Canslo sioe Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig yn 'siom i ni gyd'

Cob Cymreig yn y Sioe Frenhinol yn 2016Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae sioe i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig (WPCS) yn 125 oed wedi cael ei chanslo ar ôl i lai na chant o gystadleuwyr gofrestru.

Roedd y digwyddiad i fod i gael ei gynnal ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ym mis Awst ond yn ôl y trefnwyr mae'r nifer isel o gofrestriadau'n golygu nad yw hi'n bosibl yn ariannol i barhau â'r cynlluniau.

Mewn datganiad dywedodd y gymdeithas eu bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd ond cyfrifol" yn dilyn adolygiad o'r cofrestriadau cyn y dyddiad cau.

Ychwanegodd y gymdeithas - sef cymdeithas bridiau brodorol fwyaf y DU gyda mwy na 5,000 o aelodau ar draws y byd - fod y gefnogaeth ar gyfer y digwyddiad wedi bod yn "siomedig".

Mae'r sefydliad yn cydnabod effaith yr achosion diweddar o ffliw ceffylau a chostau tanwydd cynyddol ar gystadleuwyr ond doedden nhw ddim yn disgwyl cyn lleied.

Pe bai nifer y cofrestriadau'n dyblu cyn y dyddiad cau byddai'r digwyddiad dal yn anghynaliadwy'n ariannol meddai ymddiriedolwyr oherwydd costau cynnal y digwyddiad.

Ychwanegodd y gymdeithas y byddai oedi cyn gwneud penderfyniad wedi arwain at gostau canslo a byddai hynny wedi ychwanegu at y costau.

Ifor LloydFfynhonnell y llun, Ifor Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ifor Lloyd yn siomedig iawn ond yn dweud nad oedd dewis arall os oedd y gymdeithas yn credu "bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol"

Dywedodd Ifor Lloyd, sydd wedi bod yn aelod o'r gymdeithas ers degau o flynyddoedd, fod y newyddion yn "siom i ni gyd".

Roedd y bridiwr enwog o Bennant yng Ngheredigion yn edrych ymlaen.

Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd: "Mae unrhyw ddathliad yn achlysur i'w gefnogi - mae'n rhaid bod y trefnwyr wedi cael cymaint o siom."

Er nad yw ar y cyngor bellach ychwanegodd Mr Lloyd: "Os o'n nhw'n teimlo bod cyn lleied wedi rhoi eu henw gerbron a bod e ddim yn mynd i fod yn broffidiol doedd dim llawer o ddewis gyda nhw."

Er fod y gymdeithas wedi canslo'r digwyddiad dywedon nhw eu bod dal yn awyddus i ystyried ffyrdd eraill o nodi'r garreg filltir.

Felly maen nhw'n bwriadu bwrw ymlaen â chynlluniau i gynnal cystadleuaeth y beirniaid ifanc a oedd i fod i gael ei chynnal yn ystod y sioe.

Bydd y gymdeithas hefyd yn cysylltu â'r rhai hynny sydd wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad neu wedi'i noddi ynghylch trefniadau ad-dalu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig