Athrawes yn 'ail-fyw' ymosodiad disgybl gyda chyllell 'bob dydd'

- Cyhoeddwyd
Mae athrawes a gafodd ei thrywanu yn ei phen gan ddisgybl mewn ysgol yn Sir Benfro wedi dweud wrth y llys fod y digwyddiad yn rhywbeth "mae'n ail-fyw bob dydd" a'i bod yn credu ei bod yn mynd i farw.
Cafodd Vicki Williams, athrawes hanes yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, ei thrywanu gan ddisgybl ar 5 Chwefror.
Clywodd y llys fod y bachgen, oedd yn 15 ar y pryd, wedi dilyn Vicki Williams i mewn i'w hystafell gan ofyn am help gyda'i waith hanes, cyn "hyrddio" ati gyda chyllell gegin fawr.
Dywedodd Mrs Williams iddi gael ei thrywanu yn ei phen a chael anafiadau i'w dwylo a'i chefn wrth geisio amddiffyn ei hun.
Mae'r bachgen, na ellir ei enwi oherwydd ei oed, yn gwadu ceisio llofruddio, anafu'n fwriadol ac anafu'n anghyfreithlon.

Rhodddodd Vicki Williams dystiolaeth i'r llys ddydd Mawrth
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth, clywodd y rheithgor fod Mrs Williams wedi dysgu'r bachgen yn ystod y bore ac nad oedd unrhyw broblemau gyda'r bachgen dan sylw.
Wrth gael ei chroesholi, gofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyn, Matthew Roberts KC, iddi: "Oeddech chi'n dod ymlaen yn dda [gyda'r bachgen]?"
"Roeddwn i'n credu hynny," meddai.
Gyda'r bachgen wedi methu gwers flaenorol, dywedodd fod ganddo beth gwaith "copïo i fyny" i'w wneud.
O ystyried fod arholiadau ffug wedi bod a'r ffaith bod arholiadau TGAU ar y gorwel, "a oedd hi'n anarferol iddo ddod i'ch gweld chi ar ddiwedd y dydd?" gofynnodd yr amddiffyn.
"Oedd," meddai.
"Doedd e erioed wedi dod i wirio gwaith cyn y pwynt hynny."

Clywodd y llys fod y bachgen wedi cau drws yr ystafell ddosbarth, cyn dod i sefyll y tu ôl i Mrs Williams oedd yn esbonio'r gwaith wrth ei desg.
Dywedodd Mrs Williams: "Yr holl amser, roedd yn twrio yn ei fag, doedd e ddim yn edrych [ar y llyfr].
Dywedod bod hynny'n "dacteg i wneud i mi barhau i siarad", a'i fod yna wedi gwneud "symudiad araf i geisio mynd y tu ôl i mi".
"Mae'n tynnu rhywbeth allan o'i fag. Ar y pwynt yna, mae'n fy nharo i fy nghadair. Rwy'n edrych i fyny ac mae'r gyllell gyda'i blaen tuag i lawr."

Cafodd deunydd bodycam yr heddlu ei chwarae yn y llys o'r cyfnod lle'r oedd y gwasanaethau brys yn ymateb i'r digwyddiad.
Roedd Mrs Williams i'w chlywed yn dweud "rwy'n credu ei fod wedi fy mwrw gyda'r handlen [y gyllell] ".
Wrth ei chroesholi, dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyn: "Yn eich cyfweliad heddlu, rydych chi'n dweud, 'Roeddwn i'n gallu gweld yr ochr finiog'.
"Pam na fyddech wedi dweud hynny wrth yr heddlu yn y lle cyntaf?" gofynnodd.
"Roedd y peth newydd ddigwydd, roedd gen i deimlad cryf o ofid ac yn ceisio deall beth oedd wedi digwydd a pham."

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Mrs Williams wedi gofyn i'r bachgen beth oedd yn ei fag, a gofyn iddo dynnu'r eitem allan.
"Na," atebodd Mrs Williams, "nid dyna ddigwyddodd."
Dywedodd yr amddiffyniad fod y bachgen wedi tynnu'r gyllell o'i fag, fel yr oedd hi wedyn gofyn iddo wneud, a bod yr ochr finiog yn wynebu'r athrawes, tra'r oedd yn eistedd i lawr.
"Na. Nid dyna ddigwyddodd o gwbl," meddai.
Disgrifiodd yr athrawes lygaid y bachgen yn ystod yr ymosodiad fel "casineb pur" ac yn llygaid na fyddai yn eu hanghofio yn fuan.
"Rwy'n gwybod fy mod wedi cael fy nhrywanu yn fy mhen," meddai.
"Rwy'n ofni fy mod yn mynd i farw, rwy' wedi gweld y gyllell, rwy'n gwybod fy mod wedi cael fy nhrywanu, yr oll rwy'n meddwl am ar y pwynt yna yw 'dwi angen help'.
"Roeddwn i mewn sioc. Fy mhryder cyntaf oedd, 'rwy'n marw, dydw i ddim yn mynd i weld fy merch eto'.
"Mae hyn yn rhywbeth mae'n rhaid i mi ailfyw bob dydd", meddai.
"Roedd hwn yn bendant yn ymosodiad arna i."
Disgybl wedi trywanu athrawes yn ei phen gyda 'chyllell gegin fawr'
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Gofynnodd yr amddiffyniad: "Onid sgarmes a ddigwyddodd oherwydd ei ddiffyg parodrwydd i chi fynd â'r gyllell oedd hyn?"
Gwadu hynny wnaeth yr athrawes.
Aeth ymlaen i ddweud: "O'n i'n sefyll pan darodd fi, a nath grym yr ergyd fy ngwthio i lawr i fy nghadair.
"Roedd e'n teimlo'n drwm iawn, roedd e'n teimlo fel bod llawer o rym ar fy mhen.
"Dwi'n gweld mai cyllell sydd ganddo fe pan mae'n ei dynnu yn ôl," meddai.
"Mae'n symud yn ôl er mwyn ceisio ymosod arna'i eto, ac yn gwneud symudiad trywanu.
'Gallwn weld gwaed… ar gefn ei phen'
Rhoddodd arweinydd diogelu'r ysgol, Catherine Wilcox, dystiolaeth i'r llys hefyd, gan ddweud fod Mrs Williams yn edrych yn "ofnadwy" wedi'r digwyddiad.
"Roedd ei chroen yr un lliw a chorff marw," meddai.
"Roedd y lliw wedi mynd yn llwyr oddi wrthi, roedd ei gwallt yn wyllt a dros y lle i gyd. Ro'n i'n meddwl ei bod hi'n edrych yn ofnadwy."
Aeth ymlaen i ddweud fod Mrs Williams wedi dangos ei phen iddi a dweud "fe gafodd fi yn fy mhen".
"Gallwn weld gwaed… ar gefn ei phen," meddai.
Y trydydd person i roi tystiolaeth oedd DC Henry Foster a ddywedodd nad oedd CCTV yn y dosbarth ond fod camerâu yng nghoridorau'r ysgol.
Gwelodd y rheithgor fideo oedd yn dangos disgybl arall yn difrodi drws ystafell ddosbarth Mrs Williams rhai diwrnodau ynghynt, gan falu'r gwydr. Roedd Mrs Williams yn dysgu blwyddyn 7 ar y pryd.
Cafodd y bachgen sydd wedi ei gyhuddo yn yr achos hwn, ei weld yn ymwneud gyda'r disgybl oedd wedi difrodi drws Mrs Williams ar sawl achlysur ar gamerâu'r ysgol y diwrnod hwnnw.
Cafodd fideo o ddiwrnod yr ymosodiad ar yr athrawes ei ddangos hefyd.
Roedd yn dangos y bachgen yn cerdded i mewn i ystafell Mrs Williams, ac yn rhedeg oddi yno dau funud a 30 eiliad yn ddiweddarach.
Mae'r athrawes i'w gweld yn dod allan o'i dosbarth yn dal y gyllell yn un llaw, ac yn dal ei phen gyda'r llall.
Mae Mrs Williams yn rhoi'r gyllell i gydweithiwr, ac mae'r bachgen yn mynd am yr allanfa ar safle'r ysgol.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.