Rhybudd am gyfnod 'tyngedfennol' i'r Gymraeg wrth addo cynllun yn yr hydref

Dywedodd Anna Brychan y bydd yn cyhoeddi "strategaeth newydd" ar gyfer y Gymraeg yn yr hydref
- Cyhoeddwyd
Mae'r "blynyddoedd nesa'n dyngedfennol" i'r Gymraeg meddai'r gweinidog newydd sydd â chyfrifoldeb amdani.
Roedd Anna Brychan AS, Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, yn gwneud datganiad am y tro cyntaf yn y Senedd ar flaenoriaethau llywodraeth Plaid Cymru ar gyfer yr iaith.
Dywedodd y bydd yn "gosod cyfeiriad clir gyda strategaeth newydd, gref, gydlynus ar gyfer y Gymraeg" yn yr hydref.
Yn y cyfamser, ychwanegodd y bydd y llywodraeth dros yr haf yn "cynnal sgyrsiau Miliwn a Mwy gyda'n partneriaid, i ailddiffinio'r cyfeiriad, symbylu cydweithio creadigol, a chyflawni'n gyflym".
Tair prif flaenoriaeth
Dywedodd Anna Brychan fod gan y llywodraeth dair prif flaenoriaeth.
O ran addysg, y bwriad yw creu "llwybrau cydlynus ym myd addysg", gan gynnwys "ehangu darpariaeth Gymraeg i'n plant lleia", creu "Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gymraeg a Dysgu Cymraeg... i sicrhau bod hanner plant Cymru yn cychwyn eu siwrne mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050" a "sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu parhau i ddysgu, defnyddio, gweithio – a mwynhau – yn y Gymraeg ar ôl 16".

Mae creu deddfau i warchod enwau lleoedd yn cael ei ystyried, meddai'r gweinidog
Yn ail, bydd y llywodraeth yn dynodi cymunedau o ddwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg gan eu bod yn "greiddiol i ddyfodol y Gymraeg".
Dywedodd y "bydd ein polisïau cyhoeddus yn adlewyrchu hyn, o ran polisi economaidd, tai, cynllunio gwlad a thref, cyfiawnder cymdeithasol, iechyd, diwylliant ac addysg".
Mae dwy flynedd wedi pasio ers i'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg ddweud bod dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn ganolog i warchod a chryfhau'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.
A'r flaenoriaeth olaf, meddai'r gweinidog, yw'r "sylfeini sy'n cynnal yr iaith", gan gynnwys "ehangu Safonau'r Gymraeg i sectorau newydd" ac "rydyn ni wedi dechrau ystyried deddfu er gwarchod yr enwau lleoedd sy'n rhan mor hanfodol o'n hunaniaeth ni i gyd".

Mewn cyfweliad yn ddiweddarach, nid oedd y gweinidog yn gallu dweud faint o weithwyr ychwanegol fydd eu hangen er mwyn i hanner plant Cymru ddechrau eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar Newyddion S4C cafodd ei holi bedair gwaith faint o staff fyddai eu hangen, ond ni wnaeth roi ffigwr.
Dywedodd bod y llywodraeth "yn gweithio ar hynny ar hyn o bryd", ac y byddai'n "rhannu ragor ar hyn wrth i amser fynd ymlaen".
"Y neges bwysig i bobl glywed yw dyna ein targed a byddwn ni'n sicrhau bod ni'n gweithio ar gynlluniau parthed y gweithlu i'w cyrraedd nhw."
Tebyg yw'r sefyllfa ar gyfer y gweithlu gofal plant iau hefyd, meddai, gan ddweud bod y llywodraeth yn gweithio gyda chyrff fel Mudiad Meithrin "sydd â'r arbenigedd a'r staff yn eu lle... i sicrhau ein bod ni'n diwallu'r anghenion sydd yn y system i ddiwallu'r anghenion rheiny".
'Ni ellir gorfodi cariad at iaith'
Yn y Senedd, dywedodd Helen Jenner ar ran Reform bod "yna gymaint y medrwn ni i gyd gytuno arno fo yn y datganiad", ond rhybuddiodd, "ni ellir gorfodi cariad at iaith".
"Mae'n dechrau gyda chyfle, mae'n tyfu gyda hyder ac mae'n ffynnu pan fydd pobl yn teimlo bod croeso iddyn nhw ei defnyddio", meddai.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i bobl Cymru. Mae'n perthyn i bob un ohonom."
Dywedodd Huw Thomas ar ran Llafur Cymru ei fod yn "ychwanegu ein llais ni i'r gefnogaeth drawsbleidiol sydd i'r Gymraeg yn y Siambr yma bellach".
Gan gyfeirio at y nod o ddyblu defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050, dywedodd ei bod "hi'n angenrheidiol, yn fy marn i, grymuso pobl i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gennyn nhw, boed hynny yn y gweithle, ar-lein neu yn eu cymunedau".
Pwysleisiodd yr angen i "sicrhau bod technoleg newydd yn gweithio er lles yr iaith".
Rali Cymdeithas yr Iaith yn galw am strategaeth glir dros y Gymraeg
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Ymchwilio i honiadau o 'ddiffyg ystyriaeth o'r Gymraeg' gan Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
'Angen camau radical i warchod y Gymraeg' - comisiwn
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
Dywedodd y Ceidwadwr Paul Davies, "rhaid i ehangu cyfleoedd i gael mynediad at addysg gyfrwng Cymraeg fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, gan mai dim ond 21% o blant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn ôl canlyniadau diweddaraf cyfrifiad yr ysgolion".
"Dwi'n credu y gall gwaith gael ei wneud o ran teithio dysgwyr a allai helpu i nodi rhwystrau i ddysgu'r Gymraeg".
Ymatebodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith ei fod yn "ddatganiad cychwynnol addawol".
"Rydym yn croesawu'r ffaith bod addysg Gymraeg, y Gymraeg fel iaith gymunedol a seilwaith y Gymraeg yn cael eu henwi fel blaenoriaethau ar gyfer camau gweithredu i gryfhau'r Gymraeg ym mhob ran o Gymru a bod cyfeirio at greu llwybrau i sicrhau miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg."
Ychwanegodd bod y gymdeithas yn edrych ymlaen at gael "rhagor o fanylion am sut, pryd a phwy fydd yn gyfrifol am weithredu ar y blaenoriaethau hyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.