd y corff sy'n gyfrifol am ofalu am fuddiannau cwsmeriaid fod yn rhaid i gwmnïau dŵr ddangos eu bod yn gwario'u harian mewn ffordd gyfrifol.

"Y gwir yw mae pobl eisoes yn talu rhagor," meddai Rhodri Williams, aelod o fwrdd Cyngor Defnyddwyr Dŵr.

"Y cwestiwn mawr dwi'n credu yw odi'r cwmni yn gallu defnyddio'r arian yna yn gall, ydyn nhw yn gallu delifro'r math o wasanaeth mae cwsmeriaid yn talu amdano fe'n barod?"

Mae ymddiriedaeth yn y cwmni "ar ei lefel isaf erioed," meddai Mr Williams, "felly dwi'n credu bod rhaid i bobl cael rhagor o ymddiriedaeth cyn bydden nhw yn barod i dalu rhagor o arian 'to."

Tra bod Cymru'n ymddangos i fod yn wlad heb broblemau cyflenwad dŵr, dywedodd Mr Williams fod angen i ni gyd ystyried y newidiadau hinsawdd sy'n effeithio ar sut rydyn ni'n defnyddio dŵr.

"Mae 'na angen i ni fel cwsmeriaid newid ein hymddygiad ni tuag at ddŵr, a'i ddefnyddio fe yn gallach.

"Ond hefyd mae'n rhaid i'r cwmnïau wneud llawer gwell job o esbonio i'w cwsmeriaid nhw beth yw'r anawsterau, faint o arian sydd eisiau arnyn nhw, a ble mae'r arian yna'n cael ei wario.

"A dyw hynny ddim wedi cael ei wneud yn dda. Dyw pobl ddim yn deall pam bod rhaid talu rhagor a rhagor o arian, a wedyn gweld bod y perfformiad yr un mor wael ag oedd e cyn i'r biliau gynyddu," meddai Mr Williams.

Yn y pen draw, meddai Roch Cheroux, mae'r her sy'n wynebu Cymru yn adlewyrchu her y DU ehangach o gydbwyso biliau cwsmeriaid gyda'r dasg o foderneiddio system sydd wedi'i chuddio o dan y ddaear.

"Rydym ar bwynt lle mae gennym ddewis," meddai. "Gallwn fuddsoddi mwy a gwella'n gyflymach, neu gymryd mwy o amser i gyrraedd yno."