Crynodeb

  1. Y tywydd yn effeithio 'ar bawb', nid dim ond 'pobl fregus'wedi ei gyhoeddi 09:56 GMT+1

    Mae'r tymheredd eithafol sydd i'w ddisgwyl heddiw yn ddigon drwg i effeithio ar bawb, ac nid dim ond pobl fregus, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

    "Rydyn yn poeni - dyna bwrpas rhybudd gwres coch," dywedodd Yr Athro Isabel Oliver wrth raglen Radio Wales Breakfast.

    "Rydym yn disgwyl gwres difrifol all beri risg i bawb, gan gynnwys pobl iach, ac effeithio ar y GIG a seilwaith eraill fel trafnidiaeth."

    Ond dywedodd bod modd rhagweld ac atal effeithiau iechyd gwres trwy gamau fel cysgodi, yfed digon o ddŵr, osgoi gwisgo dillad tynn a chau ffenestri a llenni rhag yr haul.

    IsabelFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

    Mae hefyd yn cynghori pobl i bwyllo wrth ymarfer corff yn ystod y cyfnod poethaf ganol dydd neu wrth nofio yn yr awyr agored, gan fod llawer o ddamweiniau'n digwydd pan fo'r tywydd yn boeth.

    "Mae gan y corff fel arfer system rheoli tymheredd sy'n golygu ei fod yn gwneud pethau penodol i helpu i ni oeri, ond pan mae hwnnw'n methu gall pobl ddioddef gorflinder. Wrth gwrs gall waethygu cyflyrau cronig fel clefyd cardiofasgwlaidd, asthma a diabetes."

    Ychwanegodd bod risgiau ynghlwm â digwyddiadau torfol, gan rybuddio pobl i bwyllo rhag yfed alcohol a diodydd llawn siwgr.

    "Os yw pobl yn teimlo effeithiau gorflinder gwres - teimlo'n benwan, cur pen, teimlo'n gyfoglyd - mae'n hollbwysig eu bod yn symud i fan oer a thynnu dillad diangen fel siacedi neu sanau.

    "Os ydych yn gweld pobl yn dioddef rhowch ddigon o ddŵr iddyn nhw i'w yfed ac oeri'r croen."

  2. Pennaeth: Ysgolion yn gallu mynd yn 'eithriadol o dwym'wedi ei gyhoeddi 09:47 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae'r gwres hefyd yn amharu ar y byd addysg yng Nghymru, medd Matthew Evans sy'n bennaeth ar ysgolion Glantaf a Bro Edern.

    "Mae hyn yn sefyllfa hynod o wahanol i ni, mae'n sefyllfa anarferol. Mae'r sefyllfa mewn ysgolion yn gymharol anodd, gyda'n hadeiladau ni heb eu codi ar gyfer gwres fel hyn.

    "Pan mae gyda chi 30 o ddisgyblion ac athrawon mewn dosbarth mae'r ystafell yn poethi 'ta beth ond yn yr adeiladau yma dydy'r ffenestri ddim yn agor mwy na rhyw fodfedd ac mae hynny hefyd yn wir am ysgolion gydag adeiladau newydd fel Bro Edern sydd gyda bloc gwydr tri llawr."

    GlantafFfynhonnell y llun, Google

    "O ran penderfynu os ydyn ni am gau'r ysgol, mae angen edrych ar yr ysgol gyfan," ychwanegodd y pennaeth.

    "Mae arlwyo, er enghraifft, yn heriol iawn. Yr amgylchiadau i goginio ar gyfer dros mil o blant yn mynd yn annioddefol o boeth i'r staff.

    "Ac wedyn 'dan ni'n sôn am ddisgyblion bregus neu sydd gydag anghenion arbennig sy'n gallu ffeindio hi'n eithriadol o anodd i ymdopi.

    "Rydyn ni wedi bod yn rhoi negeseuon cadarn i'n disgyblion i ddychwelyd adref ac i beidio ymgasglu mewn parciau, ac wrth gwrs i fod yn ymwybodol o beryglon dŵr agored."

  3. RNLI: Pwysig cadw'n ddiogel ar y glannauwedi ei gyhoeddi 09:34 GMT+1

    Mae mor bwysig cadw'n ddiogel ar hyd y glannau, medd Rhian Davies o'r RNLI.

    "Mae'n bwysig bob amser i fod yn ofalus o gwmpas dŵr ond mewn tywydd poeth mae mwy o bobl yn mynd i'r dŵr i oeri.

    "Mae'n bwysig ofnadwy bod yn ymwybodol o'r peryglon - un o'r risgiau mwyaf yw dŵr oer.

    "Mae'r corff yn gallu mynd i banic - 'dach chi ddim yn gallu anadlu'n iawn a 'dach chi'n gallu bod mewn argyfwng yn sydyn iawn yn y sefyllfa yna."

    Rhian Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhian Davies o'r RNLI yn rhybuddio am beryglon mynd i ddŵr oer

  4. Pa rybuddion sydd mewn grym?wedi ei gyhoeddi 09:25 GMT+1

    Am y tro cyntaf ers iddo gael ei gyflwyno, mae rhybudd coch am wres eithafol mewn grym yng Nghymru heddiw a 'fory.

    Mae'r rhybudd coch mewn grym rhwng 09:00 heddiw a 21:00 nos Iau ar gyfer nifer o siroedd yn ne a chanolbarth Cymru.

    Mae disgwyl i'r tymheredd yn y cysgod fod tua 37C yn yr ardaloedd yma, ac fe allai godi i ryw 40C mewn rhai mannau.

    Mae rhybudd oren hefyd mewn grym ar gyfer pob sir yng Nghymru trwy gydol dydd Mercher a dydd Iau.

    Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl y bydd y tymheredd yn uwch na 30C yn ystod y dydd yn yr ardaloedd yma.

    Rhybuddion tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
  5. Trafnidiaeth Cymru: 'Peidiwch â theithio os nad oes rhaid'wedi ei gyhoeddi 09:19 GMT+1

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Mae'r gwres yn cael effaith ar y systemau trafnidiaeth yng Nghymru, fel esbonia Gethin Jones o Drafnidiaeth Cymru.

    "Mae yna waith paratoi wedi bod ar y gweill ar gyfer heddi a 'fory. Y cyngor yw i beidio teithio os nad yw e'n gwbl angenrheidiol, yn enwedig mewn ardaloedd gyda rhybudd coch.

    "Os 'da chi methu teithio heddiw a 'fory mae 'na groeso i chi ddefnyddio eich tocynnau ddydd Gwener.

    "Gyda digwyddiadau mawr yng y brifddinas heno, mae gyda ni dîm digwyddiadau arbennig sy'n edrych ar amryw o scenarios.

    "Rydyn ni'n disgwyl noson hynod o brysur ond fe fydd staff gerllaw i gynnig cymorth a wedyn mae dŵr gyda ni ar gael yn y gorsafoedd hefyd. Ond y cyngor yw i wirio'r daith cyn i chi deithio."

    trenFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Pa mor gynnes oedd hi ddoe? Wel poeth iawn!!!wedi ei gyhoeddi 09:11 GMT+1

    Ddoe cofnodwyd y diwrnodau poethaf eleni yn Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

    Ond roedd hi'n boethach yng Nghymru wrth i'r tymheredd gyrraedd 32.2C ym Mharc Bute yng Nghaerdydd.

    Yn Lloegr ddoe roedd hi'n 34.6C yn Wisley, Surrey - dyna lle oedd hi boethaf.

    Roedd hi.n 20C yn Aberdeen a 28.1 yn Katesbridge yn Sir Down yng Ngogledd iwerddon.

    dynes a ffanFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Yr ysgolion sydd ar agor wedi gohirio digwyddiadau yn yr haulwedi ei gyhoeddi 09:03 GMT+1

    Mae nifer o ysgolion ar gau ac o ran y rhai sydd ar agor dywed cynghorau eu bod yn monitro'r sefyllfa ac yn gweithio gydag ysgolion i asesu'r risgiau.

    Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful fod diwrnodau chwaraeon a theithiau ysgol yn cael eu gohirio neu eu canslo lle bo' modd, gyda llai o weithgarwch corfforol a mwy o egwyliau dŵr yn cael eu trefnu.

    Mae'r cyngor hefyd wedi gofyn i ysgolion ystyried lleihau'r amser y mae disgyblion yn ei dreulio yn yr haul a darparu prydau ysgafnach yn ystod y cyfnod poeth.

    Mae Cyngor Sir Fynwy wedi dweud y dylai ysgolion roi "ystyriaeth ddifrifol" i addasu, gohirio neu ganslo digwyddiadau os nad oes modd lleihau'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwres.

    Dywedodd Cyngor Bro Morgannwg mai penderfyniad pob ysgol unigol fydd trefnu unrhyw newidiadau i weithgareddau neu oriau agor.

    Fydd yna ddim digwyddiadau o'r math yma mewn ysgolion yr wythnos honFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Fydd yna ddim digwyddiadau o'r math yma mewn ysgolion heddiw ac yfory

  8. Pawb wedi gorfod addasu gan gynnwys cyngerdd The Curewedi ei gyhoeddi 08:50 GMT+1

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae'n ymddangos yn dawelach yma y tu allan i orsaf Canol Caerdydd y bore 'ma - pobl i weld yn gwrando ar y cyngor sydd wedi dod gan gwmnïau trên - Trafnidiaeth Cymru a chwmni Great Western hefyd - sef teithio ond os oes rhaid dros y dyddiau nesaf.

    Ma gwres eithafol yn gallu effeithio ar y cledrau a'r llinellau pŵer, gan olygu y gall gwasanaethau gael eu canslo neu wynebu oedi - a bydd 'na gyfyngiadau cyflymder hefyd sy'n golygu y gallai siwrne pobl gymryd yn hirach.

    Os yw pobl wedi prynu tocynnau'n barod ar gyfer teithio heddiw neu 'fory mae modd eu defnyddio nhw ddydd Gwener, neu ofyn am eich arian yn ôl.

    Mae digwyddiadau hefyd yn gorfod addasu. Yn ardal y Gored Ddu - neu Blackweir - mae The Cure yn perfformio heno o flaen torf o rai degau filoedd.

    Mae'r trefnwyr wedi bod yn cyflwyno mesurau ychwanegol i gadw pawb yn ddiogel - mwy o ardaloedd dan gysgod, mwy o orsafoedd dŵr a sicrhau bod hawl gan bobl ddod â mwy nag un potel ddŵr gyda nhw er enghraifft.

    Blackweir
  9. Cannoedd o ysgolion ar gau mewn o leiaf 13 sirwedi ei gyhoeddi 08:42 GMT+1

    Mae dros 500 o ysgolion wedi cyhoeddi na fyddan nhw ar agor neu eu bod ar gau yn rhannol ddydd Mercher a ddydd Iau.

    Ddechrau'r wythnos roedd ysgolion wedi cael eu hannog i asesu'r risgiau i ddisgyblion ac ystyried gohirio neu addasu gweithgareddau awyr agored.

    Mae ysgolion mewn o leiaf 13 sir wedi dweud eu bod ar gau oherwydd y tywydd eithafol.

    Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

    Mae'r rhan fwyaf o'r ysgolion yn bwriadu ailagor ddydd Gwener.

    Mae mwy o wybodaeth ar wefannau'r awdurdodau lleol.

    NefynFfynhonnell y llun, SusySunshine/Weather Watchers
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa yn Nefyn yr wythnos hon

  10. Croeso atom ar ddiwrnod hanesyddol o gynneswedi ei gyhoeddi 08:37 GMT+1

    Mae Cymru yn paratoi ar gyfer y rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

    Mae ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru wedi newid trefniadau.

    Dilynwch y diweddaraf yn fyw - croeso aton ni.

    LlangollenFfynhonnell y llun, Weather Watchers/Bramble Bear
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwartheg yn Llangollen yn falch bod dŵr gerllaw